28Arbedion: cynigion i sefydlu ysgolion sefydledig newydd
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Mae is-adrannau (2) a (3) yn gymwys i gynnig gan awdurdod lleol neu unrhyw berson arall i sefydlu ysgol sefydledig newydd pan fo'r cynnig—
(a)wedi ei gyhoeddi o dan adran 28 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 cyn bod adran 26 wedi dod i rym, a
(b)heb gael ei weithredu'n unol ag Atodlen 6 i'r Ddeddf honno cyn bod adran 26 wedi dod i rym.
(2)Nid oes dim yn adran 26 yn effeithio ar weithrediad darpariaethau Rhannau 2 a 3 o Atodlen 6 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 mewn perthynas â'r cynnig.
(3)Mae paragraff 13(1) o Atodlen 6 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 yn cael effaith fel pe na bai'r diwygiad yn adran 26(3) wedi ei ddeddfu.