RHAN 6LL+CTROSOLWG A CHRAFFU

PENNOD 1LL+CPWYLLGORAU TROSOLWG A CHRAFFU

Valid from 30/04/2012

Penodi personau i gadeirio pwyllgorauLL+C

74Yr awdurdod yn penderfynu ar ddarpariaeth benodiLL+C

(1)Mae darpariaeth benodi awdurdod lleol yn cydymffurfio â'r adran hon—

(a)os nad yw'r ddarpariaeth yn llai ffafriol nag adran 70 i grwpiau gwrthblaid, a

(b)os cymeradwyir y ddarpariaeth drwy benderfyniad a wneir gan yr awdurdod lleol ac sy'n benderfyniad y mae iddo gefnogaeth ar draws y grwpiau.

(2)Nid yw darpariaeth benodi'n llai ffafriol nag adran 70 i grwpiau gwrthblaid os yw'n darparu—

(a)bod y cyfle i'w roi i grwpiau gwrthblaid ar yr awdurdod lleol (o'u cymryd gyda'i gilydd) i benodi nifer mwy o gadeiryddion pwyllgor nag yn achos darpariaeth a wneir yn unol ag adran 70, a

(b)bod y cyfle i'w roi i bob grŵp gwrthblaid ar yr awdurdod lleol i benodi'r un nifer o leiaf o gadeiryddion pwyllgor ag a fyddai'n achos darpariaeth a wneir yn unol ag adran 70.

(3)Mae cefnogaeth ar draws y grwpiau i benderfyniad a wneir gan yr awdurdod lleol—

(a)os yw'r personau sy'n pleidleisio o blaid y penderfyniad yn cynnwys aelodau o bob grŵp gwleidyddol ar yr awdurdod, a

(b)os yw pob grŵp gwleidyddol ar yr awdurdod yn rhoi cefnogaeth fwyafrifol i'r penderfyniad.

(4)Mae grŵp gwleidyddol ar yr awdurdod yn rhoi cefnogaeth fwyafrifol i'r penderfyniad os yw nifer aelodau'r grŵp hwnnw sy'n pleidleisio o blaid y penderfyniad yn fwy na nifer aelodau'r grŵp hwnnw sy'n pleidleisio yn erbyn y penderfyniad.