RHAN 6TROSOLWG A CHRAFFU
PENNOD 1PWYLLGORAU TROSOLWG A CHRAFFU
Penodi personau i gadeirio pwyllgorau
I167Yr adegau pan fo penodiadau i'w gwneud gan bwyllgor
1
Rhaid i'r ddarpariaeth benodi ddarparu ar gyfer penodi cadeiryddion pwyllgorau yn achosion A i C a nodir yn yr adran hon.
2
Rhaid i'r ddarpariaeth benodi ddarparu bod cadeirydd y pwyllgor, neu bob cadeirydd pwyllgor, yn yr achosion hynny, i'w benodi gan y pwyllgor y mae'r person hwnnw i'w gadeirio.
3
Achos pan nad oes grwpiau gwleidyddol ar yr awdurdod yw achos A .
4
Achos pan nad oes ond un grŵp gwleidyddol ar yr awdurdod yw achos B.
5
Pan ddigwydd y canlynol ceir achos C—
a
mae dau grŵp gwleidyddol (ond dim mwy) ar yr awdurdod,
b
nid oes gan yr awdurdod ond un pwyllgor trosolwg a chraffu, ac
c
o ran gweithrediaeth yr awdurdod—
i
mae'n cynnwys aelodau o'r ddau grŵp gwleidyddol, neu
ii
nid yw'n cynnwys unrhyw aelod o'r naill grŵp gwleidyddol na'r llall.