Search Legislation

The Housing Renovation etc. Grants (Prescribed Forms and Particulars) (Welsh Forms and Particulars) (Amendment) Regulations 1995

What Version

 Help about what version
  • Latest available (Revised)
  • Original (As made)

Status:

This is the original version (as it was originally made). UK Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

24.  After note 52, insert—

52A.  Atebwch “Ydwyf/Ydyw” i'r cwestiwn hwn os—

(i) ydych chi, neu'ch partner, o dan 60 oed a bod un neu fwy o'r amodau canlynol wedi'u bodloni:

(a)eich bod chi, neu'ch partner, yn cael lwfans gweini, lwfans byw i'r anabl, lwfans gweithio i'r anabl, atodiad symud-o-gwmpas, budd-dâl analluogrwydd tymor-hir neu lwfans anabledd difrifol (ond yn achos budd-dâl analluogrwydd tymor-hir neu lwfans anabledd difrifol, dim ond lle y'i telir mewn perthynas â'r person sy'n cael y budd-dâl neu'r lwfans);

(b)eich bod chi, neu'ch partner, wedi peidio â chael budd-dâl analluogrwydd tymor-hir (neu, os yw paragraff (ii) yn gymwys, eich bod chi neu'ch partner wedi peidio â chael pensiwn analluedd cyn 13 Ebrill 1995) oherwydd talu pensiwn ymddeol ac, yn achos eich partner, ei fod ef/ei bod hi yn dal yn aelod o'ch teulu;

(c)eich bod chi, neu'ch partner, wedi bod yn cael lwfans gweini neu lwfans byw i'r anabl ond bod taliadau budd-dâl wedi'u hatal o dan adran 113(2) Deddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992;

(d)y darparwyd ar eich cyfer chi, neu'ch partner, gerbyd anabl neu gerbyd arall neu grant ar gyfer cerbyd o'r fath, o dan ddeddfwriaeth Cymru a Lloger neu'r Alban;

(e)eich bod chi, neu'ch partner, wedi'ch cofrestru'n ddall neu wedi peidio â bod wedi'ch cofrestru felly ddim mwy nag 28 wythnos yn ôl;

(f)(i)eich bod yn methu â gweithio o dan Ran XIIA Deddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992; ac

  • eich bod wedi methu â gweithio, neu'ch bod wedi cael eich trin fel petaech yn methu â gweithio am o leiaf y 364 diwrnod diwethaf yn ddi-dor neu, os ydych yn derfynol sâl, am o leiaf y 196 diwrnod diwethaf yn ddi-dor (gan gynnwys unrhyw gyfnod o analluogrwydd yn dod cyn 13 Ebrill 1995 ac yn bodloni amod (f)(ii) isod; ac anwybyddwch unrhyw doriad neu doriadau o hyd at 56 diwrnod yr un rhwng cyfnodau o analluogrwydd, a phan fyddwch wedi cwblhau'r cyfnod cymhwyso, unrhyw gyfnod o hyfforddiant cyflogaeth neu unrhyw gyfnod pan fuoch yn cael lwfans hyfforddiant); neu

(ii)yn union cyn 13 Ebrill 1995, mewn perthynas â chyfnod di-dor o ddim llai nag 28 wythnos, eich bod chi neu'ch partner,

  • wedi darparu tystiolaeth o analluogrwydd yn unol â rheoliad 2 y Rheoliadau Nawdd Cymdeithasol (Tystiolaeth Feddygol) 1976 (neu ddeddfwriaeth gyfatebol Gogledd Iwerddon) fel yr oedd bryd hynny mewn grym i ategu cais am fudd-dâl salwch, pensiwn analluedd neu lwfans anabledd difrifol o fewn ystyr adrannau 31, 33 neu 68 Deddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 (neu ddeddfwriaeth gyfatebol Gogledd Iwerddon) fel yr oedd bryd hynny mewn grym, cyn belled ag na wnaeth swyddog dyfarnu benderfynu nad oeddech chi, neu yn ôl y digwydd, eich partner yn methu â gweithio, neu

  • yn cael tâl salwch statudol o dan Ran XI Deddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 fel yr oedd mewn grym ar y pryd;

ac o 13 Ebrill 1995 ymlaen eich bod chi, neu yn ôl y digwydd, eich partner, wedi parhau i fethu â gweithio yn unol â Rhan XIIA Deddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 yn ddi-dor (anwybyddwch unrhyw doriad neu doriadau o hyd at 56 diwrnod yr un rhwng cyfnodau o analluogrwydd);

(ii) eich bod chi, neu'ch partner, yn llai na 80 oed ond ddim yn llai na 60 oed a bod un neu fwy o amodau (a) i (f) ym mharagraff (i) wedi'u bodloni (ond yn achos amod (f)(i), pan fyddwch wedi cwblhau'r cyfnod cymhwyso, ni ellir anwybyddu unrhyw gyfnod o hyfforddiant cyflogaeth nac unrhyw gyfnod pan fuoch yn cael lwfans hyfforddiant); neu

(iii)  byddai paragraff (i) neu (ii) yn gymwys i'ch partner, oni bai bod eich partner yn cael ei drin fel petai'n gallu gweithio drwy ddyfarniad o dan adran 171E Deddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992; neu

(iv) y buoch, neu'ch bod wedi'ch trin fel petaech yn methu â gweithio o dan Ran XIIA Deddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 am gyfnod di-dor o o leiaf 196 diwrnod (anwybyddwch unrhyw doriad neu doriadau o hyd at 56 diwrnod yr un rhwng cyfnodau o analluogrwydd); neu

(v) bod un neu fwy o'r canlynol (gan gynnwys y rhai sy'n cyfateb yng Ngogledd Iwerddon) yn daladwy ar eich cyfer chi neu'ch partner:

(a)budd-dâl analluogrwydd tymor-hir;

(b)budd-dâl analluogrwydd tymor-byr ar y cyfradd uchaf;

(c)lwfans gweini;

(d)lwfans anabledd difrifol;

(e)lwfans byw i'r anabl;

(f)cynnydd mewn pensiwn anabledd am weini cyson;

(g)cynnydd mewn pensiwn o dan gynllun pensiwn rhyfel neu gynllun anafiadau diwydiannol am weini, neu weini cyson, neu sy'n gyfatebol i lwfans byw i'r anabl; neu

(vi) bod un o (v)(b), (e), (f) neu (g) yn daladwy oherwydd eich analluogrwydd chi neu'ch partner ond wedi peidio â bod yn daladwy oherwydd eich bod chi neu ef/hi yn cael triniaeth feddygol am ddim neu driniaeth arall fel claf mewnol yn un o ysbytai'r NHS neu sefydliad cyffelyb neu o dan drefniadau a wnaed gan un o gyrff yr NHS neu'r Ysgrifennydd Gwladol (dalier sylw: nid yw person sy'n bwrw tymor yng ngharchar neu o dan gadwad mewn sefydliad i droseddwyr ifanc yn cael ei gyfrif fel “claf mewnol”); neu

(vii)  darperir cerbyd anabl neu gerbyd arall i chi neu'ch partner neu eich bod chi neu'ch partner yn cael lwfans am gerbyd o'r fath (gan gynnwys lle y darperir y cerbyd neu lwfans o dan ddeddfwriaeth Gogledd Iwerddon)..

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area.

Original (As Enacted or Made):The original version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once