8Dehongli'r Rhan hon
This section has no associated Explanatory Notes
Yn y Rhan hon—
mae i “amcan y cydlafurio” (“collaboration objective”) yr ystyr a roddir gan adran 2;
mae i “corff addysg” (“education body”) yr ystyr a roddir gan adran 1;
mae i “pwerau cydlafurio” (“powers of collaboration”) yr ystyr a roddir gan adran 4;
ystyr “swyddogaethau” (“functions”) yw pwerau a dyletswyddau, ac yn achos awdurdod lleol, pwerau a dyletswyddau sy'n swyddogaethau addysg;
ystyr “trefniadau cydlafurio” (“collaboration arrangements”) yw gweithgaredd a gyflawnir wrth arfer pwerau cydlafurio corff addysg;
ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol, ysgol arbennig gymunedol neu ysgol arbennig sefydledig, ysgol feithrin a gynhelir neu uned cyfeirio disgyblion.