C1C2RHAN 8F1...TALIADAU A PHENSIYNAU

Annotations:
Amendments (Textual)
Modifications etc. (not altering text)
C1

Rhn. 8 cymhwyswyd (ynghyd ag addasiadau) (25.1.2016) gan Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015 (anaw 6), aau. 25(3)(4), 46(1)

C2

Rhn. 8 cymhwyswyd (ynghyd gydag addasiadau) (21.1.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau.142(5), 143, 175(1)(f)(2)

F2Gorfodi

Annotations:

I1I2I3156Cyfarwyddiadau i gydymffurfio â gofynion

1

Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod awdurdod perthnasol wedi methu â chydymffurfio â gofyniad sy'n ymwneud â materion perthnasol a osodir arno gan y Mesur hwn neu yn rhinwedd y Mesur hwn, cânt gyfarwyddo'r awdurdod i gydymffurfio â'r gofyniad.

2

Rhaid i gyfarwyddyd o dan yr adran hon bennu—

a

y gofyniad;

b

y rheswm dros roi'r cyfarwyddyd;

c

y camau y mae Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod eu cymryd;

d

y dyddiad erbyn pryd y mae Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod gymryd y camau.

3

Gellir gorfodi cyfarwyddyd o dan yr adran hon drwy orchymyn mynnu ar gais Gweinidogion Cymru.