Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

29Rheoliadau: atodolLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

Caiff rheoliadau o dan y Rhan hon—

(a)gwneud darpariaeth ynghylch hysbysiadau sydd i'w rhoi, tystiolaeth sydd i'w dangos, cofnodion sydd i'w cadw a gweithdrefnau eraill sydd i'w dilyn gan aelod o awdurdod lleol neu gan awdurdod lleol;

(b)gwneud darpariaeth ar gyfer canlyniadau methu â rhoi hysbysiadau, dangos tystiolaeth, cadw cofnodion neu gydymffurfio â gofynion gweithdrefnol eraill;

(c)gwneud darpariaeth ar gyfer canlyniadau methu â gweithredu yn unol â hysbysiad a roddwyd yn rhinwedd paragraff (a);

(d)gwneud darpariaeth yn rhoi hawl i aelod o awdurdod lleol (neu o'r weithrediaeth) i gyflwyno cwyn ynghylch penderfyniad gan awdurdod lleol i derfynu cyfnod o absenoldeb neu i ohirio neu ddiddymu cyfnod o absenoldeb;

(e)gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â hawl a roddir yn rhinwedd paragraff (d) gan gynnwys, ymhlith pethau eraill, ddarpariaeth ynghylch—

(i)ar ba sail y caniateir cyflwyno cwyn;

(ii)y person y caniateir cyflwyno cwyn iddo;

(iii)yr amodau gweithdrefnol i'w bodloni;

(iv)gwneud cwyn, penderfynu arni a'i heffaith;

(f)gwneud darpariaeth o ran aelod o awdurdod lleol (neu o'r weithrediaeth) ynghylch i ba raddau—

(i)y caiff weithredu fel aelod o'r awdurdod (neu o'r weithrediaeth) yn ystod cyfnod o absenoldeb;

(ii)y mae ganddo hawl i unrhyw fanteision sy'n dod iddo drwy aelodaeth o'r awdurdod (neu o'r weithrediaeth) yn ystod cyfnod o absenoldeb;

(iii)y mae'n rhwymedig o dan unrhyw ddyletswydd drwy aelodaeth o'r awdurdod (neu o'r weithrediaeth) yn ystod cyfnod o absenoldeb.

(g)cymhwyso deddfiad neu wneud addasiadau iddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 29 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)