xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 8LL+CAELODAU: TALIADAU A PHENSIYNAU

Adroddiadau gan y PanelLL+C

145Adroddiadau blynyddolLL+C

(1)Rhaid i'r Panel gyhoeddi adroddiad (“adroddiad blynyddol”) am arfer ei swyddogaethau mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol.

(2)Caiff adroddiad blynyddol osod gofynion (gan gynnwys, ymhlith pethau eraill, ofynion i wneud taliadau) ar awdurdodau perthnasol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 145 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

I2A. 145 mewn grym ar 31.8.2011 at ddibenion penodedig gan O.S. 2011/2011, ergl. 2(f)

146Yr adroddiad blynyddol cyntafLL+C

(1)Y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2012 yw'r flwyddyn ariannol gyntaf y mae'n rhaid i'r Panel gyhoeddi adroddiad blynyddol arni o dan adran 145.

(2)Rhaid cyhoeddi'r adroddiad ar y flwyddyn ariannol honno (“yr adroddiad blynyddol cyntaf”) heb fod yn hwyrach na 31 Rhagfyr 2011.

(3)Rhaid i'r adroddiad blynyddol cyntaf nodi—

(a)y materion perthnasol,

(b)y symiau a osodwyd o dan adran 142(3),

(c)y gyfran a benderfynwyd o dan adran 142(4),

(d)yr aelodau o awdurdodau perthnasol y bydd yn ofynnol i awdurdodau perthnasol dalu pensiwn perthnasol iddynt neu mewn cysylltiad â hwy, a

(e)y materion perthnasol y mae pensiwn perthnasol yn daladwy mewn cysylltiad â hwy.

(4)Ar ôl cyhoeddi'r adroddiad blynyddol cyntaf ond cyn cyhoeddi'r ail adroddiad blynyddol, caiff y Panel gyhoeddi un neu ragor o adroddiadau atodol.

(5)Caiff adroddiad atodol o dan yr adran hon amrywio'r ddarpariaeth a wnaed yn yr adroddiad blynyddol cyntaf at ddibenion is-adran (3)(a), (b), (c), (d) neu (e).

(6)Wrth lunio adroddiad atodol o dan yr adran hon, rhaid i'r Panel ystyried—

(a)yr adroddiad ariannol cyntaf ac unrhyw adroddiadau atodol sy'n ymwneud ag ef, a

(b)y sylwadau a gafodd y Panel am yr adroddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (a).

(7)Cyn cyhoeddi'r adroddiad blynyddol cyntaf neu adroddiad atodol o dan yr adran hon, rhaid i'r Panel—

(a)anfon drafft at

(i)Weinidogion Cymru,

(ii)yr awdurdodau perthnasol hynny y mae'r Panel wedi ei gwneud yn ofynnol iddynt neu wedi eu hawdurdodi i wneud taliadau i'w haelodau mewn cysylltiad â materion perthnasol, ac

(iii)unrhyw bersonau eraill y mae'r Panel o'r farn eu bod yn briodol,

a,

(b)ystyried y sylwadau y mae'n eu cael ar y drafft.

(8)Daw darpariaethau'r adroddiad blynyddol cyntaf neu adroddiad atodol o dan yr adran hon i rym ar y dyddiad a bennir at y diben hwnnw yn yr adroddiad; ond ni chaiff yr adroddiad bennu dyddiad cynharach na diwrnod olaf y cyfnod o dri mis yn dechrau drannoeth y dyddiad cyhoeddi.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 146 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

I4A. 146 mewn grym ar 31.8.2011 gan O.S. 2011/2011, ergl. 2(g)

Valid from 30/04/2012

147Adroddiadau blynyddol dilynolLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys mewn perthynas ag adroddiadau blynyddol ar ôl yr adroddiad blynyddol cyntaf.

(2)Rhaid cyhoeddi adroddiad blynyddol heb fod yn hwyrach nag—

(a)31 Rhagfyr yn y flwyddyn ariannol cyn y flwyddyn y mae'r adroddiad yn ymwneud â hi, neu

(b)unrhyw ddyddiad diweddarach y mae'r Panel a Gweinidogion Cymru yn cytuno arno.

(3)Rhaid i adroddiad blynyddol nodi—

(a)drwy gyfeirio at y swm sydd ag iddo effaith ar gyfer pob mater perthnasol, unrhyw gyfradd neu fynegrif fel y'i gosodir o dan adran 142(6), a

(b)y disgrifiadau o aelodau o awdurdodau perthnasol y bydd yn ofynnol i awdurdodau perthnasol dalu pensiwn perthnasol iddynt neu mewn cysylltiad â hwy.

(4)Caiff adroddiad blynyddol amrywio'r ddarpariaeth a wneir yn yr adroddiad blynyddol cyntaf at ddibenion adran 146(3)(a), (b), (c), (d) neu (e).

(5)Ar ôl cyhoeddi adroddiad blynyddol ond cyn cyhoeddi'r adroddiad blynyddol nesaf, caiff y Panel gyhoeddi un neu ragor o adroddiadau atodol.

(6)Caiff adroddiad atodol o dan yr adran hon—

(a)amrywio'r ddarpariaeth a wnaed yn yr adroddiad blynyddol y mae'r adroddiad atodol yn ymwneud ag ef at ddibenion is-adran (3)(a) neu (b) (a chaiff wneud darpariaeth at y dibenion hynny i'r graddau nad yw'r adroddiad blynyddol yn ei gwneud);

(b)amrywio'r ddarpariaeth a wnaed yn yr adroddiad blynyddol cyntaf at ddibenion adran 146(3)(a), (b), (c), (d) neu (e) (neu'r ddarpariaeth honno fel y'i hamrywiwyd yn rhinwedd is-adran (4)).

(7)Wrth lunio adroddiad blynyddol neu adroddiad atodol o dan yr adran hon, rhaid i'r Panel ystyried—

(a)yr adroddiad blynyddol blaenorol ac unrhyw adroddiadau atodol sy'n ymwneud ag ef;

(b)y sylwadau a gafodd y Panel am yr adroddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (a).

(8)Cyn cyhoeddi adroddiad blynyddol neu adroddiad atodol o dan yr adran hon, rhaid i'r Panel—

(a)anfon drafft at

(i)Weinidogion Cymru,

(ii)yr awdurdodau perthnasol hynny y mae'r Panel wedi ei gwneud yn ofynnol iddynt neu wedi eu hawdurdodi i wneud taliadau i'w haeoldau mewn cysylltiad â materion perthnasol, ac

(iii)unrhyw bersonau eraill y mae'r Panel o'r farn ei bod yn briodol anfon drafft atynt,

a,

(b)ystyried y sylwadau y mae'r Panel yn eu cael ar y drafft.

(9)Daw darpariaethau adroddiad blynyddol neu adroddiad atodol o dan yr adran hon i rym ar y dyddiad a bennir at y diben hwnnw yn yr adroddiad; ond ni chaiff unrhyw adroddiad bennu dyddiad cynharach na diwrnod olaf y cyfnod o dri mis yn dechrau drannoeth y dyddiad cyhoeddi.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 147 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

148Ymgynghori ar adroddiadau drafftLL+C

(1)Rhaid i'r Panel beidio â chyhoeddi adroddiad blynyddol neu adroddiad atodol cyn pen y cyfnod o wyth wythnos sy'n dechrau ar y diwrnod y mae'n anfon drafft o'r adroddiad yn unol ag adran 146 neu 147.

(2)Rhaid i'r Panel, pan fydd yn anfon drafft o adroddiad yn unol â'r naill neu'r llall o'r adrannau hynny, osod copi electronig o'r drafft ar ei wefan.

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 148 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

I7A. 148 mewn grym ar 31.8.2011 at ddibenion penodedig gan O.S. 2011/2011, ergl. 2(h)

149Cyfarwyddiadau i amrywio adroddiadau drafftLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo'r Panel i ailystyried darpariaeth yn yr adroddiad drafft.

(2)Rhaid i gyfarwyddyd o dan yr adran hon bennu—

(a)y ddarpariaeth,

(b)y rheswm dros roi'r cyfarwyddyd, ac

(c)y dyddiad erbyn pryd y mae Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i'r Panel ymateb.

(3)O ran y Panel—

(a)rhaid iddo ymateb i'r cyfarwyddyd heb fod yn hwyrach na'r dyddiad a bennir at ddibenion is-adran (2)(c);

(b)ni chaiff gyhoeddi'r adroddiad cyn iddo fod wedi ymateb i'r cyfarwyddyd.

(4)Os yw'r Panel yn penderfynu peidio ag amrywio'r drafft yn unol â'r cyfarwyddyd, rhaid iddo bennu yn ei ymateb y rheswm dros ei benderfyniad.

Gwybodaeth Cychwyn

I8A. 149 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

I9A. 149 mewn grym ar 31.8.2011 at ddibenion penodedig gan O.S. 2011/2011, ergl. 2(i)

150Gofynion gweinyddol mewn adroddiadauLL+C

(1)Caiff adroddiad blynyddol osod gofynion ar awdurdodau perthnasol er mwyn osgoi—

(a)dyblygu taliadau a wneir mewn cysylltiad â materion perthnasol;

(b)dyblygu'n faterion perthnasol faterion sy'n ymwneud â busnes swyddogol aelodau.

(2)At ddibenion achos pan fo aelod o awdurdod perthnasol yn gwneud rhywbeth sy'n ymwneud ag awdurdod perthnasol arall (yn ogystal â'r awdurdod y mae'r aelod yn perthyn iddo), ac y mae'n rhaid gwneud taliad i'r aelod mewn cysylltiad â mater perthnasol, rhaid i adroddiad blynyddol ddangos sut i benderfynu p'un o'r awdurdodau fydd yn gorfod gwneud y taliad.

(3)Caiff adroddiad blynyddol osod gofynion ar awdurdodau perthnasol er mwyn cadw—

(a)cofnodion o geisiadau am daliadau mewn cysylltiad â materion perthnasol;

(b)cofnodion o daliadau a wneir mewn cysylltiad â materion perthnasol;

(c)cofnodion o daliadau a wneir mewn cysylltiad â phensiynau perthnasol.

Gwybodaeth Cychwyn

I10A. 150 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

I11A. 150 mewn grym ar 31.8.2011 at ddibenion penodedig gan O.S. 2011/2011, ergl. 2(j)

151Gofynion cyhoeddusrwydd mewn adroddiadauLL+C

(1)Caiff adroddiad blynyddol osod gofynion ar awdurdodau perthnasol ar gyfer gwneud trefniadau i gyhoeddi gwybodaeth o ddisgrifiad penodedig—

(a)ynghylch taliadau a wneir mewn cysylltiad â materion perthnasol;

(b)ynghylch taliadau a wneir mewn cysylltiad â phensiynau perthnasol.

(2)Caiff yr adroddiad ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau o ddisgrifiadau gwahanol neu i awdurdodau gwahanol o'r un disgrifiad wneud trefniadau gwahanol.

Gwybodaeth Cychwyn

I12A. 151 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

I13A. 151 mewn grym ar 31.8.2011 at ddibenion penodedig gan O.S. 2011/2011, ergl. 2(k)

152Rhoi cyhoeddusrwydd i adroddiadauLL+C

(1)Os yw'r Panel yn cyhoeddi adroddiad, rhaid iddo hysbysu—

(a)unrhyw bersonau y mae o'r farn ei bod yn debygol y bydd yr adroddiad yn effeithio arnynt, a

(b)unrhyw ddarlledwyr ac unrhyw aelodau o'r wasg y mae o'r farn ei bod yn briodol eu hysbysu.

(2)Rhaid i'r Panel sicrhau bod ei adroddiadau ar gael mewn modd rhesymol i bersonau yn gyffredinol.

(3)Yn ddarostyngedig i is-adrannau (1) a (2), caiff y Panel benderfynu sut i roi cyhoeddusrwydd i'w adroddiadau.

(4)Yn yr adran hon, mae “adroddiad” (ac eithrio mewn perthynas ag is-adran (1)(b)) yn cynnwys drafft o adroddiad; ac ystyr “cyhoeddi”, mewn perthynas â drafft, yw ei anfon at y personau y mae'n ofynnol anfon drafft atynt o dan 146 neu 147.

Gwybodaeth Cychwyn

I14A. 152 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

I15A. 152 mewn grym ar 31.8.2011 at ddibenion penodedig gan O.S. 2011/2011, ergl. 2(l)