6Amseru cyfarfodydd cyngorLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Caiff Gweinidogion Cymru roi canllawiau ynghylch amser cynnal cyfarfodydd awdurdod lleol.
(2)Rhaid i awdurdod lleol roi sylw i ganllawiau a roddir o dan is-adran (1).
(3)Yn is-adran (1), ystyr “cyfarfodydd awdurdod lleol” yw—
(a)cyfarfodydd yr awdurdod lleol;
(b)cyfarfodydd unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor i'r awdurdod.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 6 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)
I2A. 6 mewn grym ar 30.4.2012 gan O.S. 2012/1187, ergl. 2(1)(a)