5.—(1) Mae Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn yn cael effaith i gymhwyso gydag addasiadau ddarpariaethau adran 28 o'r Ddeddf, a Rhan II o Atodlen 6 iddi, ynglŷn â chynigion o'r math a grybwyllir yn rheoliad 4.
(2) Nodir darpariaethau adran 28 o'r Ddeddf a gymhwysir felly, a Rhan II o Atodlen 6 iddi, yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn, fel y'u haddaswyd; a chyda chyfeiriadau at y Cynulliad (y breiniwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol ynddo bellach) yn cymryd lle'r cyfeiriadau at yr Ysgrifennydd Gwladol.