ATODLEN 1NEWID TREFNIADAU AMGEN YN DREFNIADAU GWEITHREDIAETH
RHAN 1DARPARIAETHAU CYFFREDINOL
Cynigion ar gyfer symud at weithredu trefniadau gweithrediaeth
7Cyhoeddusrwydd i gynigion
1
Mae'r paragraff hwn yn gymwys i awdurdod lleol sydd wedi cymeradwyo cynigion drwy benderfyniad.
2
Rhaid i'r awdurdod lleol sicrhau bod copïau o ddogfen sy'n nodi darpariaethau'r trefniadau gweithrediaeth arfaethedig ar gael yn ei brif swyddfa i'w harchwilio gan aelodau o'r cyhoedd ar bob adeg resymol.
3
Rhaid i'r awdurdod lleol gyhoeddi hysbysiad—
a
sy'n datgan bod yr awdurdod lleol wedi penderfynu gweithredu'r trefniadau gweithrediaeth arfaethedig,
b
os gweithrediaeth maer a chabinet yw'r ffurf arfaethedig ar weithrediaeth, sy'n datgan—
i
ei bod yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth mewn refferendwm, a
ii
dyddiad y refferendwm
c
sy'n datgan y dyddiad y mae'r awdurdod lleol yn bwriadu dechrau gweithredu'r trefniadau hynny,
d
sy'n disgrifio prif nodweddion y trefniadau hynny,
e
sy'n datgan bod copïau o ddogfen sy'n nodi darpariaethau'r trefniadau hynny ar gael ym mhrif swyddfa'r awdurdod lleol i'w harchwilio gan aelodau o'r cyhoedd ar yr adegau a bennir yn yr hysbysiad, ac
f
sy'n rhoi cyfeiriad prif swyddfa'r awdurdod lleol.
4
Rhaid i'r awdurdod lleol gydymffurfio ag is-adrannau (2) a (3) cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl iddo basio'r penderfyniad yn cymeradwyo'r cynigion.