RHAN 7CYMUNEDAU A CHYNGHORAU CYMUNED

PENNOD 9CYNLLUNIAU AR GYFER ACHREDU ANSAWDD MEWN LLYWODRAETH GYMUNEDOL

I1137Achredu ansawdd mewn llywodraeth gymunedol: ffioedd

Os bydd Gweinidogion Cymru'n gwneud rheoliadau o dan adran 134(1), caiff y rheoliadau ragnodi ffi y mae ceisydd am achrediad ansawdd mewn llywodraeth gymunedol i'w thalu.