xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rhagolygol

ATODLEN 1LL+CNEWID TREFNIADAU AMGEN YN DREFNIADAU GWEITHREDIAETH

RHAN 2LL+CDARPARIAETHAU ERAILL SY'N GYMWYS PAN FO REFFERENDWM YN OFYNNOL

Cynigion amlinellol wrth gefn rhag ofn y gwrthodir newid mewn refferendwmLL+C

9(1)Mae'r paragraff hwn yn gymwys i awdurdod lleol os gweithrediaeth maer a chabinet yw'r ffurf arfaethedig ar weithrediaeth (a'i bod yn unol â hynny'n ddarostyngedig i gymeradwyaeth mewn refferendwm).

(2)Rhaid i'r awdurdod lleol lunio amlinelliad o'r cynigion wrth gefn (“cynigion amlinellol wrth gefn”) y mae'n bwriadu eu rhoi ar waith os gwrthodir y cynigion i newid i weithrediaeth maer a chabinet mewn refferendwm, a rhaid iddo'i gymeradwyo drwy benderfyniad.

(3)Cynigion yw cynigion wrth gefn ar gyfer gwneud newid i drefniadau gweithrediaeth sy'n darparu ar gyfer gweithrediaeth arweinydd a chabinet (Cymru).

(4)Mae paragraff 2(2) yn gymwys i'r cynigion amlinellol wrth gefn fel y mae'n gymwys i gynigion o dan y paragraff hwnnw.

(5)Rhaid i'r cynigion amlinellol wrth gefn gynnwys amserlen mewn cysylltiad â rhoi ar waith (yn unol â pharagraff 11) gynigion manwl wrth gefn os digwydd na chymeradwyir newid i weithrediaeth maer a chabinet yn y refferendwm.

(6)Rhaid i'r awdurdod lleol gydymffurfio ag is-baragraff (2) ar yr adeg y mae'n cydymffurfio â pharagraff 2(1).

(7)Rhaid i'r awdurdod lleol anfon copi o'r cynigion amlinellol wrth gefn y mae wedi eu cymeradwyo at Weinidogion Cymru.

(8)Rhaid i'r awdurdod lleol gydymffurfio ag is-baragraff (7) ar yr adeg y mae'n cydymffurfio â pharagraff 2(3).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 9 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

Camau gweithredu os gwrthodir newid mewn refferendwmLL+C

10(1)Mae'r paragraff hwn yn gymwys i awdurdod lleol—

(a)os gweithrediaeth maer a chabinet yw'r ffurf arfaethedig ar weithrediaeth, a

(b)os nad yw'r ffurf arfaethedig yn cael ei chymeradwyo yn y refferendwm ar newid i'r ffurf honno ar weithrediaeth.

(2)Rhaid i'r awdurdod lleol gyhoeddi hysbysiad—

(a)sy'n crynhoi cynigion yr awdurdod lleol a oedd yn destun y refferendwm,

(b)sy'n datgan bod refferendwm ar gynigion yr awdurdod lleol wedi gwrthod y cynigion hynny,

(c)sy'n nodi cynigion amlinellol wrth gefn yr awdurdod lleol, a

(d)sy'n datgan bod yr awdurdod, o dan y cynigion amlinellol wrth gefn, yn bwriadu gweithredu gweithrediaeth arweinydd a chabinet (Cymru).

(3)Rhaid i'r awdurdod lleol gydymffurfio ag is-baragraff (2) cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl y refferendwm.

(4)Rhaid i'r awdurdod lleol lunio cynigion manwl wrth gefn sy'n seiliedig ar y cynigion amlinellol wrth gefn, a rhaid iddo eu cymeradwyo drwy benderfyniad.

(5)Mae paragraffau 2(2), 3 a 7(2) a (3) yn gymwys i'r cynigion manwl wrth gefn fel y maent yn gymwys i gynigion o dan baragraff 2.

(6)Rhaid i'r awdurdod lleol anfon copi o'r cynigion manwl wrth gefn at Weinidogion Cymru.

(7)Rhaid i'r awdurdod lleol gydymffurfio ag is-baragraff (6) o fewn y cyfnod o dau fis sy'n dechrau ar ddiwrnod y refferendwm.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 1 para. 10 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

Yr amserlen ar gyfer rhoi ar waith gynigion manwl wrth gefnLL+C

11Mae'n rhaid i'r amserlen mewn cysylltiad â rhoi ar waith y cynigion manwl wrth gefn fod yn un sy'n sicrhau bod yr awdurdod lleol yn newid i weithrediaeth arweinydd a chabinet (Cymru) cyn pen y cyfnod o chwe mis sy'n dechrau ar y diwrnod y mae'r awdurdod lleol yn anfon copi o'r cynigion at Weinidogion Cymru, a heb fod yn hwyrach na hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 1 para. 11 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

Rhoi ar waith gynigion manwl wrth gefnLL+C

12Rhaid i'r awdurdod lleol roi ar waith ei gynigion manwl wrth gefn yn unol â'r amserlen sydd wedi ei chynnwys yn y cynigion.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 1 para. 12 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)