SCHEDULE 2Forms in Welsh

Article 5

Form 1

i

“Ai chi yw'r person a gofrestrwyd yn y gofrestr etholwyr seneddol ar gyfer yr etholiad hwn fel hyn (darllenwch y cofnod llawn yn y gofrestr)?”

ii

“A ydych eisoes wedi pleidleisio yma neu rywle arall, yn yr is-etholiad [etholiad cyffredinol] hwn, heblaw fel dirprwy ar ran rhyw berson arall?”

Form 2

i

“Ai chi yw'r person y gwelir ei enw fel A.B. yn y rhestr ddirprwyon ar gyfer yr etholiad hwn, fel un sydd â hawl i bleidleisio fel dirprwy ar ran C.D.?”

ii

“A ydych eisoes wedi pleidleisio yma neu rywle arall, yn yr is-etholiad [etholiad cyffredinol] hwn, fel dirpwy ar ran C.D.?”

Form 3

“Ai chi yw gŵr [gwraig], rhiant, tadcu [mamgu], brawd [chwaer], plentyn, neu ŵyr [wyres] C.D.?”

“A ydych eisoes wedi pleidleisio yn yr etholiad hwn ac yn yr etholaeth hon ar ran dau berson nad ydych yn ŵr [gwraig], rhiant, tadcu [mamgu], brawd [chwaer], plentyn, neu ŵyr [wyres] iddynt?”

Form 4ETHOL CYNRYCHIOLYDD

I WASANAETHU YN SENEDD EWROP

Image_r00011

Image_r00012

Form 5CYFARWYDDYD I BLEIDLEISWYR WRTH BLEIDLEISIO

1

Pan roir i chi bapur pleidleisio gwnewch yn siŵr iddo gael ei stampio â'r marc swyddogol.

2

Ewch i un o'r cabanau pleidleisio. Rhowch groes (X) yn y blwch ar ochr dde'r papur pleidleisio gyferbyn ag enw yr ymgeisydd yr ydych am bleidleisio trosto.

3

Plygwch y papur yn ddau. Dangoswch y marc swyddogol i'r swyddog llywyddu, ond peidiwch â gadael i neb weld eich pleidlais. Rhowch y papur pleidleisio yn y blwch pleidleisiau a mynd allan o'r orsaf bleidleisio.

4

Pleidleisiwch i un ymgeisydd yn unig. Peidiwch â rhoi unrhyw farc arall ar y papur pleidleisio neu fe all na chaiff eich pleidlais ei chyfrif.

5

Os bydd i chi drwy gamgymeriad ddifetha eich papur pleidleisio, ewch a'i ddangos i'r swyddog llywyddu a gofyn am un arall.

Form 6

Image_r00013