27Absenoldeb mabwysiadu newydd
(1)Mae'r adran hon yn gymwys i aelod o awdurdod lleol sy'n bodloni amodau rhagnodedig—
(a)o ran perthynas â phlentyn a gafodd ei leoli, neu y disgwylir iddo gael ei leoli, ar gyfer ei fabwysiadu o dan gyfraith unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig, a
(b)o ran perthynas â pherson y lleolir y plentyn gydag ef, neu y disgwylir iddo gael ei leoli gydag ef, ar gyfer ei fabwysiadu.
(2)Mae gan yr aelod hawl i gyfnod o absenoldeb (“absenoldeb mabwysiadu newydd”) at ddibenion—
(a)gofalu am y plentyn, neu
(b)cynorthwyo'r person y mae'r aelod o'i herwydd yn bodloni'r amod o dan is-adran (1)(b).
(3)Rhaid i reoliadau gynnwys darpariaeth ar gyfer penderfynu—
(a)i ba raddau y mae gan aelod hawl i absenoldeb mabwysiadu newydd mewn cysylltiad â phlentyn;
(b)pryd y caniateir cymryd absenoldeb mabwysiadu newydd.
(4)Ni chaniateir i reoliadau ddarparu i gyfnod o absenoldeb mabwysiadu newydd mewn cysylltiad â phlentyn fod yn hwy na dwy wythnos.
(5)Rhaid i reoliadau ei gwneud yn ofynnol i absenoldeb mabwysiadu newydd gael ei gymryd cyn diwedd cyfnod rhagnodedig.
(6)Rhaid i'r cyfnod hwnnw fod yn gyfnod o 56 o ddiwrnodau o leiaf sy'n dechrau ar ddyddiad lleoli'r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu.
(7)Caiff rheoliadau ragnodi amgylchiadau pan gaiff aelod o awdurdod lleol, neu pan gaiff yr awdurdod lleol—
(a)terfynu cyfnod o absenoldeb mabwysiadu newydd, neu
(b)diddymu cyfnod o absenoldeb mabwysiadu newydd.
(8)Caiff rheoliadau—
(a)(at ddibenion is-adran (2)) ragnodi pethau sydd i'w barnu neu beidio a'u barnu yn bethau sydd wedi eu gwneud at ddibenion gofalu am blentyn neu gynorthwyo person y lleolir plentyn gydag ef ar gyfer ei fabwysiadu;
(b)caniatáu i aelod ddewis, yn ddarostyngedig i gyfyngiadau rhagnodedig, y dyddiad pryd y bydd cyfnod o absenoldeb mabwysiadu newydd yn dechrau;
(c)gwneud darpariaeth sy'n eithrio'r hawl i fod yn absennol o dan yr adran hon yn achos aelod sy'n arfer hawl i fod yn absennol oherwydd absenoldeb mabwysiadu;
(d)gwneud darpariaeth sy'n eithrio hawl i absenoldeb mabwysiadu newydd mewn cysylltiad â phlentyn pan leolir mwy nag un plentyn ar gyfer ei fabwysiadu fel rhan o'r un trefniant;
(e)gwneud darpariaeth ynghylch sut y ceir cymryd absenoldeb mabwysiadu newydd.
(9)Pan fo mwy nag un plentyn yn cael ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu fel rhan o'r un trefniant, mae'r cyfeiriad yn is-adran (6) at y dyddiad y cafodd y plentyn ei leoli i'w ddarllen fel cyfeiriad at y dyddiad y cafodd y plentyn cyntaf ei leoli fel rhan o'r trefniant.
(10)Yn yr adran hon, ystyr “wythnos” yw unrhyw gyfnod o saith niwrnod.
(11)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu bod yr adran hon yn gymwys mewn perthynas ag achosion sy'n ymwneud â mabwysiadu, ond nid â lleoli plentyn ar gyfer ei fabwysiadu o dan gyfraith unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig.