xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Valid from 31/08/2011
Valid from 30/04/2012
(1)Mae'r adran hon yn gymwys mewn perthynas ag adroddiadau blynyddol ar ôl yr adroddiad blynyddol cyntaf.
(2)Rhaid cyhoeddi adroddiad blynyddol heb fod yn hwyrach nag—
(a)31 Rhagfyr yn y flwyddyn ariannol cyn y flwyddyn y mae'r adroddiad yn ymwneud â hi, neu
(b)unrhyw ddyddiad diweddarach y mae'r Panel a Gweinidogion Cymru yn cytuno arno.
(3)Rhaid i adroddiad blynyddol nodi—
(a)drwy gyfeirio at y swm sydd ag iddo effaith ar gyfer pob mater perthnasol, unrhyw gyfradd neu fynegrif fel y'i gosodir o dan adran 142(6), a
(b)y disgrifiadau o aelodau o awdurdodau perthnasol y bydd yn ofynnol i awdurdodau perthnasol dalu pensiwn perthnasol iddynt neu mewn cysylltiad â hwy.
(4)Caiff adroddiad blynyddol amrywio'r ddarpariaeth a wneir yn yr adroddiad blynyddol cyntaf at ddibenion adran 146(3)(a), (b), (c), (d) neu (e).
(5)Ar ôl cyhoeddi adroddiad blynyddol ond cyn cyhoeddi'r adroddiad blynyddol nesaf, caiff y Panel gyhoeddi un neu ragor o adroddiadau atodol.
(6)Caiff adroddiad atodol o dan yr adran hon—
(a)amrywio'r ddarpariaeth a wnaed yn yr adroddiad blynyddol y mae'r adroddiad atodol yn ymwneud ag ef at ddibenion is-adran (3)(a) neu (b) (a chaiff wneud darpariaeth at y dibenion hynny i'r graddau nad yw'r adroddiad blynyddol yn ei gwneud);
(b)amrywio'r ddarpariaeth a wnaed yn yr adroddiad blynyddol cyntaf at ddibenion adran 146(3)(a), (b), (c), (d) neu (e) (neu'r ddarpariaeth honno fel y'i hamrywiwyd yn rhinwedd is-adran (4)).
(7)Wrth lunio adroddiad blynyddol neu adroddiad atodol o dan yr adran hon, rhaid i'r Panel ystyried—
(a)yr adroddiad blynyddol blaenorol ac unrhyw adroddiadau atodol sy'n ymwneud ag ef;
(b)y sylwadau a gafodd y Panel am yr adroddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (a).
(8)Cyn cyhoeddi adroddiad blynyddol neu adroddiad atodol o dan yr adran hon, rhaid i'r Panel—
(a)anfon drafft at
(i)Weinidogion Cymru,
(ii)yr awdurdodau perthnasol hynny y mae'r Panel wedi ei gwneud yn ofynnol iddynt neu wedi eu hawdurdodi i wneud taliadau i'w haeoldau mewn cysylltiad â materion perthnasol, ac
(iii)unrhyw bersonau eraill y mae'r Panel o'r farn ei bod yn briodol anfon drafft atynt,
a,
(b)ystyried y sylwadau y mae'r Panel yn eu cael ar y drafft.
(9)Daw darpariaethau adroddiad blynyddol neu adroddiad atodol o dan yr adran hon i rym ar y dyddiad a bennir at y diben hwnnw yn yr adroddiad; ond ni chaiff unrhyw adroddiad bennu dyddiad cynharach na diwrnod olaf y cyfnod o dri mis yn dechrau drannoeth y dyddiad cyhoeddi.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 147 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)