RHAN 1ATAL DROS DRO YR HAWL I BRYNU A HAWLIAU CYSYLLTIEDIG

PENNOD 1CYFARWYDDIADAU I ATAL DROS DRO YR HAWL I BRYNU A HAWLIAU CYSYLLTIEDIG

3Cais am gyfarwyddyd i atal dros dro yr hawl i brynu a hawliau cysylltiedig

1

Mae'r adran hon yn gosod y gofynion sydd i'w bodloni mewn cais gan awdurdod tai lleol i Weinidogion Cymru am gyfarwyddyd i atal dros dro yr hawl i brynu a hawliau cysylltiedig.

2

Rhaid i'r cais—

a

cynnwys drafft o'r cyfarwyddyd—

i

sy'n dynodi'n eglur yr ardal y mae i fod yn gymwys iddi (boed hynny'r cyfan o ardal yr awdurdod neu'n un rhan neu fwy nag un rhan o'i ardal);

ii

sy'n datgan a yw'r cyfarwyddyd i fod yn gymwys i bob tŷ annedd perthnasol o fewn yr ardal honno ai peidio;

iii

os nad yw'r cyfarwyddyd i fod yn gymwys i bob tŷ annedd perthnasol o fewn yr ardal honno, sy'n disgrifio'n eglur y math neu'r mathau o dŷ annedd perthnasol y mae i fod yn gymwys iddo neu iddynt;

iv

sy'n datgan y cyfnod y mae i gael effaith ynddo (a rhaid i'r cyfnod hwnnw beidio â bod yn hwy na phum mlynedd o'r dyddiad y byddid yn dyroddi'r cyfarwyddyd, pe bai'r cais yn cael ei ganiatáu);

b

esbonio pam y mae'r awdurdod wedi dod i'r casgliad fod y cyflwr o bwysau oherwydd prinder tai yn bodoli;

c

esbonio pam y mae'r awdurdod o'r farn fod y cyfarwyddyd yn ymateb priodol i'r ffaith iddo ddod i'r casgliad fod y cyflwr o bwysau oherwydd prinder tai yn bodoli;

d

esbonio pa gamau eraill y mae'r awdurdod yn bwriadu eu cymryd i leihau'r anghydbwysedd rhwng y galw am dai cymdeithasol a'r cyflenwad ohonynt o fewn ei ardal yn ystod y cyfnod y mae'r cyfarwyddyd i gael effaith ynddo, ac

e

disgrifio'r hyn a wnaed gan yr awdurdod i gyflawni ei rwymedigaeth i gynnal ymgynghoriad o dan adran 2.