xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

SCHEDULE 2Forms in Welsh

Form 5

CYFARWYDDYD I BLEIDLEISWYR

1.  Pan roir i chi bapur pleidleisio gwnewch yn siŵr iddo gael ei stampio â'r marc swyddogol.

2.  Ewch i un o'r cabanau pleidleisio. Rhowch groes (X) yn y blwch ar ochr dde'r papur pleidleisio gyferbyn ag enw yr ymgeisydd yr ydych am bleidleisio trosto.

3.  Plygwch y papur yn ddau. Dangoswch y marc swyddogol i'r swyddog llywyddu, ond peidiwch â gadael i neb weld eich pleidlais. Rhowch y papur pleidleisio yn y blwch pleidleisiau a mynd allan o'r orsaf bleidleisio.

4.  Pleidleisiwch i un ymgeisydd yn unig. Peidiwch â rhoi unrhyw farc arall ar y papur pleidleisio neu fe all na chaiff eich pleidlais ei chyfrif.

5.  Os bydd i chi drwy gamgymeriad ddifetha eich papur pleidleisio, ewch a'i ddangos i'r swyddog llywyddu a gofyn am un arall.