xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 8LL+CAELODAU: TALIADAU A PHENSIYNAU

AtodolLL+C

157CanllawiauLL+C

(1)Caiff y Panel roi cyfarwyddyd am sut i gydymffurfio â gofynion a osodir gan adroddiadau blynyddol.

(2)Mae pŵer y Panel i roi canllawiau o dan is-adran (1) yn cynnwys y pŵer i amrywio neu ddirymu'r canllawiau a roddwyd.

(3)Rhaid i awdurdod perthnasol roi sylw i ganllawiau a roddir o dan is-adran (1).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 157 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

I2A. 157 mewn grym ar 31.8.2011 at ddibenion penodedig gan O.S. 2011/2011, ergl. 2(p)

I3A. 157 mewn grym ar 30.4.2012 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2012/1187, ergl. 2(2)(k)

158Y pŵer i wneud addasiadau i ddarpariaeth ynghylch y PanelLL+C

Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn wneud addasiadau i'r Rhan hon er mwyn—

(a)ychwanegu, amrywio neu hepgor darpariaeth am aelodaeth y Panel, deiliadaeth ei aelodau, neu ei weithdrefnau;

(b)ychwanegu, amrywio neu hepgor darpariaeth sy'n rhoi neu'n gosod swyddogaeth ar y Panel.

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 158 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

I5A. 158 mewn grym ar 31.8.2011 gan O.S. 2011/2011, ergl. 2(q)

159Dehongli Rhan 8LL+C

(1)Yn y Rhan hon—

(2)Mae'r cyfeiriadau yn adrannau 153, 154 a 157 at ofynion a osodir gan adroddiad blynyddol yn cynnwys cyfeiriad at ofynion sy'n cael eu cynnwys mewn adroddiad blynyddol gan adroddiad atodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 159 mewn grym ar 11.5.2011, gweler a. 178(1)(a)

160Diwygiadau canlyniadolLL+C

Mae Atodlen 3 (taliadau a phensiynau: mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) yn cael effaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 160 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

I8A. 160 mewn grym ar 30.4.2012 gan O.S. 2012/1187, ergl. 2(1)(o)