xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Statutory Instruments

1994 No. 693

HOUSING, ENGLAND AND WALES

The Housing Renovation etc. Grants (Prescribed Forms and Particulars) (Welsh Forms and Particulars) Regulations 1994

Made

10th March 1994

Laid before Parliament

14th March 1994

Coming into force

4th April 1994

The Secretary of State for Wales, in exercise of the powers conferred on him by sections 102(2) and (4), 137(2), 138(1)(1), 190(1) and 191(1) of the Local Government and Housing Act 1989(2) as extended by section 26(3) of the Welsh Language Act 1993(3) and of all other powers enabling him in that behalf, hereby makes the following Regulations:–

Citation and commencement

1.—(1) These Regulations may be cited as the Housing Renovation etc. Grants (Prescribed Forms and Particulars) (Welsh Forms and Particulars) Regulations 1994 and shall come into force on 4th April 1994.

(2) In these Regulations “the principal Regulations” means the Housing Renovation etc. Grants (Prescribed Forms and Particulars) Regulations 1994(4).

2.  The forms set out in Schedule 1 to these Regulations are hereby prescribed as versions in Welsh which may be used instead of the corresponding forms in Schedule 1 to the principal Regulations for the purposes set out in regulations 3 and 4 of the principal Regulations.

Revocation

3.  The Regulations listed in Schedule 2 to these Regulations are hereby revoked.

Application

4.  These Regulations shall not have effect in relation to applications for a grant made before 4th April 1994.

Signed by authority of the Secretary of State

Sir Wyn Roberts

Minister of State Welsh Office

10th March 1994

Regulation 2

SCHEDULE 1

FFURFLEN 1CAIS AM GRANT ADNEWYDDU(Enw a chyfeiriad y Cyngor)

NODIADAU

1.  Os yw'r ymgeisydd yn gwmni neu'n gorff tebyg, rhowch y cyfeiriad swyddogol (cofrestredig).

2.  Mae cwestiynau gweddill y ffurflen hon yn ymwneud â'r eiddo y cyfeirir ato yma.

3.  Os codwyd yr eiddo neu os darparwyd ef drwy ei addasu lai na 10 mlynedd yn ôl, nid yw'n gymwys i gael grant adnewyddu.

4.  Os ydych wedi gwneud mwy nag un cais blaenorol, rhowch fanylion pob un ohonynt a manylion unrhyw gyfraniad yr hysbyswyd chi amdano o dan gynllun atgyweirio grŵp. Gall cymeradwyo grantiau blaenorol effeithio ar y gwaith y gellir rhoi grant ar ei gyfer, a hefyd ar faint y grant a fydd yn daladwy.

5.  Os gwyddoch am fwy nag un cais blaenorol am grant, rhowch fanylion pob un ohonynt a manylion unrhyw gyfraniad yr hysbyswyd chi amdano o dan gynllun atgyweirio grŵp, os yw'n hysbys. Gall cymeradwyo grantiau blaenorol effeithio ar y gwaith y gellir rhoi grant ewyllysiol ar ei gyfer.

6.  Os ydych wedi ateb “Na fydd” i gwestiynau 1.9 ac 1.10, ni ddylech fod yn gwneud cais am grant adnewyddu. Ystyriwch eich atebion. Os na allwch ateb “Bydd” i un o'r cwestiynau hyn, peidiwch â mynd ymlaen ymhellach gyda'r cais hwn.

7.  Rhowch ddisgrifiad mor llawn ag y gallwch o'r gwaith arfaethedig. Bydd o gymorth i chi gyflwyno cynlluniau ac, yn achos gwaith gwella neu addasu, dylai'r rhain ddangos yr eiddo cyn ac ar ôl cyflawni'r gwaith.

8.  Gall fod yn ofynnol neu beidio â bod yn ofynnol cael caniatâd cynllunio neu gymeradwyaeth o dan y rheoliadau adeiladu. Os nad ydych yn siŵr a yw caniatâd neu gymeradwyaeth yn ofynnol, cysylltwch ag adran berthnasol y Cyngor. Os cafwyd caniatâd neu gymeradwyaeth eisoes, amgaewch gopi ohono/ohoni gyda'ch cais.

9.  Os gwnewch y gwaith eich hun, neu os caiff ei wneud gan aelod o'ch teulu, mae'n bosibl y byddwch yn methu â rhoi anfoneb, hawliad neu dderbynneb am y gwaith a fyddai'n dderbyniol i'r Cyngor at ddibenion talu grant. Byddwch cystal ag egluro'r pwynt hwn gyda'r Cyngor.

10.  Enghreifftiau o wasanaethau a thaliadau rhagarweiniol neu ategol y gellir eu cynnwys yn y cais am grant yw: arolygon technegol a strwythurol; llunio a pharatoi cynlluniau a lluniadau a pharatoi amserlenni'r gwaith; sicrhau amcangyfrifon, ceisiadau am gymeradwyaeth o dan y rheoliadau adeiladu a chaniatâd cynllunio; goruchwylio'r gwaith, datgysylltu ac ailgysylltu trydan, nwy, dŵr a gwasanaethau traenio a orfodir oherwydd y gwaith (ond nid taliadau sy'n codi oherwydd methu â thalu biliau); cyngor ar gontractau ac ar ariannu costau'r gwaith, gan gynnwys gwasanaethau o'r fath a roir gan asiantaethau gwella cartrefi. Gall y Cyngor roi manylion llawn am y taliadau a'r gwasanaethau a fyddai'n gymwys.

11.  Nid yw “elusen” yn cynnwys cymdeithasau tai cofrestredig at ddibenion grant.

12.  Mae bod â “buddiant perchennog” (gweler nodiadau 13 a 15 isod) yn golygu bod yn berchen ar rydd–ddaliad yr eiddo, neu ei gael ar denantiaeth y mae o leiaf 5 mlynedd ohoni'n weddill ar ddyddiad gwneud y cais, p'un a berchnogir ef gan un person neu ar y cyd ag eraill.

13.  Mae tystysgrif deiliad–berchnogaeth yn tystio bod:

  • yr ymgeisydd wedi caffael, neu'n bwriadu caffael, buddiant perchennog yn yr annedd neu'r adeilad

  • a bod yr ymgeisydd, neu aelod o'i deulu/ei theulu yn bwriadu byw yn yr annedd neu (fel y bo'r achos) mewn fflat yn yr adeilad fel unig neu brif breswylfan yr ymgeisydd neu unig neu brif breswylfan y person hwnnw am o leiaf deuddeng mis gan gychwyn ar y dyddiad a ardystiwyd gan y Cyngor fel y dyddiad y cwblhawyd y gwaith, a gynorthwywyd â grant, i safon a'u bodlonodd.

14.  Mae tystysgrif o fwriad i osod yn tystio bod yr ymgeisydd (neu'r landlord yn achos cais gan denant):

  • wedi caffael, neu'n bwriadu caffael, buddiant perchennog yn yr annedd neu'r adeilad

  • a'i fod yn bwriadu neu ei fod eisioes wedi gosod yr annedd neu (fel y bo'r achos) un neu ragor o fflatiau yn yr adeilad fel preswylfan ar denantiaeth nad yw'n denantiaeth hir i rywun heblaw aelod o'i deulu neu o'i theulu am gyfnod a bum mlynedd o leiaf gan gychwyn ar y dyddiad a ardystiwyd gan y Cyngor fel y dyddiad y cwblhawyd y gwaith, a gynorthwywyd â grant, i safon a'u bodlonodd.

15.  Mae tystysgrif tenant yn tystio bod:

  • yr ymgeisydd yn denant yr annedd

  • a'i bod yn ofynnol, o dan delerau'r denantiaeth, i'r ymgeisydd gyflawni'r gwaith y ceisir grant ar ei gyfer;

  • a bod yr ymgeisydd neu aelod o'i deulu neu o'i theulu yn bwriadu byw yn yr annedd fel unig neu brif breswylfan neu fel unig neu brif breswylfan y person hwnnw.

Fel rheol, rhaid cyflwyno gyda chais gan denant dystysgrif o fwriad i osod (gweler Nodyn 14), a ddarperir gan y landlord, ond gall y Cyngor ddiddymu'r gofyniad hwn o dan amgylchiadau achos penodol.

16.  Os ydych wedi ateb “Nac ydwyf/Na fyddaf/Nac oes” i gwestiwn 2.3, ni ddylech fod yn gwneud cais perchennog. Ail–ystyriwch eich ateb. Os na allwch ateb “Ydwyf/Byddaf/Oes” i'r cwestiwn hwn, a chithau'n methu â gwneud cais fel tenant (Adran B), peidiwch â mynd ymlaen ymhellach â'r cais hwn.

17.  Os ydych wedi ateb “Nac ydyw” i gwestiwn 2.4 a “Nac ydwyf” i gwestiwn 2.6, ni ddylech fod yn gwneud cais perchennog. Ail–ystyriwch eich atebion. Os na allwch ateb “Ydyw” neu “Ydwyf” i'r naill neu'r llall o'r cwestiynau hyn, a chithau'n methu â gwneud cais fel tenant (Adran B), peidiwch â mynd ymlaen ymhellach â'r cais hwn.

18.  Os ydych wedi cyfnewid contractau ar bryniant, rhowch y dyddiad y bwriedir cwblhau'r pryniant. Ni all y Cyngor gymeradwyo'r cais hwn am grant nes eich bod yn meddu ar y buddiant angenrheidiol.

19.  Os oes gennych neu os bwriadwch brynu rhydd–ddaliad yr eiddo, neu os oes gennych neu os bwriadwch gymryd tenantiaeth lle mae o leiaf 5 mlynedd o'i thymor yn weddill, ni allwch wneud cais tenant. Yn lle hynny, dylech ystyried gwneud cais perchennog (Adran A Rhan 2).

20.  Os ydych wedi ateb “Nac oes” i gwestiwn 2.11, yna nid ydych yn gymwys i wneud cais tenant am grant adnewyddu – gweler Nodyn G y rhagymadrodd i'r ffurflen hon.

21.  Amgaewch gopi o'r rhan berthnasol/rhannau perthnasol gyda'ch cais neu nodwch yr hyn y cytunwyd arno rhyngoch chi a'r landlord.

22.  Os ydych wedi ateb “Ydwyf” i gwestiwn 2.15, go brin eich bod o dan rwymedigaeth i gyflawni gwaith ar eich eiddo, ac felly ni fyddech yn gymwys i wneud cais am grant adnewyddu. Trafodwch y pwynt hwn gyda'r Cyngor i glirio'r mater.

23.  Rhaid i chi ddarparu un o'r tystysgrifau a grybwyllwyd yng nghwestiynau 3.1 a 3.2 (gweler nodiadau 13 i 15 uchod), onid ydych yn elusen neu onid yw'r cais mewn perthynas â chlastir neu dŷ preswyl bywiolaeth eglwysig. Os felly y mae, ewch i Adran B Rhan 3. Fel arall, peidiwch â mynd ymlaen ymhellach â'r cais hwn.

24.  Os ydych wedi ateb “Ydwyf/Ydynt” i gwestiwn 3.3. nid oes angen i chi ateb y cwestiynau yn Adran A Rhan 3 (y prawf adnoddau). Gall helpu'r Cyngor i brosesu'ch cais yn gynt os yw pob person sydd ar gymhorthdal incwm yn llenwiffurflen awdurdodi (a)ar ddiwedd yr adran honno. Ond nid oes unrhyw reidrwydd arnoch i wneud hynny ac fe allwch, yn lle hynny, fynd yn syth i Ran 4 os dymunwch.

25.  Mae partner yn rhywun o'r rhyw arall sy'n byw gyda chi fel gŵr neu wraig p'un a ydych yn briod neu beidio. Dylech ateb “Nac oes” i gwestiwn 3.6 os yw'r cyfryw berson sydd fel arfer yn byw gyda chi yn absennol ac yn debygol o fod yn absennol am fwy na 52 wythnos, ond dylech ateb “Oes” os yw absenoldeb y person hwnnw yn codi oherwydd amgylchiadau eithriadol sydd y tu hwnt i'w reolaeth neu i'w rheolaeth ac nid yw'r absenoldeb yn debygol o bara'n sylweddol fwy na 52 wythnos.

26.  Os oes gennych fwy nag un partner, a chithau wedi eich priodi â mwy nag un priod o dan ddeddf gwlad sy'n caniata u priodasau o'r fath, dylech roi'r manylion y gofynnir amdanynt mewn perthynas â phob partner sy'n byw gyda chi, ac ateb cwestiynau 3.5 i 3.54 isod mewn perthynas â phob un ohonynt. Dylech hefyd sicrhau bod eich atebion i gwestiynau 3.21 i 3.30 yn cynnwys pob plentyn a pherson ifanc yr ydych chi neu unrhyw un o'ch partneriaid yn gyfrifol amdanynt ac sydd fel rheol yn byw gyda chi.

27.  Hyd yn oed os ydych chi neu eich partner wedi bod yn alluog i weithio yn ystod yr wythnosau diwethaf, gallwch ddal i fod yn gymwys i gael y “premiwm anabledd” os oes gennych chi neu eich partner record hir o analluedd. Os credwch fod hyn yn gymwys i chi, dylech ddal i ateb “Nac ydwyf/Nac ydyw” i'r cwestiwn hwn, ond rhowch y manylion llawn o dan gwestiwn 3.12.

28.  Atebwch “Ydwyf/Ydyw” i'r cwestiwn hwn pe bai gennych chi neu'ch partner hawl i gael lwfans gofal analluedd oni bai am fudd–dâl cyffelyb yr ydych yn ei gael (h.y. budd–dâl anaf, atodiad am nad oes modd eich cyflogi, budd–dâl marwolaeth ddiwydiannol, neu fudd–dâl marwolaeth pensiynau rhyfel a lwfans hyfforddi) neu os ydych chi neu'ch partner yn cael taliad consesiwn i wneud yn iawn am na thelir lwfans gofal analluedd.

29.  Atebwch “Ydwyf/Ydyw” i'r cwestiwn hwn os nad ydych chi na'ch partner bellach yn cael y pensiwn hwn oherwydd talu pensiwn ymddeol.

30.  Mae plentyn neu berson ifanc dibynnol yn rhywun:

  • sydd o dan 19 oed;

  • yr ydych chi neu'ch partner yn gyfrifol amdano/amdani;

  • yr ydych chi neu'ch partner yn cael budd–dâl plentyn mewn perthynas ag ef/hi, neu sy'n cael ei drin/ei thrin fel plentyn at ddibenion budd–dâl plentyn; ac

  • sydd fel rheol yn byw gyda chi.

Ni ddylech gynnwys unrhyw berson ifanc sydd ar gymhorthdal incwm. Dylech ateb “Nac oes” os yw plentyn neu berson ifanc sydd fel arfer yn byw gyda chi yn absennol ac yn debygol o fod yn absennol am fwy na 52 wythnos; ond dylech ateb “Oes” os yw absenoldeb y plentyn neu'r person ifanc hwnnw yn codi oherwydd amgylchiadau eithriadol sydd y tu hwnt i'w reolaeth neu i'w rheolaeth ac nid yw'r absenoldeb yn debygol o bara'n sylweddol fwy na 52 wythnos.

31.  Os ydych chi neu'ch partner ar gymhorthdal incwm, nid oes angen i chi ateb cwestiynau 3.23 i 3.26.

32.  Peidiwch â chynnwys unrhyw rai sydd o dan 16 neu sy'n dal mewn addysg amser–llawn.

33.  Wrth gyfrif y nifer o oriau a weithir mewn wythnos, dylech edrych ar gylch diwethaf eich oriau gweithio (os oes gennych gylch cydnabyddedig) neu (os nad oes) ar y pum wythnos, yn union cyn y cais hwn. Ni ddylech gynnwys unrhyw ddiwrnod pryd y mae'r plentyn, a fuasai fel arall yn gweithio, ar gyfnod mamolaeth neu'n absennol o'r gwaith oherwydd salwch.

34.  Dylech gynnwys budd–daliadau, taliadau elusennol a gwirfoddol, a thaliadau cynhaliaeth.

35.  Nid oes angen i chi gynnwys lwfans gweini, lwfans byw i'r anabl nac atodiad symud–o– gwmpas.

36.  Dylech gynnwys unrhyw un/rhai o'r canlynol:

  • cynilion mewn arian parod;

  • arian mewn cyfrifon mewn banc, cymdeithas adeiladu neu Swyddfa'r Post;

  • tystysgrifau Cynilion Cenedlaethol a Bondiau Premiwm;

  • stociau, cyfranddaliadau a dirunedau.

37.  Dylech gynnwys manylion unrhyw gyfalaf sy'n daladwy mewn rhandaliadau, gan gynnwys yn arbennig gyfanswm unrhyw randaliad neu randaliadau sy'n ddyledus.

38.  At y diben hwn, mae person yn byw gyda chi os ydynt yn rhannu ystafell neu ystafelloedd gyda chi heblaw ystafell ymolchi, toiled neu fan cyfunol e.e. cyntedd; ond nid os ydych bob un yn talu'r landlord ar wahân am eich llety.

39.  Gallai'r Cyngor ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch enillion yn ystod y 52 wythnos diwethaf mewn perthynas ag unrhyw gyflogaeth y cawsoch eich talu amdani, ynghyd â manylion unrhyw daliadau i gynllun pensiwn preifat a wnaed yn ystod yr un cyfnod.

40.  Gallai'r Cyngor ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o bob incwm arall a gafwyd yn ystod y 52 wythnos diwethaf.

41.  Os oes gennych bartner a chithau'n cael eich talu ar y cyd, fel cwpwl, rhowch y manylion yn y naill golofn neu'r llall (nid oes gwahaniaeth p'un) ond nid yn y ddwy.

42.  Dylai tâl gros gynnwys bonws neu gomisiwn, goramser, tâl gwyliau, tâl salwch neu dâl mamolaeth.

43.  Wrth gyfrif y nifer o oriau a weithiwyd mewn wythnos, dylech edrych ar gylch diwethaf eich oriau gweithio (os oes gennych gylch cydnabyddedig) neu (os nad oes) ar y pum wythnos yn union cyn y cais hwn. Ni ddylech gynnwys unrhyw ddiwrnod y mae'r person, a fuasai fel arall yn gweithio, ar gyfnod mamolaeth neu'n absennol o'r gwaith oherwydd salwch.

44.  Byddwch cystal â chyflwyno cop au o'r cyfrifon diweddaraf sy'n rhoi manylion eich hunan– gyflogaeth. Cynhwyswch fanylion unrhyw daliadau a dalwyd i gynllun pensiwn neu i flwydd–dâl ymddeol, unrhyw dreth incwm a chyfraniadau yswiriant gwladol a dalwyd.

45.  Rhowch y swm net os caiff eich pensiwn ei drethu.

46.  Nid oes angen i chi gynnwys unrhyw un/rhai o'r canlynol:

  • lwfans gweini;

  • budd–dâl tâl cymunedol;

  • budd–dâl y dreth gyngor;

  • lwfans byw i'r anabl;

  • lwfans gwarcheidwad;

  • budd–dâl tai;

  • cymhorthdal incwm (gweler cwestiynau 3.3, 3.35);

  • taliadau o Ymddiriedolaethau Macfarlane, y Gronfa Byw'n Annibynnol, y Gronfa Byw'n Annibynnol (Estyniad) neu'r Gronfa Byw'n Annibynnol (1993);

  • taliadau o'r Gronfa, h.y. arian y trefnwyd ei fod ar gael gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan gynllun a sefydlwyd ar 24 Ebrill 1992 neu yn yr Alban, ar 10 Ebrill 1992;

  • taliadau i wneud yn iawn am golli'ch hawl i gael budd–dâl atodol lle na chawsoch eich hawl i gael cymhorthdal incwm am gyfnod yn dechrau ar 11 Ebrill 1988;

  • taliadau o dan y cynllun “busnes ar eich cyfrif eich hun”, y cynllun “gwasanaeth darllenydd personol” neu'r cynllun “tocynnau i'r gwaith”;

  • taliadau o'r gronfa gymdeithasol o dan Ran VIII Deddf Cyfraniadau a Budd–daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992.

Gellir hefyd anwybyddu rhai budd–daliadau a lwfansau eraill wrth gyfrif eich incwm, ond at ddibenion llenwi'r ffurflen hon dylech hepgor yn unig y taliadau a grybwyllwyd uchod. Os oes gennych unrhyw amheuon a yw taliad yn perthyn i un o'r categor au hyn, dylech ei gynnwys a chyflwyno'r manylion llawn am natur y taliad er mwyn i'r Cyngor allu penderfynu a ellir ei anwybyddu neu beidio.

47.  Nid oes angen i chi gynnwys unrhyw un/rhai o'r canlynol:

  • unrhyw beth a restrwyd yn nodyn 46;

  • taliadau byrddio allan neu feithrin a wneir gan awdurdod lleol, awdurdod iechyd neu gorff gwirfoddol;

  • lwfans dechrau swydd;

  • taliadau “Rhan III”, h.y. taliadau a wneir gan awdurdod lleol o dan adran 17 neu 24 y Ddeddf Plant 1989 mewn perthynas â phlant a phobl ifanc;

  • taliadau a wneir i chi fel deiliad Croes Victoria neu Groes George.

Gellir hefyd anwybyddu rhai budd–daliadau a lwfansau eraill wrth gyfrif eich incwm, ond at ddibenion llenwi'r ffurflen hon dylech hepgor yn unig y taliadau a grybwyllwyd uchod. Os oes gennych unrhyw amheuon a yw taliad yn perthyn i un o'r categor au hyn, dylech ei gynnwys a chyflwyno'r manylion llawn am natur y taliad er mwyn i'r Cyngor allu penderfynu a ellir ei anwybyddu neu beidio.

48.  Gallai'r Cyngor ofyn i chi gyflwyno tystiolaeth o'r holl gynilion, buddsoddiadau a chyfalaf eraill.

49.  Os oes gennych bartner a chithau'n dal unrhyw gynilion, buddsoddiadau neu gyfalaf arall gyda'ch gilydd, nodwch y manylion yn y naill golofn neu'r llall (nid oes gwahaniaeth p'un) ond nid yn y ddwy.

50.  Os ydych yn dal unrhyw gyfalaf ar y cyd â phobl eraill heblaw eich partner, cynhwyswch gyfanswm y cyfalaf hwnnw (os yw'n hysbys) a nodwch faint o bobl eraill sydd â chyfran ynddo.

51.  Nid oes angen i chi gynnwys unrhyw un/rhai o'r canlynol:

  • budd–dâl tâl cymunedol;

  • budd–dâl y dreth gyngor;

  • budd–dâl tai, neu daliadau dros dro budd–dâl tai;

  • taliadau “Rhan III” (gweler nodyn 47);

  • taliadau o Ymddiriedolaethau Macfarlane, y Gronfa Byw'n Annibynnol, Gronfa Byw'n Annibynnol (Estyniad) neu'r Gronfa Byw'n Annibynnol (1993);

  • taliadau o'r Gronfa (gweler nodyn 46);

  • taliadau i wneud yn iawn am golli'ch hawl i gael budd–dâl atodol lle na chawsoch eich hawl i gael cymhorthdal incwm am gyfnod yn dechrau ar 11 Ebrill 1988;

  • taliadau o dan y cynllun “busnes ar eich cyfrif eich hun”, y cynllun “gwasanaeth darllenydd personol”, neu'r cynllun “tocynnau i'r gwaith”;

  • taliadau “cychwyn” i weithwyr cartref a gaiff gymorth o dan y Cynllun Gweithwyr Cartref Dall;

  • taliadau o'r gronfa gymdeithasol o dan Ran VIII Deddf Cyfraniadau a Budd–daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992.

Gellir hefyd anwybyddu rhai mathau eraill o gynilion a thaliadau cyfalaf wrth gyfrif eich cyfalaf, ond at ddibenion llenwi'r ffurflen hon dylech hepgor yn unig yr taliadau a grybwyllwyd uchod. Os oes gennych unrhyw anheuon a yw taliad yn perthyn i un o'r categor au hyn dylech ei gynnwys a chyflwyno'r manylion llawn er mwyn i'r Cyngor allu penderfynu a ellir ei anwybyddu neu beidio.

52.  Dylech gynnwys ail gartrefi, cartrefi gwyliau ac unrhyw eiddo arall, gan gynnwys eiddo dros y môr.

53.  Nid oes angen i chi gynnwys unrhyw un/rhai o'r canlynol:

  • Eich cartref eich hun;

  • Yr eiddo sy'n destun y cais hwn;

  • Unrhyw eiddo a ddelir gan hen berthynas i chi (h.y. 60 oed neu drosod) neu berthynas i chi sy'n analluog, neu i aelod o'ch teulu, fel ei unig neu ei hunig neu ei brif neu ei phrif breswylfan. Mae “perthynas” yn golygu unrhyw un o'r canlynol: rhieni, rhieni–yng– nghyfraith, llys–rieni, meibion a merched, meibion a merched–yng–nghyfraith, llys– feibion a llys–ferched, brodyr a chwiorydd, tad–cu a mam–gu/teidiau a neiniau, wyrion a wyresau, ewythrod a modrybedd, neiaint a nithod;

  • Os ydych yn hunan–gyflogedig, asedion eich busnes.

Gellir hefyd anwybyddu rhai taliadau cyfalaf eraill wrth gyfrif eich cyfalaf, ond at ddibenion llenwi'r ffurflen hon dylech hepgor yn unig y taliadau a grybwyllwyd uchod. Os oes gennych unrhyw amheuon a yw eiddo neu gyfalaf arall yn perthyn i un o'r categor au hyn dylech ei gynnwys a chyflwyno'r manylion llawn er mwyn i'r Cyngor allu penderfynu a ellir ei anwybyddu neu beidio.

54.  Gall y manylion a roddir gynnwys gwybodaeth am yr adnoddau y trefnir iddynt fod ar gael gan Fwrdd Cyllid yr Esgobaeth, dyfyniad o gyllideb flynyddol y Bwrdd, er enghraifft. Os nad ydych yn gwneud y cais hwn fel cynrychiolydd o'r Bwrdd, rhowch gyfeiriad y Bwrdd.

55.  Dylech amga u datganiad diweddar o gyfrifon neu adroddiad blynyddol os oes un ar gael. Yn achos clastir, gall Bwrdd Cyllid yr Esgobaeth gyflwyno'r manylion, gan gynnwys dyfyniad o'r gyllideb flynyddol os yw'n briodol.

56.  Dylid cyflwyno crynodeb o ddogfen ymddiriedolaeth elusen neu ddogfen debyg, yn ogystal ag unrhyw wybodaeth arall. Yn achos clastir, nodwch a yw'r eiddo neu ran o'r eiddo yn cael ei dal yn ddi–rent gan weinidog trwyddedig neu weithiwr lleyg ar hyn o bryd.

57.  Os nad ydych yn siŵr o'r math o denantiaeth neu ddaliadaeth (er enghraifft, a yw'n denantiaeth sicr, yn denantiaeth a ddiogelir neu'n denantiaeth statudol), dylech holi'r Cyngor neu eich ymgynghorwyr cyfreithiol eich hun, cyfreithiwr, Canolfan Gynghori neu ganolfan cyngor cyfreithiol ynglŷn â hyn.

58.  Mae angen hyn i wneud penderfyniad ynglŷn â rhent nosiynol. Enghreifftiau yw unrhyw atgyweiriadau yr ydych yn gyfrifol amdanynt, unrhyw welliannau yr ydych wedi eu cyflawni ac nad ydych yn gyfrifol amdanynt o dan delerau eich denantiaeth, neu unrhyw anghyweiriad neu ddiffyg y gellir ei briodoli i'ch methiant i gydymffurfio â thelerau eich tenantiaeth.

59.  Bydd y Cyngor fel rheol yn gofyn am ddau amcangyfrif o gostau'r gwaith, oddi wrth wahanol gontractwyr; ond gallant fynnu mwy neu lai na dau amcangyfrif mewn unrhyw achos penodol. (Gweler hefyd nodyn 7 uchod). Dylid eitemeiddio'r amcangyfrifon hynny fel arfer.

60.  Mae'r manylion am unrhyw wasanaethau a thaliadau rhagarweiniol neu ategol yr un fath ag ar gyfer y gwasanaethau a'r taliadau a nodwyd yng nghwestiwn 1.22 – gweler nodyn 10 uchod. Byddwch cystal â chynnwys amcangyfrifon.

FFURFLEN 2CAIS AM GRANT CYFLEUSTERAU I'R ANABL(Enw a chyfeiriad y Cyngor)

NODIADAU

1.  Os yw'r ymgeisydd yn gwmni neu'n gorff tebyg, rhowch y cyfeiriad swyddogol (cofrestredig).

2.  Gall y gwaith ymwneud â rhannau cyffredin yn unig neu mewn cysylltiad â gwaith ar fflat yn yr adeilad. Mae “rhannau cyffredin” yn cynnwys fframwaith a thu allan adeilad a'r cyfleusterau cyffredin a ddarperir, boed yn yr adeilad neu mewn man arall, i bersonau sy'n cynnwys deiliaid un neu ragor o'r fflatiau yn yr adeilad.

3.  Mae cyfeiriadau at “adeilad” yn golygu'r adeilad y mae'r rhannau cyffredin yn ymwneud ag ef ac, fel y bo'r achos, lle mae'r annedd wedi ei leoli. Mae cyfeiriadau at “annedd” yn golygu'r tŷ neu'r fflat a ddelir neu sydd i'w (d)dal gan y person anabl.

4.  Os ydych wedi gwneud mwy nag un cais blaenorol, rhowch fanylion pob un ohonynt a manylion unrhyw gyfraniad yr hysbyswyd chi amdano o dan gynllun atgyweirio grŵp. Gall cymeradwyo grantiau blaenorol effeithio ar y gwaith y gellir rhoi grant ar ei gyfer, a hefyd ar faint y grant a fydd yn daladwy.

5.  Os oes angen gwaith adnewyddu i wneud eich eiddo yn addas i bobl fyw ynddo, ni ellir cymeradwyo eich cais am grant cyfleusterau i'r anabl tan ar ôl cyflawni'r gwaith hwnnw.

6.  Mae “person anabl” yn cael ei ddiffinio trwy gyfeirio at adran 29(1) Deddf Cymorth Gwladol 1948. Os nad ydych yn siŵr a yw'r person y bwriedir cyflawni'r gwaith ar ei gyfer/ei chyfer yn berson y mae'r ddarpariaeth hon yn gymwys iddo/iddi, dylech ofyn i'r Cyngor (neu i'ch Adran Gwasanaethau Cymdeithasol leol).

7.  Os ydych yn gwneud cais am grant i'r rhannau cyffredin ac i'ch fflat, dylech wahaniaethu rhwng y gwaith ar y gwahanol rannau. Rhowch ddisgrifiad mor llawn ag y gallwch o'r gwaith arfaethedig. Bydd o gymorth i chi gyflwyno cynlluniau. Os yw'r Cyngor yn ei gwneud yn ofynnol i'r gwaith gael ei gyflawni i'w manyleb hwy, dylai hynny fod yn sail i'r amcangyfrifon gan y contractwyr a amgaeir gyda'r ffurflen hon (gweler Rhan 4 – eitem amgaee dig A).

8.  Gall fod yn ofynnol neu beidio â bod yn ofynnol cael caniatâd cynllunio neu gymeradwyaeth o dan y rheoliadau adeiladu. Os nad ydych yn siŵr a yw caniatâd neu gymeradwyaeth yn ofynnol, cysylltwch ag adran berthnasol y Cyngor. Os cafwyd caniatâd neu gymeradwyaeth eisoes, amgaewch gopi ohono/ohoni gyda'ch cais.

9.  Os gwnewch y gwaith eich hun, neu os caiff ei wneud gan aelod o'ch teulu, mae'n bosibl y byddwch yn methu â rhoi anfoneb, hawliad neu dderbyneb am y gwaith a fyddai'n dderbyniol i'r Cyngor at ddibenion talu grant. Byddwch cystal ag egluro'r pwynt hwn gyda'r Cyngor.

10.  Enghreifftiau o wasanaethau a thaliadau rhagarweiniol neu ategol y gellir eu cynnwys yn y cais am grant yw: arolygon technegol a strwythurol; llunio a pharatoi cynlluniau a lluniadau a pharatoi amserlenni'r gwaith; sicrhau amcangyfrifon, ceisiadau am gymeradwyaeth o dan reoliadau adeiladu a chaniatâd cynllunio; goruchwylio'r gwaith; datgysylltu ac ailgysylltu trydan, nwy, dŵr a gwasanaethau traenio o orfodir oherwydd y gwaith (ond nid taliadau sy'n codi oherwydd methu â thalu biliau); cyngor ar gontractau ac ar ariannu costau'r gwaith, gan gynnwys gwasanaethau o'r fath a roir gan asiantaethau gwella cartrefi a gwasanaethau therapydd galwedigaethol. Gall y cyngor roi manylion llawn am y taliadau a'r gwasanaethau a fyddai'n gymwys.

11.  Nid yw “elusen” yn cynnwys cymdeithasau tai cofrestredig at ddibenion grant.

12.  Mae bod â “buddiant perchennog” (gweler nodiadau 13 a 15 isod) yn golygu bod yn berchen ar rydd–ddaliad yr eiddo, neu ei gael ar denantiaeth y mae o leiaf 5 mlynedd ohoni'n weddill ar ddyddiad gwneud y cais, p'un a berchnogir ef gan un person neu ar y cyd ag eraill.

13.  Mae tystysgrif deiliad–berchnogaeth yn tystio bod: – yr ymgeisydd wedi caffael, neu'n bwriadu caffael, buddiant perchennog yn yr annedd neu'r adeilad; – a bod yr ymgeisydd, neu aelod o'i deulu/ei theulu, yn bwriadu byw yn yr annedd neu (fel y bo'r achos) mewn fflat yn yr adeilad fel unig neu brif breswylfan yr ymgeisydd neu fel unig neu brif breswylfan y person hwnnw, am o leiaf deuddeng mis gan gychwyn ar y dyddiad a ardystiwyd gan y Cyngor fel y dyddiad y mae'r gwaith a gynorthwyir â grant yn cael ei gwblhau i safon sy'n eu bodloni.

14.  Mae tystysgrif tenant yn tystio bod: – yr ymgeisydd yn denant yr annedd; – a'i bod yn ofynnol i'r ymgeisydd, o dan delerau ei denantiaeth, gyflawni'r gwaith y ceisir grant ar ei gyfer; – a bod yr ymgeisydd, neu aelod o'i deulu/ei theulu, yn bwriadu byw yn yr annedd fel ei unig neu ei brif breswylfan, neu fel unig neu brif breswylfan y person hwnnw. Fel rheol rhaid cyflwyno gyda chais gan denant dystysgrif a fwriad i osod (gweler nodyn 14), a ddarperir gan y landlord, ond gall y Cyngor ddiddymu'r gofyniad hwn o dan amgylchiadau achos penodol.

15.  Mae tystysgrif o fwriad i osod yn tystio bod yr ymgeisydd (neu'r landlord yn achos cais gan denant): – wedi caffael neu'n bwriadu caffael buddiant perchennog yn yr annedd neu'r adeilad; – a'i fod yn bwriadu neu ei fod eisoes wedi gosod yr annedd neu (fel y bo'r achos) un neu ragor o fflatiau yn yr adeilad fel preswylfan, i rywun heblaw aelod o'i deulu/ei theulu, am o leiaf pub mlynedd gan gychwyn ar y dyddiad a ardystiwyd gan y Cyngor fel y dyddiad y mae'r gwaith a gynorthwyir â grant yn cael ei gwblhau i safon sy'n eu bodloni.

16.  Gall y gwaith ymwneud â'r rhannau cyffredin yn unig neu fod yn gysylltiedig â gwaith ar fflat yn yr adeilad.

17.  Os nad oes gennych bŵer na dyletswydd i gyflawni'r gwaith ar rannau cyffredin yr adeilad, ni allwch wneud cais am grant cyfleusterau i'r anabl tuag at waith o'r fath.

18.  Os ydych wedi ateb “Nac ydwyf/Na fyddaf/Nac oes/Na fydd” i gwestiynau 2.5 a 2.6, ni ddylech fod yn gwneud cais perchennog. Ail–ystyriwch eich atebion. Os na allwch ateb “Ydwyf/ Byddaf/Oes/Bydd” i un o'r cwestiynau hyn, a chithau'n methu â gwneud cais fel tenant (Adran B), peidiwch â mynd ymlaen ymhellach â'r cais hwn.

19.  Os ydych wedi ateb “Nac ydyw” i gwestiwn 2.7 a “Nac ydwyf” i gwestiwn 2.9, ni ddylech fod yn gwneud cais perchennog. Ail–ystyriwch eich atebion. Os na allwch ateb “Ydyw” neu “Ydwyf” i'r naill neu'r llall o'r cwestiynau hyn, a chithau'n methu â gwneud cais fel tenant (Adran B), peidiwch â mynd ymlaen ymhellach â'r cais hwn.

20.  Os ydych wedi cyfnewid contractau ar bryniant, rhowch y dyddiad y bwriedir cwblhau'r pryniant. Ni all y Cyngor gymeradwyo'r cais hwn am grant nes eich bod yn meddu ar y buddiant angenrheidiol.

21.  Os bwriadwch brynu rhydd–ddaliad yr eiddo, neu gymryd tenantiaeth lle mae o leiaf 5 mlynedd o'i thymor yn weddill, ni allwch wneud cais tenant. Yn lle hynny, dylech ystyried gwneud cais perchennog (Adran A Rhan 2). Ond nid yw hyn yn gymwys os yw'ch cais am grant cyfleusterau i'r anabl mewn perthynas â gwaith i'r rhannau cyffredin, a chithau â thenantiaeth fflat yn yr adeilad.

22.  Rhaid i chi ddarparu un o'r tystysgrifau a grybwyllwyd yng nghwestiynau 3.1 a 3.2 (gweler nodiadau 13–15 uchod) onid ydych yn elusen neu yn gwneud cais ar ran elusen neu onid yw'r cais mewn perthynas â chlastir neu dŷ preswyl bywoliaeth eglwysig. Os felly y mae, ewch i Adran B Rhan 3. Fel arall, peidiwch â mynd ymlaen ymhellach â'r cais hwn.

23.  Os ydych wedi ateb “Ydwyf/Ydynt” i gwestiwn 3.3. nid oes angen i chi ateb y cwestiynau yn Adran A Rhan 3 (y prawf adnoddau). Gall helpu'r Cyngor i brosesu'ch cais yn gynt os yw pob person sydd ar gymhorthdal incwm yn llenwiffurflen awdurdodi (a)ar ddiwedd yr adran honno. Ond nid oes unrhyw reidrwydd arnoch i wneud hynny ac fe allwch, yn lle hynny, fynd yn syth i Ran 4 os dymunwch.

24.  Mae partner yn rhywun o'r rhyw arall sy'n byw gyda chi fel gŵr neu wraig p'un a ydych yn briod neu beidio. Dylech ateb “Nac oes” i gwestiwn 3.6 os yw cyfryw berson sydd fel arfer yn byw gyda chi yn absennol ac yn debygol o fod yn absennol am fwy na 52 wythnos, ond dylech ateb “Oes” os yw absenoldeb y person hwnnw yn codi oherwydd amgylchiadau eithriadol sydd y tu hwnt i'w reolaeth neu i'w rheolaeth ac nid yw'r absenoldeb yn debygol o bara'n sylweddol fwy na 52 wythnos.

25.  Os oes gennych fwy nag un partner, a chithau wedi eich priodi â mwy nag un priod o dan ddeddf gwlad sy'n caniata u priodasau o'r fath, dylech roi'r manylion y gofynnir amdanynt mewn perthynas â phob partner sy'n byw gyda chi, ac ateb cwestiynau 3.7 i 3.54 isod mewn perthynas â phob un ohonynt. Dylech hefyd sicrhau bod eich atebion i gwestiynau 3.21 i 3.30 yn cynnwys pob plentyn a pherson ifanc yr ydych chi neu unrhyw un o'ch partneriaid yn gyfrifol amdanynt ac sydd fel rheol yn byw gyda chi.

26.  Hyd yn oed os ydych chi neu eich partner wedi bod yn alluog i weithio yn ystod yr wythnosau diwethaf, gallwch ddal i fod yn gymwys i gael y “premiwm anabledd” os oes gennych chi neu eich partner record hir o analluedd. Os credwch fod hyn yn gymwys i chi, dylech ddal i ateb “Nac ydwyf/Nac ydyw” i'r cwestiwn hwn, ond rhowch y manylion llawn o dan gwestiwn 3.12.

27.  Atebwch “Ydwyf/Ydyw” i'r cwestiwn hwn pe bai gennych chi neu'ch partner hawl i gael lwfans gofal analluedd oni bai am fudd–dâl cyffelyb yr ydych yn ei gael (h.y. budd–dâl anaf, atodiad am nad oes modd eich cyflogi, budd–dâl marwolaeth ddiwydiannol, neu fudd–dâl marwolaeth pensiynau rhyfel a lwfans hyfforddi) neu os ydych chi neu'ch partner yn cael taliad consesiwn i wneud yn iawn am na thelir lwfans gofal analluedd.

28.  Atebwch “Ydwyf/Ydyw” i'r cwestiwn hwn os nad ydych chi na'ch partner bellach yn cael y pensiwn hwn oherwydd talu pensiwn ymddeol.

29.  Mae plentyn neu berson ifanc dibynnol yn rhywun: – sydd o dan 19 oed; – yr ydych chi neu'ch partner yn gyfrifol amdano/amdani; – yr ydych chi neu'ch partner yn cael budd–dâl plentyn mewn perthynas ag ef/hi, neu sy'n cael ei drin/ei thrin fel plentyn at ddibenion budd–dâl plentyn; ac – sydd fel rheol yn byw gyda chi.

Ni ddylech gynnwys unrhyw berson ifanc sydd ar gymhorthdal incwm. Dylech ateb “Nac oes” os yw plentyn neu berson ifanc sydd fel arfer yn byw gyda chi yn absennol ac yn debygol o fod yn absennol am fwy na 52 wythnos, ond dylech ateb “Oes” os yw absenoldeb y plentyn neu'r person ifanc hwnnw yn codi oherwydd amgylchiadau eithriadol sydd y tu hwnt i'w reolaeth neu i'w rheolaeth ac nid yw'r absenoldeb yn debygol o bara'n fwy na 52 wythnos.

30.  Os ydych chi neu'ch partner ar gymhorthdal incwm, nid oes angen i chi ateb cwestiynau 3.23 i 3.26.

31.  Peidiwch â chynnwys unrhyw rai sydd o dan 16 neu sy'n dal mewn addysg amser–llawn.

32.  Wrth gyfrif y nifer o oriau a weithir mewn wythnos, dylech edrych ar gylch diwethaf eich oriau gweithio (os oes gennych gylch cydnabyddedig) neu (os nad oes) ar y pum wythnos diwethaf yn union cyn y cais hwn. Ni ddylech gynnwys unrhyw ddiwrnod pryd y mae'r plentyn, a fuasai fel arall yn gweithio, ar gyfnod mamolaeth neu yn absennol o'r gwaith oherwydd salwch.

33.  Dylech gynnwys budd–daliadau, taliadau elusennol a gwirfoddol, a thaliadau cynhaliaeth.

34.  Nid oes angen i chi gynnwys lwfans gweini, lwfans byw i'r anabl nac atodiad symud–o– gwmpas.

35.  Dylech gynnwys unrhyw un/rhai o'r canlynol:

  • cynilion mewn arian parod;

  • arian mewn cyfrifon banc, cymdeithas adeiladu neu Swyddfa'r Post;

  • Tystysgrifau Cynilion Cenedlaethol a Bondiau Premiwm;

  • stociau, cyfranddaliadau a dirunedau.

36.  Dylech gynnwys manylion unrhyw gyfalaf sy'n daladwy mewn rhandaliadau, gan gynnwys yn arbennig gyfanswm unrhyw randaliad neu randaliadau sy'n ddyledus.

37.  At y diben hwn, mae person yn byw gyda chi os ydynt yn rhannu gyda chi ystafell neu ystafelloedd heblaw ystafell ymolchi, toiled neu fan cyfunol e.e. cyntedd; ond nid os ydych bob un yn talu'r landlord ar wahân am eich llety.

38.  Gallai'r Cyngor ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch enillion yn ystod y 52 wythnos diwethaf mewn perthynas ag unrhyw gyflogaeth y cawsoch eich talu amdani, ynghyd â manylion unrhyw daliadau i gynllun pensiwn preifat a wnaed yn ystod yr un cyfnod.

39.  Gallai'r Cyngor ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o bob incwm arall a gafwyd yn ystod y 52 wythnos diwethaf.

40.  Os oes gennych bartner a chithau'n cael eich talu ar y cyd, fel cwpwl, rhowch y manylion yn y naill golofn neu'r llall (nid oes gwahaniaeth p'un) ond nid yn y ddwy.

41.  Dylai tâl gros gynnwys bonws neu gomisiwn, goramser, tâl gwyliau, tâl salwch neu dâl mamolaeth.

42.  Wrth gyfrif y nifer o oriau a weithir mewn wythnos, dylech edrych ar gylch diwethaf eich oriau gweithio (os oes gennych gylch cyndnabyddedig) neu (os nad oes) ar y pum wythnos diwethaf yn union cyn y cais hwn. Ni ddylech gynnwys unrhyw ddiwrnod pryd y mae'r person, a fuasai fel arall yn gweithio, ar gyfnod mamolaeth neu yn absennol o'r gwaith oherwydd salwch.

43.  Byddwch cystal â chyflwyno cap au o'r cyfrifon diweddaraf sy'n rhoi manylion eich hunan– gyflogaeth. Cynhwyswch fanylion unrhyw daliadau a dalwyd i gynllun pensiwn ac unrhyw dreth incwm a chyfraniadau yswiriant gwladol a dalwyd.

44.  Rhowch y swm net os caiff eich pensiwn ei drethu.

45.  Nid oes angen i chi gynnwys unrhyw un/rhai o'r canlynol:

  • lwfans gweini;

  • budd–dâl tâl cymunedol;

  • budd–dâl y dreth gyngor;

  • lwfans byw i'r anabl;

  • lwfans gwarcheidwad;

  • budd–dâl tai;

  • cymhorthdal incwm (gweler cwestiynau 3.36 a 3.35);

  • taliadau o Ymddiriedolaethau Macfarlane, y Gronfa Byw'n Annibynnol, y Gronfa Byw'n Annibynnol (Estyniad) neu'r Gronfa Byw'n Annibynnol (1993);

  • taliadau o'r Gronfa, h.y. arian y trefnwyd ei fod ar gael gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan gynllun a sefydlwyd ar 24 Ebrill 1992 neu, yn yr Alban, ar 10 Ebrill 1992;

  • taliadau i wneud yn iawn am golli'ch hawl i gael budd–dâl atodol lle na chawsoch eich hawl i gael cymhorthdal incwm am gyfnod yn dechrau ar 11 Ebrill 1988;

  • taliadau o dan y cynllun “busnes ar eich cyfrif eich hun”, y cynllun “gwasanaeth darllenydd personol” neu'r cynllun “tocynnau i'r gwaith”;

  • taliadau o'r gronfa gymdeithasol o dan Ran VIII Deddf Cyfraniadau a Budd–daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992.

Gellir hefyd anwybyddu rhai budd–daliadau a lwfansau eraill wrth gyfrif eich incwm, ond at ddibenion llenwi'r ffurflen hon dylech hepgor yn unig y taliadau a grybwyllwyd uchod. Os oes gennych unrhyw amheuon a yw taliad yn perthyn i un o'r categor au hyn, dylech ei gynnwys a chyflwyno'r manylion llawn am natur y taliad er mwyn i'r Cyngor allu penderfynu a ellir ei anwybyddu neu beidio.

46.  Nid oes angen i chi gynnwys unrhyw un/rhai o'r canlynol:

  • unrhyw beth a restrwyd yn nodyn 45;

  • taliadau byrddio allan neu feithrin a wneir gan awdurdod lleol, awdurdod iechyd neu gorff gwirfoddol;

  • lwfans dechrau swydd;

  • taliadau “Rhan III” h.y. taliadau a wneir gan awdurdod lleol o dan adran 17 neu 24 y Ddeddf Plant 1989 mewn perthynas â phlant a phobl ifanc;

  • taliadau a wneir i chi fel deiliad Croes Victoria neu Groes George.

Gellir hefyd anwybyddu rhai taliadau eraill wrth gyfrif eich incwm, ond at ddibenion llenwi'r ffurflen hon dylech hepgor yn unig y taliadau a grybwyllwyd uchod. Os oes gennych unrhyw amheuon a yw taliad yn perthyn i un o'r categor au hyn, dylech ei gynnwys a chyflwyno'r manylion llawn am natur y taliad er mwyn i'r Cyngor allu penderfynu a ellir ei anwybyddu neu beidio.

47.  Gallai'r Cyngor ofyn i chi gyflwyno tystiolaeth o'r holl gynilion, buddsoddiadau a chyfalaf eraill.

48.  Os oes gennych bartner a chithau'n dal unrhyw gynilion, buddsoddiadau neu gyfalaf arall gyda'ch gilydd, nodwch y manylion yn y naill golofn neu'r llall (nid oes gwahaniaeth p'un) ond nid yn y ddwy.

49.  Os ydych yn dal unrhyw gyfalaf ar y cyd â phobl eraill heblaw eich partner, cynhwyswch gyfanswm y cyfalaf hwnnw (os yw'n hysbys) a nodwch faint o bobl eraill sydd â chyfran ynddo.

50.  Nid oes angen i chi gynnwys unrhyw un/rhai o'r canlynol:

  • budd–dâl tâl cymunedol;

  • budd–dâl y dreth gyngor;

  • budd–dâl tai, neu daliadau dros dro budd–dâl tai;

  • taliadau “Rhan III” (gweler nodyn 46);

  • taliadau o Ymddiriedolaethau Macfarlane, y Gronfa Byw'n Annibynnol, y Gronfa Byw'n Annibynnol (Estyniad) neu'r Gronfa Byw'n Annibynnol (1993);

  • taliadau o'r Gronfa (gweler nodyn 45);

  • taliadau i wneud yn iawn am golli'ch hawl i gael budd–dâl atodol lle na chawsoch eich hawl i gael cymhorthdal incwm am gyfnod yn dechrau ar 11 Ebrill 1988;

  • taliadau o dan y cynllun “busnes ar eich cyfrif eich hun”, y cynllun “gwasanaeth darllenydd personol”, neu'r cynllun “tocynnau i'r gwaith”;

  • taliadau “cychwyn” i weithwyr cartref a gaiff gymorth o dan y Cynllun Gweithwyr Cartref Dall;

  • taliadau o'r gronfa gymdeithasol o dan Ran VIII Deddf Cyfraniadau a Budd–daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992.

Gellir hefyd anwybyddu rhai mathau eraill o gynilion a thaliadau cyfalaf wrth gyfrif eich cyfalaf, ond at ddibenion llenwi'r ffurflen hon dylech hepgor yn unig y taliadau a grybwyllwyd uchod. Os oes gennych unrhyw amheuon a yw taliad yn perthyn i un o'r categor au hyn dylech ei gynnwys a chyflwyno'r manylion llawn am natur y taliad er mwyn i'r Cyngor allu penderfynu a ellir ei anwybyddu neu beidio.

51.  Dylech gynnwys ail gartrefi, cartrefi gwyliau ac unrhyw eiddo arall, gan gynnwys eiddo dros y môr.

52.  Nid oes angen i chi gynnwys unrhyw un/rhai o'r canlynol:

  • eich cartref eich hun;

  • yr eiddo sy'n destun y cais hwn;

  • unrhyw eiddo a ddelir gan hen berthynas i chi (h.y. 60 oed neu drosodd) neu berthynas i chi sy'n analluog, neu i aelod o'ch teulu, fel ei unig neu ei brif breswylfan neu fel ei hunig neu ei phrif breswylfan. Mae “perthynas” yn golygu unrhyw un o'r canlynol: rhieni, rhieni–yng–nghyfraith, llys–feibion a llys–ferched, brodyr a chwiorydd, tad–cu a mam–gu/ teidiau a neiniau, wyrion a wyresau, ewythrod a modrybedd, neiaint a nithod;

  • os ydych yn hunan–gyflogedig, asedion eich busnes.

Gellir hefyd anwybyddu rhai taliadau cyfalaf eraill wrth gyfrif eich cyfalaf, ond at ddibenion llenwi'r ffurflen hon dylech hepgor yn unig y taliadau a grybwyllwyd uchod. Os oes gennych unrhyw amheuon a yw eiddo neu gyfalaf arall yn perthyn i un o'r categor au hyn dylech ei gynnwys a chyflwyno'r manylion llawn er mwyn i'r Cyngor allu penderfynu a ellir ei anwybyddu neu beidio.

53.  Dylai'r manylion a roddir gynnwys gwybodaeth am yr adnoddau y trefnir iddynt fod ar gael gan Fwrdd Cyllid yr Esgobaeth – dyfyniad o gyllideb flynyddol y Bwrdd, er enghraifft. Os nad ydych yn gwneud y cais hwn fel cynrychiolydd o'r Bwrdd, rhowch gyfeiriad y Bwrdd.

54.  Dylech amga u datganiad diweddar o gyfrifon neu adroddiad blynyddol os oes un ar gael. Yn achos clastir, gall Bwrdd Cyllid yr Esgobaeth gyflwyno'r manylion, gan gynnwys dyfyniad o'r gyllideb flynyddol os yw'n briodol.

55.  Dylid cyflwyno crynodeb o ddogfen ymddiriedolaeth elusen neu ddogfen debyg, yn ogystal ag unrhyw wybodaeth arall. Yn achos clastir, nodwch a yw'r eiddo neu ran o'r eiddo yn cael ei dal yn ddi–rent gan weinidog trwyddedig neu weithiwr lleyg ar hyn o bryd.

56.  Os nad ydych yn siŵr o'r math o denantiaeth neu ddaliadaeth (er enghraifft, a yw'n denantiaeth sicr, yn denantiaeth a ddiogelir neu'n denantiaeth statudol), gallech holi'r Cyngor neu eich ymgynghorwyr cyfreithiol, cyfreithiwr, Canolfan Cynghori neu ganolfan cyngor cyfreithiol ynglŷn â hyn.

57.  Mae angen hyn i wneud penderfyniad ynglŷn â rhent nosiynol. Enghreifftiau yw unrhyw atgyweiriadau yr ydych yn gyfrifol amdanynt, unrhyw welliannau yr ydych wedi eu cyflawni ac nad ydych yn gyfrifol amdanynt o dan delerau eich tenantiaeth, neu unrhyw anghyweiriad neu ddiffyg y gellir ei briodoli i'ch methiant i gydymffurfio â thelerau eich tenantiaeth.

58.  Bydd y Cyngor fel rheol yn gofyn am ddau amcangyfrif o gostau'r gwaith, oddi wrth wahanol gontractwyr; ond gallant fynnu mwy neu lai na dau amcangyfrif mewn unrhyw achos penodol. (Gweler hefyd nodyn 7 uchod.) Dylid eitemeiddio'r amcangyfrifon hynny fel arfer.

59.  Mae'r manylion am unrhyw wasanaethau a thaliadau rhagarweiniol neu ategol ar gyfer y gwasanaethau a'r taliadau yr un fath ag ar gyfer y gwasanaethau a'r taliadau a nodwyd yng nghwestiwn 1.17 – gweler nodyn 10 uchod. Byddwch cystal â chynnwys amcangyfrifon.

FFURFLEN 3CAIS AM GRANT RHANNAU CYFFREDIN(Enw a chyfeiriad y Cyngor)

NODIADAU

1.  Os yw'r ymgeisydd yn gwmni neu'n gorff tebyg, rhowch y cyfeiriad swyddogol (cofrestredig).

2.  Mae cwestiynau gweddill y ffurflen hon yn ymwneud â'r adeilad y cyfeirir ato yma.

3.  I fod yn gymwys i gael grant rhannau cyffredin, rhaid i adeilad gynnwys o leiaf un fflat.

4.  Mae “fflat” yn annedd sy'n gartref ar wahân, p'un a yw ar yr un llawr neu beidio, ac wedi'i rhannu'n llorweddol oddi wrth ryw ran arall o'r adeilad.

5.  Nid yw grant rhannau cyffredin ar gael ar gyfer unrhyw adeilad sy'n llai na 10 mlwydd oed neu, lle crewyd y rhannau cyffredin wrth addasu'r adeilad, lle gwnaed y gwaith addasu lai na 10 mlynedd yn ôl.

6.  Os ydych wedi gwneud mwy nag un cais blaenorol, rhowch fanylion pob un ohonynt a manylion unrhyw gyfraniad yr hysbyswyd chi amdano o dan gynllun atgyweirio grŵp. Gall cymeradwyo grantiau blaenorol effeithio ar y gwaith y gellir rhoi grant ar ei gyfer, a hefyd ar faint y grant a fydd yn daladwy.

7.  Os gwyddoch am fwy nag un cais blaenorol am grant, rhowch fanylion pob un ohonynt a manylion unrhyw gyfraniad yr hysbyswyd chi amdano o dan gynllun atgyweirio grŵp, os yw'n hysbys. Gall cymeradwyo grantiau blaenorol effeithio ar y gwaith y gellir rhoi grant ar ei gyfer.

8.  Rhowch ddisgrifiad mor llawn ag y gallwch o'r gwaith arfaethedig. Bydd o gymorth i chi gyflwyno cynlluniau ac, yn achos gwaith gwella, dylai'r rhain ddangos yr eiddo cyn ac ar ôl cyflawni'r gwaith. Os yw'r Cyngor yn ei gwneud yn ofynnol i'r gwaith gael ei gyflawni i'w manyleb hwy, dylai hynny fod yn sail i'r amcangyfrifon gan y contractwyr a amgaeir gyda'r ffurflen hon (gweler Rhan 4 – eitem amgaee dig A).

9.  Gellir cyflwyno hysbysiadau o dan adrannau 189 neu 190 Deddf Tai 1985 sy'n pennu gwaith ar rannau cyffredin adeilad i berson sy'n berchennog y rhan honno o'r adeilad (neu'r adeilad cyfan) ac a ddylai, ym marn yr awdurdod sy'n cyflwyno'r hysbysiad, gyflawni'r gwaith.

10.  Gall fod yn ofynnol neu beidio â bod yn ofynnol cael caniatâd cynllunio neu gymeradwyaeth o dan y rheoliadau adeiladu. Os nad ydych yn siŵr a yw caniatâd neu gymeradwyaeth yn ofynnol, cysylltwch ag adran berthnasol y Cyngor. Os cafwyd caniatâd neu gymeradwyaeth eisoes, amgaewch gopi ohono/ohoni gyda'ch cais.

11.  Os gwnewch y gwaith eich hun, neu os caiff ei wneud gan aelod o'ch teulu, mae'n bosibl y byddwch yn methu â rhoi anfoneb, hawliad neu dderbynneb am y gwaith a fyddai'n dderbyniol i'r Cyngor at ddibenion talu grant. Byddwch cystal ag egluro'r pwynt hwn gyda'r Cyngor.

12.  Enghreifftiau o wasanaethau a thaliadau rhagarweiniol neu ategol y gellir eu cynnwys yn y cais am grant yw: arolygon technegol a strwythurol; llunio a pharatoi cynlluniau a lluniadau a pharatoi amserlenni'r gwaith; sicrhau amcangyfrifon, ceisiadau am gymeradwyaeth o dan y rheoliadau adeiladu a chaniatâd cynllunio; goruchwylio'r gwaith, datgysylltu ac ailgysylltu trydan, nwy, dŵr a gwasanaethau traenio a orfodir oherwydd y gwaith (ond nid taliadau sy'n codi oherwydd methu â thalu biliau); cyngor ar gontractau ac ar ariannu costau'r gwaith, gan gynnwys gwasanaethau o'r fath a roir gan asiantaethau gwella cartrefi. Gall y Cyngor roi manylion llawn am taliadau a'r gwasanaethau sy'n gymwys.

13.  O dan rai amgylchiadau, gall y landlord fod â buddiant prydlesol mewn fflat yn y adeilad. Os ydych yn y sefyllfa hon, dylech ateb “Ie” i gwestiwn 2.1 ac “Ydwyf” i 2.2, ond dylech lenwi Adran A yn unig o Ran 2 y ffurflen.

14.  Os ydych wedi ateb “Nage” i gwestiwn 2.1 ac “Nac ydwyf” i gwestiwn 2.2, nid ydych yn gymwys i wneud cais rhannau cyffredin gan landlord na thenantiaid. Ail–ystyriwch eich atebion i'r ddau gwestiwn hyn. Os na allwch ateb “Ie” neu “Ydwyf” i un o'r cwestiynau hyn, yna peidiwch â mynd ymlaen ymhellach â'r cais hwn.

15.  Os ydych wedi ateb “Nac ydwyf” i gwestiwn 2.3, nid oes gennych y buddiant angenrheidiol i wneud cais rhannau cyffredin gan landlord. Ail–ystyriwch eich ateb. Os na allwch ateb “Ydwyf” neu “Oes” i'r cwestiwn hwn, yna peidiwch â mynd ymlaen ymhellach â'r cais hwn.

16.  Os ydych yn gwneud cais rhannau cyffredin gan landlord, mae angen i chi fod â phŵer neu ddyletswydd i gyflawni'r holl waith. Os nad oes gennych y naill na'r llall o'r rhain, nid ydych yn gymwys i wneud cais rhannau cyffredin gan landlord. Ail–ystyriwch eich ateb. Os oes gennych bŵer neu ddyletswydd i gyflawni peth o'r gwaith, gallech ystyried ymuno â chais gan denantiaid fel “landlord cyfranogi”. Fel arall, peidiwch â mynd ymhellach â'r cais hwn.

17.  Hwyrach yr hoffech amga u, gyda'ch cais, gopi o ran berthnasol neu rannau perthnasol unrhyw gytundeb tenantiaeth neu ddogfen arall sy'n nodi eich rhwymedigaethau.

18.  Os na phennir eich rhwymedigaethau yn eich cytundeb tenantiaeth, mae angen i chi ddatagan faint o bobl sy'n rhannu'r atebolrwydd i gyflawni'r gwaith, neu i dalu costau ei gyflawni. At y dibenion hyn, caiff tenantiaeth a ddelir ar y cyd gan ddau neu ragor o bobl ei chyfrif fel pe câi ei dal gan un person.

19.  Yr enw a'r cyfeiriad sydd i'w rhoi yma yw enw a chyfeiriad y person sy'n llenwi'r rhan hon o'r ffurflen, a dylai hwnnw neu honno fod yn un o'r tenantiaid cyfranogi.

20.  Os ydych wedi ateb “Nac ydwyf” i gwestiwn 2.10 nid ydych yn gymwys i gyfranogi mewn cais rhannau cyffredin gan denantiaid. Ail–ystyriwch eich ateb i'r cwestiwn hwn. Os na allwch ateb “Ydwyf”, peidiwch ag ymuno â'r rhai sy'n gwneud y cais hwn.

21.  Os ydych wedi ateb “Nac ydwyf” i gwestiynau 2.13 a 2.15, nid ydych yn gymwys i wneud cais rhannau cyffredin gan denantiaid. Ail–ystyriwch eich atebion. Os na allwch ateb “Ydwyf” i un o'r cwestiynau hyn, peidiwch â mynd ymlaen ymhellach â'r cais hwn.

22.  Amgaewch gopi o ran berthnasol/rhannau perthnasol eich cytundeb tenantiaeth neu nodwch yr hyn a gytunwyd rhyngoch chi a'ch landlord.

23.  Os ydych wedi ateb “Ydwyf/Ydynt” i gwestiwn 3.1, nid oes angen i chi ateb y cwestiynau yng ngweddill yr adran hon. Ond rhaid i chi lenwi'rDatganiadar ddiwedd yr adran hon. Gall helpu'r Cyngor i brosesu eich cais yn gynt os yw pob person sydd ar gymhorthdal incwm yn llenwiffurflen awdurdodi (a)yn ogystal â'r datganiad.

24.  Mae partner yn rhywun o'r rhyw arall sy'n byw gyda chi fel gŵr neu wraig p'un a ydych yn briod neu beidio. Dylech ateb “Nac Oes” i gwestiwn 3.6 os yw'r cyfryw berson sydd fel arfer yn byw gyda chi yn absennol ac yn debygol o fod yn absennol am fwy na 52 wythnos; ond dylech ateb “Oes” os yw absenoldeb y person hwnnw yn codi oherwydd amgylchiadau eithriadol sydd y tu hwnt i'w reolaeth neu i'w rheolaeth ac nid yw'r absenoldeb yn debygol o bara'n sylweddol fwy na 52 wythnos.

25.  Os oes gennych fwy nag un partner, a chithau wedi eich priodi â mwy nag un priod o dan ddeddf gwlad sy'n caniata u priodasau o'r fath, dylech roi'r manylion y gofynnir amdanynt mewn perthynas â phob partner sy'n byw gyda chi, ac ateb cwestiynau 3.5 i 3.54 isod mewn perthynas â phob un ohonynt. Dylech hefyd sicrhau bod eich atebion i gwestiynau 3.19 i 3.28 yn cynnwys pob plentyn a pherson ifanc yr ydych chi neu unrhyw un o'ch partneriaid yn gyfrifol amdanynt ac sydd fel rheol yn byw gyda chi.

26.  Hyd yn oed os ydych chi neu eich partner wedi bod yn analluog i weithio yn ystod yr wythnosau diwethaf, gallwch ddal i fod yn gymwys i gael “premiwm anabledd” os oes gennych chi eich partner record hir o analluedd. Os credwch fod hyn yn gymwys i chi, dylech ddal i ateb “Nac ydwyf/Nac ydyw” i'r cwestiwn hwn, ond rhowch y manylion llawn o dan gwestiwn 3.10.

27.  Atebwch “Ydwyf/Ydyw” i'r cwestiwn hwn pe bai gennych chi neu'ch partner hawl i gael lwfans gofal analluedd oni bai am fudd–dâl cyffelyb yr ydych yn ei gael (h.y. budd–dâl anaf, atodiad am nad oes modd eich cyflogi, budd–dâl marwolaeth ddiwydiannol, budd–dâl marwolaeth pensiynau rhyfel, a lwfans hyfforddi) neu os ydych chi neu'ch partner yn cael taliad consesiwn i wneud yn iawn am na thelir lwfans gofal analluedd.

28.  Atebwch “Ydwyf/Ydyw” i'r cwestiwn hwn os nad ydych chi na'ch partner bellach yn cael y pensiwn hwn oherwydd talu pensiwn ymddeol.

29.  Mae plentyn neu berson ifanc dibynnol yn rhywun:

  • sydd o dan 19 oed;

  • yr ydych chi neu'ch partner yn gyfrifol amdano/amdani;

  • yr ydych chi neu'ch partner yn cael budd–dâl plentyn mewn perthynas ag ef/hi, neu sy'n cael ei drin/ei thrin fel plentyn at ddibenion budd–dâl plentyn; ac

  • sydd fel rheol yn byw gyda chi.

Ni ddylech gynnwys unrhyw berson ifanc sydd ar gymhorthdal incwm. Dylech ateb “Nac oes” os yw plentyn neu berson ifanc sydd fel arfer yn byw gyda chi yn absennol ac yn debygol o fod yn absennol am fwy na 52 wythnos; ond dylech ateb “Oes” os yw absenoldeb y plentyn neu'r person ifanc hwnnw yn codi oherwydd amgylchiadau eithriadaol sydd y tu hwnt i'w reolaeth neu i'w rheolaeth ac nid yw'r absenoldeb yn debygol o bara'n sylweddol fwy na 52 wythnos.

30.  Os ydych chi neu'ch partner ar gymhorthdal incwm, nid oes angen i chi ateb cwestiynau 3.21 i 3.24.

31.  Peidiwch â chynnwys unrhyw rai sydd o dan 16 neu sy'n dal mewn addysg amser–llawn.

32.  Wrth gyfrif y nifer o oriau a weithir mewn wythnos, dylech edrych ar gylch diwethaf eich oriau gweithio (os oes gennych gylch cydnabyddedig) neu (os nad oes) ar y pum wythnos diwethaf, yn union cyn y cais hwn. Ni ddylech gynnwys unrhyw ddiwrnod pryd y mae'r plentyn, a fuasai fel arall yn gweithio, ar gyfnod mamolaeth neu'n absennol o'r gwaith oherwydd salwch.

33.  Dylech gynnwys budd–daliadau, taliadau elusennol a gwirfoddol, a thaliadau cynhaliaeth.

34.  Nid oes angen i chi gynnwys lwfans gweini, lwfans byw i'r anabl nac atodiad symud–o– gwmpas.

35.  Dylech gynnwys unrhyw un/rhai o'r canlynol:

  • cynilion mewn arian parod;

  • arian mewn cyfrifon mewn banc, cymdeithas adeiladau neu Swyddfa'r Post;

  • Tystysgrifau Cynilion Cenedlaethol a Bondiau Premiwm;

  • stociau, cyfranddaliadau a dirunedau.

36.  Dylech gynnwys manylion unrhyw gyfalaf sy'n daladwy mewn rhandaliadau, gan gynnwys yn arbennig gyfanswm unrhyw randaliadau neu randaliadu sy'n ddyledus.

37.  At y diben hwn, mae person yn byw gyda chi os ydynt yn rhannu gyda chi ystafell neu ystafelloedd heblaw ystafell ymolchi, toiled neu fan cyfunol, e.e. cyntedd; ond nid os ydych bob un yn talu'r landlord ar wahân am eich llety.

38.  Gallai'r Cyngor ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch enillion yn ystod y 52 wythnos diwethaf mewn perthynas ag unrhyw gyflogaeth y cawsoch eich talu amdani, ynghyd â manylion unrhyw daliadau i gynllun pensiwn preifat a wnaed yn ystod yr un cyfnod.

39.  Gallai'r Cyngor ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o bob incwn arall a gafwyd yn ystod y 52 wythnos diwethaf.

40.  Os oes gennych bartner a chithau'n cael eich talu ar y cyd, fel cwpwl, rhowch y manylion yn y naill golofn neu'r llall (nid oes gwahaniaeth p'un) ond nid yn y ddwy.

41.  Dylai tâl gros gynnwys unrhyw fonws neu gomisiwn, goramser, tâl gwyliau, tâl salwch neu dâl mamolaeth.

42.  Wrth gyfrif y nifer o oriau a weithir mewn wythnos, dylech edrych ar gylch diwethaf eich oriau gweithio (os oes gennych gylch cydnabyddedig) neu (os nad oes) ar y pum wythnos diwethaf, yn union cyn y cais hwn. Ni ddylech gynnwys unrhyw ddiwrnod pryd y mae'r person, a fuasai fel arall yn gweithio, ar gyfnod mamolaeth neu'n absennol o'r gwaith oherwydd salwch.

43.  Byddwch cystal â chyflwyno cop au o'r cyfrifon diweddaraf sy'n rhoi manylion eich hunan– gyflogaeth. Cynhwyswch fanylion unrhyw daliadau a dalwyd i gynllun pensiwn, treth incwm a chyfraniadau yswiriant gwladol a dalwyd.

44.  Rhowch y swm net os caiff eich pensiwn ei drethu.

45.  Nid oes angen i chi gynnwys unrhyw un/rhai o'r canlynol:

  • lwfans gweini;

  • budd–dâl tâl cymunedol;

  • budd–dâl y dreth gyngor;

  • lwfans byw i'r anabl;

  • lwfans gwarcheidwad;

  • budd–tâl tai;

  • cymhorthdal incwm (gweler cwestiynau 3.3 a 3.33);

  • taliadau o Ymddiriedolaethau Macfarlane, y Gronfa Byw'n Annibynnol, y Gronfa Byw'n Annibynnol (Estyniad) neu'r Gronfa Byw'n Annibynnol (1993);

  • taliadau o'r Gronfa, h.y. arian y trefnwyd ei fod ar gael gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan gynllun a sefydlwyd ar 24 Ebrill 1992 neu, yn yr Alban, ar 10 Ebrill 1992;

  • taliadau i wneud yn iawn am golli'ch hawl i gael budd–dâl atodol lle na chawsoch eich hawl i gael cymhorthdal incwm am gyfnod yn dechrau ar 11 Ebrill 1988;

  • taliadau o dan cynllun “busnes ar eich cyfrif eich hun”, y cynllun “gwasanaeth darllenydd personol” neu'r cynllun “tocynnau i'r gwaith”;

  • taliadau o'r gronfa gymdeithasol o dan Ran VIII Deddf Cyfraniadau a Budd–daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992.

Gellir hefyd anwybyddu rhai budd–daliadau a lwfansau eraill wrth gyfrif eich incwm, ond at ddibenion llenwi'r ffurflen hon dylech hepgor yn unig y taliadau a grybwyllwyd uchod. Os oes gennych unrhyw amheuon a yw taliad yn perthyn i un o'r categor au hyn, dylech ei gynnwys a chyflwyno'r manylion llawn am natur y taliad er mwyn i'r Cyngor allu penderfynu a ellir ei anwybyddu neu beidio.

46.  Nid oes angen i chi gynnwys unrhyw un /rhai o'r canlynol:

  • unrhyw beth a restrwyd yn nodyn 45;

  • taliadau byrddio allan neu feithrin a wneir gan awdurdod lleol, awdurdod iechyd neu gorff gwirfoddol;

  • lwfans dechrau swydd;

  • taliadau “Rhan III”, h.y. taliadau a wneir gan awdurdod lleol o dan adran 17 neu 24 y Ddeddf Plant 1989 mewn perthynas â phlant a phobl ifanc;

  • taliadau a wneir i chi fel deiliad Croes Victoria neu Groes George.

Gellir hefyd anwybyddu rhai budd–daliadau a lwfansau eraill wrth gyfrif eich incwm, ond at ddibenion llenwi'r ffurflen hon dylech hepgor yn unig y taliadau a grybwyllwyd uchod. Os oes gennych unrhyw amheuon a yw taliad yn perthyn i un o'r categor au hyn, dylech ei gynnwys a chyflwyno'r manylion llawn am natur y taliad er mwyn i'r Cyngor allu penderfynu a ellir ei anwybyddu neu beidio.

47.  Gallai'r Cyngor ofyn i chi gyflwyno tystiolaeth o'r holl gynilion, buddsoddiadau a chyfalaf eraill.

48.  Os oes gennych bartner a chithau'n dal unrhyw gynilion, buddsoddiadau neu gyfalaf arall gyda'ch gilydd, nodwch y manylion yn y naill golofn neu'r llall (nid oes gwahaniaeth p'un) ond nid yn y ddwy.

49.  Os ydych yn dal unrhyw gyfalaf ar y cyd â phobl eraill heblaw eich partner, cynhwyswch gyfanswm y cyfalaf hwnnw (os yw'n hysbys) a nodwch faint o bobl eraill sydd â chyfran ynddo.

50.  Nid oes angen i chi gynnwys unrhyw un/rhai o'r canlynol:

  • budd–dâl tâl cymunedol;

  • budd–dâl y dreth gyngor;

  • budd–dâl tai, neu daliadau dros dro budd–dâl tai;

  • taliadau o Ymddiriedolaethau Macfarlane, y Gronfa Byw'n Annibynnol, y Gronfa Bwy'n Annibynnol (Estyniad) neu'r Gronfa Bwy'n Annibynnol (1993);

  • taliadau o'r Gronfa (gweler nodyn 45);

  • taliadau “Rhan III” (gweler nodyn 46);

  • taliadau i wneud yn iawn am golli'ch hawl i gael budd–dâl atodol lle na chawsoch eich hawl i gael cymhorthdal incwm am gyfnod yn dechrau ar 11 Ebrill 1988;

  • taliadau o dan y cynllun “busnes ar eich cyfrif eich hun”, y cynllun “gwasanaeth darllenydd personol”, neu'r cynllun “tocynnau i'r gwaith”;

  • taliadau “cychwyn” i weithwyr cartref a gaiff gymorth o dan y Cynllun Gweithwyr Cartref Dall;

  • taliadau o'r gronfa gymdeithasol o dan Ran VIII Deddf Cyfraniadau a Budd–daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992.

Gellir hefyd anwybyddu rhai mathau eraill o gynilion a thaliadau cyfalaf wrth gyfrif eich cyfalaf, ond at ddibenion llenwi'r ffurflen hon dylech hepgor yn unig yr eitemau a grybwyllwyd uchod. Os oes gennych unrhyw amheuon a yw buddsoddiad neu daliad cyfalaf yn perthyn i un o'r categor au hyn, dylech ei gynnwys a chyflwyno'r manylion llawn er mwyn i'r Cyngor allu penderfynu a ellir ei anwybyddu neu beidio.

51.  Dylech gynnwys ail gartrefi, cartrefi gwyliau ac unrhyw eiddo arall, gan gynnwys eiddo dros y môr.

52.  Nid oes angen i chi gynnwys unrhyw un/rhai o'r canlynol:

  • eich cartref eich hun;

  • yr eiddo sy'n destun y cais hwn;

  • unrhyw eiddo a ddelir gan hen berthynas i chi (h.y. 60 oed neu drosodd) neu berthynas i chi sy'n analluog, neu aelod o'ch teulu, fel ei unig neu ei hunig neu ei brif neu ei phrif breswylfan. Mae “perthynas” yn golygu unrhyw un o'r canlynol: rhieni, rhieni–yng– nghyfraith, llys–rieni, meibion a merched, meibion a merched–yng–nghyfraith, llys– feibion a llys–ferched, brodyr a chwiorydd, tad–cu a mam–gu/teidiau a neiniau, wyrion a wyresau, ewythrod a modrybedd, neiaint a nithod;

  • os ydych yn hunan–gyflogedig, asedion eich busnes.

Gellir hefyd anwybyddu rhai eitemau cyfalaf eraill wrth gyfrif eich cyfalaf, ond at ddibenion llenwi'r ffurflen hon dylech hepgor yn unig yr eitemau a grybwyllwyd uchod. Os oes gennych unrhyw amheuon a yw eiddo neu eitem gyfalaf arall yn perthyn i'r categor au hyn dylech ei gynnwys a chyflwyno'r manylion llawn er mwyn i'r Cyngor allu penderfynu a ellir ei anwybyddu neu beidio.

53.  Rhowch union gyfeiriad pob fflat (e.e. Fflat C, 25 Unrhyw Stryd).

54.  Os nad ydych yn siŵr o'r math o denantiaeth neu ddaliadaeth (er enghraifft, a yw'n denantiaeth sicr, yn denantiaeth a ddiogelir neu'n denantiaeth statudol), dylech holi'r Cyngor neu eich ymgynghorwyr cyfreithiol, cyfreithiwr, Canolfan Gynghori neu ganolfan cyngor cyfreithiol ynglŷn â hyn.

55.  Mae “rhent” yn cynnwys rhent tir at y dibenion hyn.

56.  Rhowch y swm wythnosol/misol/chwarterol/blynyddol fel y bo'n briodol.

57.  Dylai'r manylion a roddir gynnwys gwybodaeth am yr adnoddau y trefnir iddynt fod ar gael gan Fwrdd Cyllid yr Esgobaeth – dyfyniad o gyllideb flynyddol y Bwrdd, er enghraifft. Os nad ydych yn gwneud y cais hwn fel cynrychiolydd o'r Bwrdd, rhowch gyfeiriad y Bwrdd.

58.  Nid yw “elusen” yn cynnwys cymdeithasau tai cofrestredig at ddibenion grant.

59.  Dylech amga u datganiad diweddar o gyfrifon neu adroddiad blynyddol os oes un ar gael. Yn achos clastir, gall Bwrdd Cyllid yr Esgobaeth gyflwyno'r manylion, gan gynnwys dyfyniad o'r gyllideb flynyddol os yw'n briodol.

60.  Dylid cyflwyno crynodeb o ddogfen ymddiriedolaeth yr elusen neu ddogfen debyg, yn ogystal ag unrhyw wybodaeth arall. Yn achos clastir, nodwch a yw'r eiddo neu ran o'r eiddo yn cael ei dal yn ddi–rent gan weinidog trwyddedig neu weithiwr lleyg ar hyn o bryd.

61.  Bydd y Cyngor fel rheol yn gofyn am ddau amcangyfrif o gostau'r gwaith, oddi wrth wahanol gontractwyr; ond gallant fynnu mwy neu lai na dau amcangyfrif mewn unrhyw achos penodol. (Gweler hefyd nodyn 8 uchod). Dylid eitemeiddio'r amcangyfrifon hynny fel arfer.

62.  Mae'r manylion am unrhyw wasanaethau a thaliadau rhagarweiniol neu ategol yr un fath ag ar gyfer y gwasanaethau a'r taliadau a nodwyd yng nghwestiwn 1.18 – gweler nodyn 12 uchod. Byddwch cystal â chynnwys amcangyfrifon.

63.  Mae tystysgrif rhannau cyffredin yn pennu'r buddiant sydd gan yr ymgeisydd neu bob un o'r ymgeiswyr yn yr adeilad, neu ym mhob fflat yn yr adeilad, ac yn tystio bod y gyfran ofynnol, sef, fel rheol, dri–chwarter y fflatiau yn yr adeilad, ym meddiant “tenantiaid meddiannau”. Mae “tenant meddiannu” yn rhywun sydd â'r buddiant gofynnol mewn fflat yn yr adeilad, ac sy'n meddiannu'r fflat fel ei unig neu ei brif breswylfan, neu ei hunig neu ei phrif breswylfan.

FFURFLEN 4CAIS AM GRANT TŶ MEWN AMLDDALIADAETH(Enw a chyfeiriad y Cyngor)

NODIADAU

1.  Os yw'r ymgeisydd yn gwmni neu'n gorff tebyg, rhowch y cyfeiriad swyddogol (cofrestredig).

2.  Mae cwestiynau gweddill y ffurflen hon yn ymwneud â'r eiddo y cyfeirir ato yma.

3.  Os codwyd neu addaswyd yr eiddo lai na 10 mlynedd yn ôl, nid yw'n gymwys i gael grant tŷ mewn aml–ddaliadaeth.

4.  Os ydych wedi gwneud mwy nag un cais blaenorol, rhowch fanylion pob un ohonynt a manylion unrhyw gyfraniad yr hysbyswyd chi amdano o dan gynllun atgyweirio grŵp. Gall cymeradwyo grantiau blaenorol effeithio ar y gwaith y gellir rhoi grant ar ei gyfer, a hefyd ar faint y grant a fydd yn daladwy.

5.  Os gwyddoch am fwy nag un cais blaenorol am grant, rhowch fanylion pob un ohonynt a manylion unrhyw gyfraniad yr hysbyswyd chi amdano o dan gynllun atgyweirio grŵp, os yw'n hysbys. Gall cymeradwyo grantiau blaenorol effeithio ar y gwaith y gellir rhoi grant ewyllysiol ar ei gyfer.

6.  Gellir cyflwyno hysbysiadau o dan adrannau 189, 190 neu 352 Deddf Tai 1985 naill ar y person sydd â rheolaeth o'r tŷ, neu'r person sy'n rheoli'r tŷ.

7.  Os ydych wedi ateb “Na fydd” i gwestiynau 1.9 ac 1.10, ni ddylech fod yn gwneud cais am grant tŷ mewn aml–ddaliadaeth. Ail–ystyriwch eich atebion. Os na allwch ateb “Bydd” i un o'r cwestiynau hyn, peidiwch â mynd ymlaen ymhellach gyda'r cais hwn.

8.  Rhowch ddisgrifiad mor llawn ag y gallwch o'r gwaith arfaethedig. Bydd o gymorth i chi gyflwyno cynlluniau ac, yn achos gwaith gwella neu addasu, dylai'r rhain ddangos yr eiddo cyn ac ar ôl cyflawni'r gwaith.

9.  Os cyflwynwyd hysbysiadau gan yr Awdurdod Tân (o dan Ddeddf Rhagofalon Tân 1971 neu ddeddfwriaeth arall), mae'n bosibl na fyddai eich eiddo yn gymwys ar gyfer grant tŷ mewn fod o gymorth petaech yn amga u copi ohono/ohoni gyda'ch cais.

10.  Gall fod yn ofynnol neu beidio â bod yn ofynnol cael caniatâd cynllunio neu gymeradwyaeth o dan y rheoliadau adeiladu. Os nad ydych yn siŵr a yw caniatâd neu gymeradwyaeth yn ofynnol, cysylltwch ag adran berthnasol y Cyngor. Os cafwyd caniatâd neu gymeradwyaeth eisoes, amgaewch gopi ohono/ohoni gyda'ch cais.

11.  Os gwnewch y gwaith eich hun, neu os caiff wneud gan aelod o'ch teulu, mae'n bosibl y byddwch un methu â rhoi anfoneb, hawliad neu dderbynneb am y gwaith a fyddai'n dderbyniol i'r Cyngor at ddibenion talu grant. Byddwch cystal ag egluro'r pwynt hwn gyda'r Cyngor.

12.  Enghreifftiau o wasanaethau a thaliadau rhagarweiniol neu ategol y gellir eu cynnwys yn y cais am grant yw: arolygon technegol a strwythurol; llunio a pharatoi cynlluniau a lluniadau a pharatoi amserlenni'r gwaith; sicrhau amcangyfrifon, ceisiadau am gymeradwyaeth o dan y rheoliadau adeiladau a chaniatâd cynllunio; goruchwylio'r gwaith, datgysylltu ac ailgysylltu trydan, nwy, dŵr a gwasanaethau traenio a orfodir oherwydd y gwaith (ond nid taliadau sy'n codi oherwydd methu â thalu biliau); cyngor ar gontractau ac ar ariannu costau'r gwaith, gan gynnwys gwasanaesthau o'r fath a roir gan asiantaethau gwella cartrefi. Gall y cyngor roi manylion llawn am y taliadau a'r gwasanaethau sy'n gymwys.

13.  Nid yw “elusen” yn cynnwys cymdeithasau tai cofrestredig at ddibenion grant.

14.  Os ydych wedi ateb “Nac ydwyf/Nac oes” i gwestiynau 2.2 a 2.3, nid ydych yn gymwys i wneud cais am grant tŷ mewn aml–ddaliadaeth. Ail–ystyriwch eich atebion. Os na allwch ateb “Ydyw/Oes” neu “Ydwyf/Oes” i un o'r cwestiynau hyn, peidiwch â mynd ymlaen ymhellach â'r cais hwn.

15.  Os ydych wedi cyfnewid contractau ar bryniant, rhowch y dyddiad y bwriedir cwblhau'r pryniant. Ni all y Cyngor gymeradwyo'r cais hwn am grant nes eich bod yn meddu ar y buddiant angenrheidiol.

16.  Mae enghreifftiau o'r hyn a all fod yn “deulu” at y dibenion hyn yn rhywun sy'n byw ar ei ben/ei phen ei hun neu bersonau sy'n byw gyda'i gilydd fel teulu (p'un a ydynt yn berthnasau i'w gilydd neu beidio).

17.  Os nad ydych yn siŵr a yw'r llety'n cyfrif fel annedd ar wahân, dylech holi'r Cyngor ynglŷn â hyn.

18.  Gall y manylion a roddir gynnwys gwybodaeth am yr adnoddau y trefnir iddynt fod ar gael gan Fwrdd Cyllid yr Esgobaeth, dyfyniad o gyllideb flynyddol y Bwrdd, er enghraifft. Os nad ydych yn gwneud cais hwn fel cynrychiolydd o'r Bwrdd, rhowch gyfeiriad y Bwrdd.

19.  Gellir amga u datganiad diweddar o gyfrifon neu adroddiad blynyddol os yw'n briodol. Yn achos clastir, gall Bwrdd Cyllid yr Esgobaeth gyflwyno'r manylion, gan gynnwys dyfyniad o'r gyllideb flynyddol os yw'n briodol.

20.  Dylid cyflwyno crynodeb o ddogfen ymddiriedolaeth elusen, neu ddogfen debyg, yn ogystal ag unrhyw wybodaeth arall. Yn achos clastir, nodwch a yw'r eiddo neu ran o'r eiddo yn cael ei dal yn ddi–rent gan weinidog trwyddedig neu weithiwr lleyg ar hyn o bryd.

21.  Os nad ydych yn siŵr sut mae disgrifio'r math o denantiaeth neu drwydded (er enghraifft, a yw'n denantiaeth sicr, yn denantiaeth a ddiogelir neu'n denantiaeth statudol), dylech holi'r Cyngor neu eich ymgynghorwyr cyfreithiol eich hun, cyfreithiwr, Canolfan Cynghori neu ganolfan cyngor cyfreithiol ynglŷn â hyn.

22.  Gallai enghreifftiau gynnwys unrhyw atgyweiriadau y mae'r tenant neu'r trwyddedai yn gyfrifol amdanynt.

23.  Bydd y Cyngor fel rheol yn gofyn am ddau amcangyfrif o gostau'r gwaith, oddi wrth wahanol gontractwyr, ond gallant fynnu mwy neu lai na dau amcangyfrif mewn unrhyw achos penodol. (Gweler hefyd nodyn 8 uchod.)

24.  Mae'r manylion am unrhyw wasanaethau a thaliadau rhagarweiniol neu ategol ar gyfer y gwasanaethau a'r taliadau a nodwyd yng nghwestiwn 1.30 – gweler nodyn 12 uchod. Gall fod o gymorth i chi gynnwys amcangyfrifon.

25.  Mae tystysgrif tŷ mewn aml–ddaliadaeth yn tystio bod yr ymgeisydd wedi prynu, neu'n bwriadu prynu, buddiant perchennog yn yr adeilad a'i fod yn bwriadu gosod neu drwyddedu defnyddio rhan ohono (neu ei fod eisoes wedi gosod neu wedi trwyddedu rhan ohono) fel preswylfan, i rywun heblaw aelod o'i deulu, am gyfnod sydd heb fod yn llai na phum mlynedd gan ddechrau ar y dyddiad ardystiedig, ar denantiaeth nad yw'n denantiaeth hir.

26.  Mae bod â “buddiant perchennog” yn golygu bod yn berchen ar rydd–ddaliad yr eiddo, neu fod â thenantiaeth y mae o leiaf 5 mlynedd ohoni'n weddill ar ddyddiad gwneud y cais, p'un a berchnogir ef gan un person neu ar y cyd ag eraill. Y “diwrnod ardystiedig” yw'r dyddiad a ardystiwyd gan y Cyngor fel y dyddiad y cwblhawyd y gwaith, a gynorthwywyd â grant, i safon a'u bodlonodd.

Regulation 3

SCHEDULE 2REVOCATIONS

Regulations revokedReferences
The Housing Renovation etc. Grants (Prescribed Forms and Particulars) (Welsh Forms and Particulars) Regulations 1991S.I. 1991/80
The Housing Renovation etc. Grants (Prescribed Forms and Particulars) (Welsh Forms and Particulars) (Amendment) Regulations 1991S.I. 1991/1403
The Housing Renovation etc. Grants (Prescribed Forms and Particulars) (Welsh Forms and Particulars) (Amendment) Regulations 1992S.I. 1992/759
The Housing Renovation etc. Grants (Prescribed Forms and Particulars) (Welsh Forms and Particulars) (Amendment) Regulations 1993S.I. 1993/715
The Housing Renovation etc. Grants (Prescribed Forms and Particulars) (Welsh Forms and Particulars) (Amendment) (No. 2) Regulations 1993S.I. 1993/2078
The Housing Renovation etc. Grants (Prescribed Forms and Particulars) (Welsh Forms and Particulars) (Amendment) Regulations 1994S.I. 1994/435

Explanatory Note

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu fersiynau Cymraeg o'r ffurflenni a bennwyd gan y Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai etc. (Ffurflenni a Manylion Penodedig) 1994. Y ffurflenni yw:–

(1) ffurflen gais am grant adnewyddu (Ffurflen 1);

(2) ffurflen gais am grant cyfleusterau i'r anabl (Ffurflen 2);

(3) ffurflen gais am grant rhannau cyffredin (Ffurflen 3);

(4) ffurflen gais am grant tŷ mewn aml–ddaliadaeth (Ffurflen 4).

Mae'r Rheoliadau hyn yn cydgrynhoi, gyda diwygiadau, y Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai etc. (Ffurflenni a Manylion Penodedig) (Ffurflenni a Manylion Cymraeg) 1991 a'r rheoliadau diwygio a restrwyd yn Atodlen 2, ac a ddiddymir gan yr Atodlen honno. Yn ogystal â mân ddiwygiadau a diwygiadau drafftio, maent yn gwneud newidiadau yn sgîl y Rheoliadau Grantiau Adnewydd Tai etc. (Lleihau Grant) 1994 (O.S 1994/648).

Yn ôl rheoliad 4 nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i geisiadau a wnaed cyn 4 Ebrill 1994, sef y dyddiad pryd y daw'r Rheoliadau hyn i rym.

These Regulations prescribe Welsh versions of the forms prescribed by the Housing Renovation etc. Grants (Prescribed Forms and Particulars) Regulations 1994. The forms are:

(1) the form of application for a renovation grant (Form 1);

(2) the form of application for a disabled facilities grant (Form 2);

(3) the form of application for a common parts grant (Form 3);

(4) the form of application for an HMO grant (Form 4).

These Regulations consolidate, with modifications, the Housing Renovation etc. Grants (Prescribed Forms and Particulars) (Welsh Forms and Particulars) Regulations 1991 and the amending regulations listed in Schedule 2, which are repealed by that Schedule. In addition to minor and drafting amendments, they make changes consequential upon changes made by the Housing Renovation etc. Grants (Reduction of Grant) Regulations 1994 (S.I. 1994/648).

By regulation 4 these Regulations do not apply to applications made before 4th April 1994, the date on which these Regulations come into force.

(1)

See the definition of prescribed.

(4)

S.I. 1994/565.