Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

165Pŵer i gyfarwyddo refferendwm sy'n cynnwys maer etholedig

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth i'w galluogi neu mewn cysylltiad â'u galluogi, o dan unrhyw amgylchiadau a ragnodir yn y rheoliadau, i gyfarwyddo awdurdod cysgodol i gynnal refferendwm ynghylch a ddylai'r awdurdod lleol newydd weithredu gweithrediaeth maer a chabinet.

(2)Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud drwy reoliadau o dan yr adran hon yn cynnwys darpariaeth (ond nid yw wedi ei chyfyngu i ddarpariaeth)—

(a)ynghylch y dyddiad, neu'r amser erbyn pryd, y mae'n rhaid cynnal refferendwm;

(b)o ran y camau gweithredu y caniateir eu cymryd, neu na chaniateir eu cymryd, neu y mae'n rhaid eu cymryd gan awdurdod cysgodol o flaen refferendwm neu mewn cysylltiad ag ef;

(c)o ran y camau gweithredu y caniateir eu cymryd, neu na chaniateir eu cymryd, neu y mae'n rhaid eu cymryd gan awdurdod cysgodol ar ôl refferendwm;

(d)i alluogi Gweinidogion Cymru neu mewn cysylltiad â'u galluogi, os bydd unrhyw fethiant gan yr awdurdod cysgodol i gymryd unrhyw gamau gweithredu a ganiateir neu sy'n ofynnol yn rhinwedd y rheoliadau, i gymryd y camau gweithredu hynny.

(3)Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud yn rhinwedd is-adran (2) yn cynnwys darpariaeth sy'n cymhwyso neu'n atgynhyrchu (gydag addasiadau neu hebddynt) unrhyw ddarpariaethau yn adran 25, 27, 28, 29 neu 33 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 neu Ran 4 o'r Mesur hwn.