RHAN 1ATGYFNERTHU DEMOCRATIAETH LEOL
PENNOD 2GWASANAETHAU DEMOCRATAIDD AWDURDOD LLEOL
I110Dyletswydd i fabwysiadu rheolau sefydlog ynghylch rheoli staff
1
Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol drwy reoliadau i awdurdod lleol—
a
ymgorffori darpariaeth ragnodedig sy'n ymwneud â rheoli staff a ddarperir o dan adran 8(1)(b) yn ei reolau sefydlog;
b
gwneud addasiadau eraill i'r rhai o blith ei reolau sefydlog sy'n ymwneud â rheoli staff.
2
Yn yr adran hon nid yw “rheoli staff” yn cynnwys penodi staff neu ddiswyddo staff neu gymryd camau disgyblu eraill yn erbyn staff.