xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 1ATAL DROS DRO YR HAWL I BRYNU A HAWLIAU CYSYLLTIEDIG

PENNOD 2AMRYWIO CYFARWYDDYD I ATAL DROS DRO YR HAWL I BRYNU A HAWLIAU CYSYLLTIEDIG

9Amrywiad ehangu: ymgynghori

(1)Mae'r adran hon yn darparu ar gyfer yr ymgynghoriad y mae'n rhaid i awdurdod tai lleol ei gynnal cyn y caiff wneud cais i Weinidogion Cymru am amrywiad ehangu i gyfarwyddyd a ddyroddwyd o dan y Rhan hon.

(2)Rhaid i'r ymgynghoriad geisio barn ynghylch a oes angen i'r awdurdod wneud cais am amrywiad o'r fath ai peidio.

(3)Ymgynghorer â'r personau a ganlyn—

(a)pob darparydd tai cymdeithasol—

(i)y mae'n ymddangos i'r awdurdod ei fod yn landlord ar dŷ annedd a leolir yn ardal yr awdurdod (ond nid oes angen i'r awdurdod ymgynghori ag ef ei hun), a

(ii)y mae'r awdurdod o'r farn yr effeithid arno pe bai ei gais am amrywiad ehangu yn cael ei ganiatáu;

(b)unrhyw gorff neu gyrff yr ymddengys i'r awdurdod ei fod neu eu bod yn cynrychioli buddiannau tenantiaid tai annedd o fewn ardal yr awdurdod—

(i)pan fo landlordiaid y tai annedd hynny yn ddarparwyr tai cymdeithasol, a

(ii)pan fo'r awdurdod o'r farn yr effeithid ar denantiaid y tai annedd hynny pe bai ei gais am amrywiad ehangu i gyfarwyddyd yn cael ei ganiatáu;

(c)unrhyw awdurdod tai lleol arall y mae ei hardal yn gyfagos i'r ardal y bwriedir i elfennau ehangu'r cyfarwyddyd fod yn gymwys iddi, a

(d)unrhyw bersonau eraill y mae'r awdurdod o'r farn ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.