xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 6LL+CTROSOLWG A CHRAFFU

PENNOD 2LL+CPWYLLGORAU [F1LLYWODRAETHU AC] ARCHWILIO

84Cynnal cyfarfodydd: pa mor amlLL+C

(1)Rhaid i bwyllgor [F2llywodraethu ac] archwilio gyfarfod unwaith ym mhob blwyddyn galendr.

(2)Rhaid i bwyllgor [F3llywodraethu ac] archwilio awdurdod lleol gyfarfod hefyd—

(a)os yw'r awdurdod lleol yn penderfynu y dylai'r pwyllgor gyfarfod, neu

(b)os yw traean o leiaf o aelodau o'r pwyllgor yn hawlio cyfarfod drwy gyfrwng un neu ragor o hysbysiad ysgrifenedig a roddir i'r person sy'n cadeirio'r pwyllgor.

[F4(2A)Os yw dau neu ragor o aelodau pwyllgor llywodraethu ac archwilio yn aelodau o’r weithrediaeth sy’n rhannu swydd, nid yw’r aelodau hynny gyda’i gilydd ond yn cyfrif fel un aelod o’r pwyllgor at ddibenion is-adran (2)(b).]

(3)Mae dyletswydd ar y person sy'n cadeirio pwyllgor [F5llywodraethu ac] archwilio i sicrhau bod cyfarfodydd y pwyllgor yn cael eu cynnal fel y mae is-adrannau (1) a (2) yn ei gwneud yn ofynnol.

(4)Nid yw'r adran hon yn atal pwyllgor [F6llywodraethu ac] archwilio rhag cyfarfod ac eithrio fel y mae'r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol.