xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2ABSENOLDEB TEULUOL AR GYFER AELODAU AWDURDODAU LLEOL

25Absenoldeb newydd-anedig

(1)Mae'r adran hon yn gymwys i aelod o awdurdod lleol sy'n bodloni amodau rhagnodedig—

(a)o ran perthynas â phlentyn newydd-anedig neu blentyn a ddisgwylir, a

(b)o ran perthynas â mam y plentyn.

(2)Mae gan yr aelod hawl i gyfnod o absenoldeb (“absenoldeb newydd-anedig”) at ddibenion—

(a)gofalu am y plentyn, neu

(b)cynorthwyo'r fam.

(3)Rhaid i reoliadau gynnwys darpariaeth ar gyfer penderfynu—

(a)i ba raddau y mae gan aelod hawl i absenoldeb newydd-anedig mewn cysylltiad â phlentyn;

(b)pryd y caniateir cymryd absenoldeb newydd-anedig.

(4)Ni chaniateir i reoliadau ddarparu i gyfnod o absenoldeb newydd-anedig mewn cysylltiad â phlentyn fod yn hwy na dwy wythnos.

(5)Rhaid i reoliadau ei gwneud yn ofynnol i absenoldeb newydd-anedig gael ei gymryd cyn diwedd cyfnod rhagnodedig.

(6)Rhaid i'r cyfnod hwnnw fod yn gyfnod o 56 o ddiwrnodau o leiaf sy'n dechrau ar ddyddiad geni'r plentyn.

(7)Caiff rheoliadau ragnodi amgylchiadau pan gaiff aelod o awdurdod lleol, neu pan gaiff yr awdurdod lleol—

(a)terfynu cyfnod o absenoldeb newydd-anedig, neu

(b)diddymu cyfnod o absenoldeb newydd-anedig.

(8)Caiff rheoliadau—

(a)(at ddibenion is-adran (2)) ragnodi pethau sydd i'w barnu neu beidio a'u barnu yn bethau sydd wedi eu gwneud at ddibenion gofalu am blentyn neu gynorthwyo mam y plentyn;

(b)caniatáu i aelod ddewis, yn ddarostyngedig i gyfyngiadau rhagnodedig, y dyddiad pryd y bydd cyfnod o absenoldeb newydd-anedig yn dechrau;

(c)gwneud darpariaeth sy'n eithrio hawl i absenoldeb newydd-anedig mewn cysylltiad â phlentyn pan fo mwy nag un plentyn yn cael ei eni o ganlyniad i'r un beichiogrwydd;

(d)gwneud darpariaeth ynghylch sut y ceir cymryd absenoldeb newydd-anedig.

(9)Pan fo mwy nag un plentyn yn cael ei eni o ganlyniad i'r un beichiogrwydd, mae'r cyfeiriad yn is-adran (6) at ddyddiad geni'r plentyn i'w ddarllen fel cyfeiriad at ddyddiad geni'r plentyn cyntaf a gaiff ei eni o ganlyniad i'r beichiogrwydd.

(10)Yn yr adran hon—