xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Explanatory Note

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r Housing Renovation etc. Grants (Prescribed Forms and Particulars) (Welsh Forms and Particulars) Regulations 1991(1) (“y prif Reoliadau”). Mae'r diwygiadau'n gyfieithiad i'r Gymraeg o'r diwygiadau a wnaed gan yr Housing Renovation etc. Grants (Prescribed Forms and Particulars) (Amendment) Regulations 1991(2) i'r Housing Renovation etc. Grants (Prescribed Forms and Particulars) Regulations 1990(3). Mae Rheoliad 2(2) yn cywiro gwall ym mhennawd Ffurflen 2 y prif Reoliadau.

Mae Rheoliad 2(3) yn ychwanegu at gwestiwn 3.13 yn Ffurflen 1 (Cais am grant adnewyddu) a Ffurflen 2 (Cais am grant cyfleusterau i'r anabl) yn y prif Reoliadau ofyniad i ddatgan a ydys yn cael lwfans gofal analluedd. Mae Rheoliad 2(7) yn ychwanegu'r un gofyniad at gwestiwn 3.11 ar Ffurflen 3 (Cais am grant rhannau cyffredin). Mae Rheoliad 2(6) yn ychwanegu nodyn 30A ar Ffurflenni 1 a 2 sy'n rhoi arweiniad wrth ateb cwestiwn diwygiedig 3.13. Mae Rheoliad 2(10) yn ychwanegu nodyn 28A ar Ffurflen 3. Mae'r nodyn hwn yn rhoi arweiniad wrth ateb cwestiwn diwygiedig 3.11.

Mae Rheoliad 2(4) yn ychwanegu at gwestiwn 3.38 yn Ffurflenni 1 a 2 ofyniad i roi manylion unrhyw fenthyciad myfyriwr a manylion pellach am incwm elusennol a thaliadau gwirfoddol. Mae Rheoliad 2(8) yn ychwanegu'r un gofyniad at gwestiwn 3.36 yn Ffurflen 3.

Mae Rheoliad 2(5) yn ychwnegu geiriau tua dechrau nodyn 28 yn Ffurflenni 1 a 2. Mae Rheoliad 2(9) yn ychwanegu'r un geiriau tua dechrau nodyn 26 yn Ffurflen 3.

Mae Rheoliadau 2(11) a (12) yn peri mân ddiwygiadau i gywiro gwall mewn dau gwestiwn ar Furflen 4 (Cais am grant tŷ mewn amlddaliadaeth).

Mae Rheoliad 3 (dros dro) yn darparu nad yw'r diwygiadau'n gymwys mewn perthynas ag unrhyw gais am grant a wnaed yn unol â darpariaethau'r prif Reoliadau cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.

EXPLANATORY NOTE

(This note is not part of the Regulations)

These Regulations amend the Housing Renovation etc. Grants (Prescribed Forms and Particulars) (Welsh Forms and Particulars) Regulations 1991(4) (“the principal Regulations”). The amendments are a translation into Welsh of the amendments made by the Housing Renovation etc. Grants (Prescribed Forms and Particulars) (Amendment) Regulations 1991(5) to the Housing Renovation etc. Grants (Prescribed Forms and Particulars) Regulations 1990(6). Regulation 2(2) corrects an error in the heading of Form 2 of the principal Regulations.

Regulation 2(3) adds to question 3.13 in Forms 1 (Application for renovation grant) and 2 (Application for disabled facilities grant) in the principal Regulations a requirement to state whether invalid care allowance is received. Regulation 2(7) adds to question 3.11 on Form 3 (Application for common parts grant) the same requirement. Regulation 2(6) inserts note 30A on Forms 1 and 2 which gives guidance in answering the amended question 3.13. Regulation 2(10) inserts note 28A on Form 3. This note gives guidance in answering the amended question 3.11.

Regulation 2(4) adds to question 3.38 in Forms 1 and 2 a requirement to give details of any student loan and further details about charitable income and voluntary payments. Regulation 2(8) adds to question 3.36 in Form 3 the same requirement.

Regulation 2(5) inserts words near the beginning of note 28 in Forms 1 and 2. Regulation 2(9) inserts the same words near the beginning of note 26 in Form 3.

Regulations 2(11) and (12) make minor amendments to correct an error in two questions on Form 4 (Application for HMO grant).

Regulation 3 (transitional) provides that the amendments do not apply in respect of any application for a grant made in accordance with the provisions of the principal Regulations before the date on which these Regulations come into force.

(4)

S.I. 1991/80.

(5)

S.I. 1991/898.

(6)

S.I. 1990/1236.