- Latest available (Revised)
- Original (As made)
This is the original version (as it was originally made).
9. Yn Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestr Atodol Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2002(1)—
(a)yn rheoliad 4(2) (cais i gynnwys enw yn y rhestr atodol) yn lle is-baragraff (d), rhodder—
“(d)cymwysterau meddygol ac ym mhle y cafwyd hwy, a chopi o'r dystiolaeth sy'n cadarnhau bod y ceisydd—
(i)yn ymarferydd cyffredinol cymwys yn unol â pharagraff 22 o Atodlen 8 i Orchymyn Ymarfer Meddygol Cyffredinol ac Arbenigol (Addysg, Hyfforddiant a Chymwysterau) 2003, os cafodd y cais ei wneud yn ystod y cyfnod trosiannol a nodir ym mharagraff 21 o Atodlen 8 i'r Gorchymyn hwnnw, neu
(ii)wedi cael cynnwys ei enw yn y Gofrestr o Ymarferwyr Cyffredinol a gedwir gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol yn unol ag erthygl 10(1) o'r Gorchymyn hwnnw, ac”;
(b)yn rheoliad 6(2) (rhesymau dros wrthod), yn lle is-baragraff (ch) rhodder—
“(ch)os nad yw'n fodlon bod y meddyg—
(i)yn ymarferydd cyffredinol cymwys yn unol â pharagraff 22 o Atodlen 8 i Orchymyn Ymarfer Meddygol Cyffredinol ac Arbenigol (Addysg, Hyfforddiant a Chymwysterau) 2003, os yw'r Awdurdod Iechyd neu'r Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu'r cais yn ystod y cyfnod trosiannol a nodir ym mharagraff 21 o Atodlen 8 i'r Gorchymyn hwnnw, neu
(ii)wedi cael cynnwys ei enw yn y Gofrestr o Ymarferwyr Cyffredinol a gedwir gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol yn unol ag erthygl 10(1) o'r Gorchymyn hwnnw, a”.
O.S. 2002/1882 (Cy. 191), y gwnaed diwygiadau perthnasol iddo gan O.S. 2002/2802 (Cy. 270).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area.
Original (As Enacted or Made): The original version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: