xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Caiff awdurdod tai lleol wneud cais i Weinidogion Cymru am gyfarwyddyd i atal dros dro yr hawl i brynu a hawliau cysylltiedig yn ei ardal am gyfnod o hyd at bum mlynedd—
(a)os yw'r awdurdod, o fewn y cyfnod o chwe mis sy'n rhagflaenu'r cais, wedi cwblhau ymgynghoriad yn unol ag adran 2, a
(b)os, yng ngoleuni'r ymgynghoriad hwnnw, ac ar ôl ystyried unrhyw wybodaeth berthnasol arall, daw'r awdurdod i'r casgliad bod y cyflwr a ddisgrifir yn is-adran (2) yn bodoli.
(2)Y cyflwr (y cyfeirir ato yn y Rhan hon fel y “cyflwr o bwysau oherwydd prinder tai”) yw—
(a)o fewn ardal yr awdurdod tai lleol, bod y galw am dai cymdeithasol yn sylweddol uwch neu'n debygol o fod yn sylweddol uwch na'r cyflenwad o dai cymdeithasol, a
(b)bod yr anghydbwysedd hwnnw rhwng y galw a'r cyflenwad yn debygol o gynyddu o ganlyniad i arfer yr hawl i brynu a hawliau cysylltiedig.
(3)At ddibenion y Rhan hon, mae'r canlynol yn hawliau sy'n gysylltiedig â'r hawl i brynu—
(a)yr hawl i brynu fel y'i hestynnwyd o dan adran 171 o Ddeddf Tai 1985;
(b)yr hawl i brynu a gadwyd o dan adran 171A o Ddeddf Tai 1985;
(c)yr hawl i gaffael o dan adran 16 o Ddeddf Tai 1996;
(d)yr hawl i gaffael fel y'i hestynnwyd o dan adran 16A o Ddeddf Tai 1996.
(4)Caiff awdurdod tai lleol ddod i'r casgliad fod paragraff (a) o is-adran (2) wedi ei fodloni—
(a)mewn cysylltiad â'r holl dai cymdeithasol yn ei ardal;
(b)mewn cysylltiad â'r holl dai cymdeithasol mewn rhan neu rannau penodol o'i ardal;
(c)mewn cysylltiad â mathau penodol o dai cymdeithasol (p'un ai drwy ei ardal gyfan neu mewn rhan neu rannau penodol o'i ardal).
(5)At ddibenion y Rhan hon, caniateir dynodi math o dai cymdeithasol drwy gyfeirio at unrhyw un neu ragor o'r canlynol, neu at unrhyw gyfuniad ohonynt—
(a)anghenion arbennig tenantiaid;
(b)disgrifiad o dŷ annedd;
(c)math o ddarparydd tai cymdeithasol (a allai gynnwys darparydd penodol).
(1)Mae'r adran hon yn darparu ar gyfer yr ymgynghoriad y mae'n rhaid i awdurdod tai lleol ei gynnal cyn y caiff wneud cais i Weinidogion Cymru am gyfarwyddyd sy'n atal dros dro yr hawl i brynu a hawliau cysylltiedig.
(2)Rhaid i'r ymgynghoriad geisio barn ynghylch a oes angen i'r awdurdod wneud cais am gyfarwyddyd o'r fath ai peidio.
(3)Ymgynghorer â'r personau a ganlyn—
(a)pob darparydd tai cymdeithasol—
(i)y mae'n ymddangos i'r awdurdod ei fod yn landlord ar dŷ annedd a leolir yn ardal yr awdurdod (ond nid oes angen i'r awdurdod ymgynghori ag ef ei hun), a
(ii)y mae'r awdurdod o'r farn yr effeithid arno pe bai ei gais am gyfarwyddyd yn cael ei ganiatáu;
(b)unrhyw gorff neu gyrff yr ymddengys i'r awdurdod ei fod neu eu bod yn cynrychioli buddiannau tenantiaid tai annedd o fewn ardal yr awdurdod—
(i)pan fo landlordiaid y tai annedd hynny yn ddarparwyr tai cymdeithasol, a
(ii)pan fo'r awdurdod o'r farn yr effeithid ar denantiaid y tai annedd hynny pe bai ei gais am gyfarwyddyd yn cael ei ganiatáu;
(c)unrhyw awdurdod tai lleol arall y mae ei hardal yn gyfagos i'r ardal y bwriedir i'r cyfarwyddyd fod yn gymwys iddi, a
(d)unrhyw bersonau eraill y mae'r awdurdod o'r farn ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.
(1)Mae'r adran hon yn gosod y gofynion sydd i'w bodloni mewn cais gan awdurdod tai lleol i Weinidogion Cymru am gyfarwyddyd i atal dros dro yr hawl i brynu a hawliau cysylltiedig.
(2)Rhaid i'r cais—
(a)cynnwys drafft o'r cyfarwyddyd—
(i)sy'n dynodi'n eglur yr ardal y mae i fod yn gymwys iddi (boed hynny'r cyfan o ardal yr awdurdod neu'n un rhan neu fwy nag un rhan o'i ardal);
(ii)sy'n datgan a yw'r cyfarwyddyd i fod yn gymwys i bob tŷ annedd perthnasol o fewn yr ardal honno ai peidio;
(iii)os nad yw'r cyfarwyddyd i fod yn gymwys i bob tŷ annedd perthnasol o fewn yr ardal honno, sy'n disgrifio'n eglur y math neu'r mathau o dŷ annedd perthnasol y mae i fod yn gymwys iddo neu iddynt;
(iv)sy'n datgan y cyfnod y mae i gael effaith ynddo (a rhaid i'r cyfnod hwnnw beidio â bod yn hwy na phum mlynedd o'r dyddiad y byddid yn dyroddi'r cyfarwyddyd, pe bai'r cais yn cael ei ganiatáu);
(b)esbonio pam y mae'r awdurdod wedi dod i'r casgliad fod y cyflwr o bwysau oherwydd prinder tai yn bodoli;
(c)esbonio pam y mae'r awdurdod o'r farn fod y cyfarwyddyd yn ymateb priodol i'r ffaith iddo ddod i'r casgliad fod y cyflwr o bwysau oherwydd prinder tai yn bodoli;
(d)esbonio pa gamau eraill y mae'r awdurdod yn bwriadu eu cymryd i leihau'r anghydbwysedd rhwng y galw am dai cymdeithasol a'r cyflenwad ohonynt o fewn ei ardal yn ystod y cyfnod y mae'r cyfarwyddyd i gael effaith ynddo, ac
(e)disgrifio'r hyn a wnaed gan yr awdurdod i gyflawni ei rwymedigaeth i gynnal ymgynghoriad o dan adran 2.
(1)Os yw Gweinidogion Cymru o'r farn bod cais awdurdod tai lleol am gyfarwyddyd i atal dros dro yr hawl i brynu a hawliau cysylltiedig yn bodloni gofynion adran 3, mae'n rhaid iddynt ystyried y cais.
(2)Os yw Gweinidogion Cymru o'r farn nad yw cais yn bodloni gofynion adran 3, mae'n rhaid iddynt wrthod ystyried y cais, onid ydynt o'r farn bod y methiant i gydymffurfio â'r gofynion yn ddibwys neu'n ddiarwyddocâd, ac os felly caniateir iddynt ystyried y cais.
(3)Mae'n rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu awdurdod yn ysgrifenedig—
(a)os ydynt dan rwymedigaeth o dan is-adran (1) i ystyried cais am gyfarwyddyd i atal dros dro yr hawl i brynu a hawliau cysylltiedig a wnaed gan yr awdurdod;
(b)os ydynt yn penderfynu o dan is-adran (2) ystyried cais o'r fath, neu
(c)os ydynt dan rwymedigaeth o dan is-adran (2) i wrthod ystyried cais.
(4)Mae'r diwrnod ar ôl y diwrnod yr anfonwyd hysbysiad o dan is-adran (3)(a) neu (b) i'w drin fel y dyddiad y penderfynodd Gweinidogion Cymru ystyried y cais.
(5)Os bydd awdurdod tai lleol yn darparu gwybodaeth bellach o dan adran 27 cyn bod Gweinidogion Cymru wedi penderfynu ystyried cais, mae'r wybodaeth honno i'w thrin fel petai'n ffurfio rhan o'r cais.
(1)Mae'r adran hon yn gymwys pan fydd Gweinidogion Cymru yn ystyried cais awdurdod tai lleol am gyfarwyddyd yn atal dros dro yr hawl i brynu a hawliau cysylltiedig yn unol ag adran 4(1) neu (2).
(2)Caiff Gweinidogion Cymru wrthod y cais (heb ystyried a yw is-adran (4) yn ei gwneud yn ofynnol iddynt ei ganiatáu ai peidio) os ydynt o'r farn—
(a)bod yr awdurdod wedi methu â chydymffurfio â gofyniad a osodwyd o dan adran 27 mewn perthynas â'r cais, neu
(b)pan fo'n ofynnol i'r awdurdod gael strategaeth ynghylch tai o dan adran 87(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003, bod y strategaeth honno, i'r graddau y mae'n ymwneud ag unrhyw anghydbwysedd rhwng y galw am dai cymdeithasol yn ardal yr awdurdod a'r cyflenwad ohonynt, yn annigonol.
(3)Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â gwneud penderfyniad o dan is-adran (2)(b) onid ydynt wedi ystyried—
(a)unrhyw ddatganiad y mae'n ofynnol i'r awdurdod ei baratoi o dan adran 87(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003, a
(b)unrhyw wybodaeth arall y mae Gweinidogion Cymru o'r farn ei bod yn berthnasol.
(4)Rhaid i Weinidogion Cymru ganiatáu'r cais—
(a)os ydynt yn cytuno â chasgliad yr awdurdod ynghylch pam y mae'r cyflwr o bwysau oherwydd prinder tai yn bodoli;
(b)os ydynt yn cytuno â barn yr awdurdod fod y cyfarwyddyd yn ymateb priodol i'r ffaith bod yr awdurdod wedi dod i'r casgliad fod y cyflwr o bwysau oherwydd prinder tai yn bodoli;
(c)os ydynt wedi eu bodloni bod cynigion yr awdurdod a gynhwysir yn ei gais yn unol ag adran 3(2)(d) yn debygol o gyfrannu at leihad yn yr anghydbwysedd rhwng y galw am dai cymdeithasol a'r cyflenwad ohonynt o fewn ardal yr awdurdod, a
(d)os ydynt wedi eu bodloni fod yr awdurdod, cyn gwneud y cais, wedi cydymffurfio â'i rwymedigaeth i gynnal ymgynghoriad o dan adran 2.
(5)Os oes unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (d) o is-adran (4) heb ei fodloni, rhaid i Weinidogion Cymru wrthod y cais.
(6)Rhaid i Weinidogion ganiatáu neu wrthod cais yn unol â'r adran hon o fewn chwe mis sy'n dechrau ar y dyddiad y gwnaethant benderfynu ystyried y cais (gweler adran 4(4)).
(7)Nid effeithir ar ddilysrwydd penderfyniad Gweinidogion Cymru gan fethiant i gydymffurfio ag is-adran (6).
(1)Pan fo Gweinidogion Cymru yn caniatáu cais awdurdod tai lleol o dan adran 5, rhaid iddynt ddyroddi cyfarwyddyd ysgrifenedig—
(a)sy'n dynodi'n eglur yr ardal y mae'n gymwys iddi (boed hynny'r cyfan o ardal yr awdurdod neu'n un rhan neu fwy nag un rhan o'i ardal);
(b)sy'n datgan a yw'r cyfarwyddyd yn gymwys i bob tŷ annedd perthnasol o fewn yr ardal honno ai peidio;
(c)os nad yw'r cyfarwyddyd yn gymwys i bob tŷ annedd perthnasol o fewn yr ardal honno, sy'n disgrifio'n eglur y math neu'r mathau o dŷ annedd perthnasol y mae'n gymwys iddo neu iddynt;
(d)sy'n datgan y cyfnod y mae i gael effaith ynddo (a rhaid i'r cyfnod hwnnw beidio â bod yn hwy na phum mlynedd o'r dyddiad y'i dyroddir).
(2)Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â dyroddi cyfarwyddyd o dan yr adran hon sy'n wahanol mewn unrhyw ddull sylweddol i'r drafft o'r cyfarwyddyd sydd wedi ei gynnwys yng nghais yr awdurdod tai lleol yn unol ag adran 3(2)(a).