- Latest available (Revised)
- Original (As made)
This is the original version (as it was originally made). UK Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
19. After note 52A, insert—
“52B. Dylech ateb “Nac ydwyf” i’r cwestiwn hwn lle darperir y gofal gennych chi neu’ch partner ar gyfer plentyn a enwyd yng nghwestiwn 3.22 a lle bo’r naill bartner yn codi tâl ar y llall am ddarparu’r gofal.
53. Yr ysgolion a’r sefydliadau eraill y cyfeirir atynt, sydd wedi eu heithrio rhag cofrestru o dan adran 71 Deddf Plant 1989 gan baragraffau 3 a 4 Atodlen 9 y Ddeddf honno, yw:
(a)gan baragraff 3 Atodlen 9—
ysgol a gynhelir neu a gynorthwyir gan awdurdod addysg lleol;
ysgol o dan reolaeth awdurdod addysg;
ysgol y gwneir taliadau mewn perthynas â hi gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 100 Deddf Addysg 1944;
ysgol annibynnol;
ysgol a gynorthwyir â grant;
ysgol a gynhelir â grant;
ysgol hunan-lywodraethol;
canolfan chwarae a gynhelir neu a gynorthwyir gan awdurdod addysg lleol o dan adran 53 Deddf Addysg 1944;
lle bo’r plentyn o dan sylw yn derbyn gofal o dan drefniadau gofal dydd a wneir gan y person sy’n cynnal y sefydliad fel rhan o’i weithgareddau neu gan weithiwr iddo yn y sefydliad sydd wedi ei awdurodi i wneud y trefniadau hynny fel rhan o weithgareddau’r sefydliad; a
(b)gan baragraff 4 yr Atodlen honno—
cartref plant cofrestredig;
cartref gwirfoddol;
cartref cymunedol;
cartref gofal preswyl, cartref nyrsio neu gartref nyrsio meddwl y mae gofyn eu cofrestru o dan Ddeddf Cartrefi Cofrestredig 1984;
un o ysbytai’r gwasanaeth iechyd;
cartref a gaiff ei ddarparu, ei gyfarparu a’i gynnal gan yr Ysgrifennydd Gwladol;
lle bo’r plentyn o dan sylw yn derbyn gofal o dan drefniadau gofal dydd a wneir gan yr adran, yr awdurdod neu’r person arall sy’n cynnal y sefydliad fel rhan o’i weithgareddau neu gan weithiwr yn y sefydliad sydd wedi ei awdurdodi i wneud y trefniadau hynny fel rhan o weithgareddau’r sefydliad.”.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area.
Original (As Enacted or Made):The original version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.