ATODLEN 1NEWID TREFNIADAU AMGEN YN DREFNIADAU GWEITHREDIAETH

RHAN 2DARPARIAETHAU ERAILL SY'N GYMWYS PAN FO REFFERENDWM YN OFYNNOL

I19Cynigion amlinellol wrth gefn rhag ofn y gwrthodir newid mewn refferendwm

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i awdurdod lleol os gweithrediaeth maer a chabinet yw'r ffurf arfaethedig ar weithrediaeth (a'i bod yn unol â hynny'n ddarostyngedig i gymeradwyaeth mewn refferendwm).

2

Rhaid i'r awdurdod lleol lunio amlinelliad o'r cynigion wrth gefn (“cynigion amlinellol wrth gefn”) y mae'n bwriadu eu rhoi ar waith os gwrthodir y cynigion i newid i weithrediaeth maer a chabinet mewn refferendwm, a rhaid iddo'i gymeradwyo drwy benderfyniad.

3

Cynigion yw cynigion wrth gefn ar gyfer gwneud newid i drefniadau gweithrediaeth sy'n darparu ar gyfer gweithrediaeth arweinydd a chabinet (Cymru).

4

Mae paragraff 2(2) yn gymwys i'r cynigion amlinellol wrth gefn fel y mae'n gymwys i gynigion o dan y paragraff hwnnw.

5

Rhaid i'r cynigion amlinellol wrth gefn gynnwys amserlen mewn cysylltiad â rhoi ar waith (yn unol â pharagraff 11) gynigion manwl wrth gefn os digwydd na chymeradwyir newid i weithrediaeth maer a chabinet yn y refferendwm.

6

Rhaid i'r awdurdod lleol gydymffurfio ag is-baragraff (2) ar yr adeg y mae'n cydymffurfio â pharagraff 2(1).

7

Rhaid i'r awdurdod lleol anfon copi o'r cynigion amlinellol wrth gefn y mae wedi eu cymeradwyo at Weinidogion Cymru.

8

Rhaid i'r awdurdod lleol gydymffurfio ag is-baragraff (7) ar yr adeg y mae'n cydymffurfio â pharagraff 2(3).