Search Legislation

The Relocation Grants (Form of Application) (Welsh Form of Application) Regulations 1999

What Version

 Help about what version
  • Latest available (Revised)
  • Original (As made)

Status:

This is the original version (as it was originally made). UK Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

55.  Rhowch “Ydw (etc)” yn ateb i'r cwestiwn hwn—

(1) os ydych chi, neu'ch partner, o dan 60 oed ac os yw un neu ragor o'r amodau canlynol wedi'u bodloni:

(a)yr ydych chi, neu'ch partner, yn cael lwfans gweini, lwfansau byw i'r anabl, lwfans gweithio i'r anabl, atodiad symudedd, budd-dâl analluogrwydd hir-dymor neu lwfans anabledd difrifol (ond yn achos budd-dâl analluogrwydd hir-dymor neu lwfans anabledd difrifol, dim ond pan gaiff ei dalu mewn perthynas â'r person sy'n cael y budd-dâl neu'r lwfans);

(b)yr ydych chi, neu'ch partner, wedi peidio â chael budd-dâl analluogrwydd hir-dymor (neu, os yw paragraff (2) yn gymwys, os gwnaethoch chi neu'ch partner beidio â chael pensiwn analluogrwydd cyn 13 Ebrill 1995) am fod pensiwn ymddeol yn cael ei dalu ac, yn achos eich partner, y mae ef/hi yn dal yn aelod o'ch teulu;

(c)yr oeddech chi, neu'ch partner, yn cael lwfans gweini neu lwfans byw i'r anabl ond

(i)mae taliadau'r budd-dâl wedi'u hatal o dan adran 113(2) o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992, neu

(ii)maent wedi peidio fel arall am eich bod chi, neu'ch partner, yn cael triniaeth am ddim fel claf mewnol mewn ysbyty neu sefydliad tebyg (ond nid pan fyddwch chi, neu ef/hi, yn bwrw tymor mewn carchar neu sefydliad sy'n ddalfa i'r ifanc);

(d)y mae cerbyd yr anabl neu gerbyd arall neu grant ar gyfer cerbyd o'r fath wedi'i ddarparu ar eich cyfer chi neu'ch partner o dan ddeddfwriaeth Cymru a Lloegr neu'r Alban;

(e)yr ydych chi, neu'ch partner, wedi'ch cofrestru'n ddall neu wedi peidio â bod wedi'ch cofrestru felly nid mwy na 28 wythnos yn ôl;

(f)(i)yr ydych yn analluog i weithio, neu'n cael eich trin felly, o dan Ran XIIA o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992; ac

  • yr ydych wedi bod â hawl i gael tâl salwch statudol neu yr ydych wedi bod yn analluog i weithio, neu'n cael eich trin felly, am o leiaf y 364 diwrnod diwethaf yn barhaus neu, os ydych yn derfynol wael, am o leiaf y 196 diwrnod diwethaf yn barhaus (gan gynnwys unrhyw gyfnod o analluogrwydd cyn 13 Ebrill 1995 sy'n bodloni amod (f)(ii) isod; ac anwybyddwch unrhyw fwlch neu fylchau, hyd at 56 o ddiwrnodau yr un, rhwng cyfnodau o analluogrwydd ac, ar ôl i chi orffen y cyfnod cymhwyso, unrhyw gyfnod o hyfforddiant cyflogaeth neu gyfnod cael lwfans hyfforddi); neu

    (ii)

    yn union cyn 13 Ebrill 1995, mewn perthynas â chyfnod parhaus o 28 wythnos o leiaf,

    • y gwnaethoch chi neu'ch partner ddarparu tystiolaeth am analluogrwydd yn unol â rheoliad 2 o Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Tystiolaeth Feddygol) 1976 (neu ddeddfwriaeth gyffelyb yng Ngogledd Iwerddon) fel yr oedd mewn grym ar y pryd i gefnogi cais am fudd-dâl salwch, pensiwn analluedd neu lwfans anabledd difrifol o fewn ystyr adrannau 31, 33 neu 68 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 (neu ddeddfwriaeth gyffelyb yng Ngogledd Iwerddon) fel yr oedd mewn grym ar y pryd, ar yr amod nad oedd swyddog dyfarnu wedi penderfynu nad oeddech chi neu, yn ôl yr achos, eich partner heb allu gweithio, neu

    • yr oeddech chi neu'ch partner yn cael tâl salwch statudol o dan Ran XI o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 fel yr oedd mewn grym ar y pryd;

    • ac o 13 Ebrill 1995 yr ydych chi neu, yn ôl yr achos, eich partner wedi parhau i fod yn analluog i weithio yn unol â Rhan XIIA o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 yn barhaus (anwybyddwch unrhyw fwlch neu fylchau o hyd at 56 o ddiwrnodau yr un rhwng cyfnodau o analluogrwydd);

(2) os ydych chi, neu'ch partner, o dan 80 oed ond heb fod o dan 60 oed bod un neu ragor o'r amodau yn (a) i (f) ym mharagraff (1) wedi'i fodloni (ond yn achos amod (f)(i), ar ôl i chi orffen y cyfnod cymhwyso, ni fydd modd anwybyddu unrhyw gyfnod o hyfforddiant cyflogaeth neu gyfnod cael lwfans hyfforddi); neu

(3) os byddai paragraff (1) neu (2) yn gymwys i'ch partner, heblaw bod eich partner yn cael ei drin/thrin fel petai'n gallu gweithio drwy ddyfarniad o dan adran 171E o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992; neu

(4) os ydych wedi bod yn analluog i weithio, neu os ydych wedi cael eich trin fel person o'r fath, o dan Ran XIIA o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 am gyfnod di-dor o 196 o ddiwrnodau o leiaf (anwybyddwch unrhyw fwlch neu fylchau hyd at 56 o ddiwrnodau yr un rhwng cyfnodau o analluogrwydd); neu

(5) os yw un neu ragor o'r canlynol (gan gynnwys y rhai cyfatebol a geir yng Ngogledd Iwerddon) yn daladwy ar eich cyfer chi neu'ch partner:

(a)budd-dâl analluogrwydd hir-dymor;

(b)budd-dâl analluogrwydd tymor-byr yn ôl y gyfradd uwch;

(c)lwfans gweini;

(d)lwfans anabledd difrifol;

(e)lwfans byw i'r anabl;

(f)cynyddu pensiwn anabledd ar gyfer gweini cyson;

(g)cynydd mewn pensiwn o dan gynllun pensiwn rhyfel neu gynllun anafiadau diwydiannol ar gyfer gweini, gweini cyson, neu'r hyn sy'n cyfateb i lwfans byw i'r anabl; neu

(6) os oedd un o (5)(b), (e), (f) neu (g) yn daladwy oherwydd eich analluogrwydd chi neu analluogrwydd eich partner ond peidiodd â bod yn daladwy o ganlyniad i chi neu iddo/iddi gael triniaeth feddygol neu driniaeth arall am ddim fel claf mewnol mewn ysbyty NHS neu sefydliad tebyg neu o dan drefniadau a wnaed gan gorff NHS neu'r Ysgrifennydd Gwladol (sylwer: nid yw person sy'n bwrw tymor mewn carchar neu sefydliad sy'n ddalfa i'r ifanc yn cael ei gyfrif yn “glaf mewnol”); neu

(7) os yw cerbyd yr anabl neu gerbyd arall neu lwfans ar gyfer cerbyd o'r fath wedi'i ddarparu ar eich cyfer chi neu'ch partner (gan gynnwys pan fo'r cerbyd neu'r lwfans wedi'i ddarparu o dan ddeddfwriaeth Gogledd Iwerddon).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area.

Original (As Enacted or Made):The original version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once