RHAN 7CYMUNEDAU A CHYNGHORAU CYMUNED

PENNOD 9CYNLLUNIAU AR GYFER ACHREDU ANSAWDD MEWN LLYWODRAETH GYMUNEDOL

134Cynlluniau ar gyfer achredu ansawdd mewn llywodraeth gymunedol

1

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu ar gyfer cynllun y caiff Gweinidogion Cymru roi achrediad i gyngor cymuned oddi tano neu, os yw'r rheoliadau'n gwneud hynny'n ofynnol, y mae'n rhaid i Weinidogion Cymru roi achrediad i gyngor cymuned oddi tano—

a

os bydd Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod y meini prawf a osodwyd yn y rheoliadau wedi eu bodloni mewn perthynas â chyngor (gweler adran 135),

b

os bydd Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod cyngor wedi gwneud cais dilys am achrediad (gweler adran 136), ac

c

os talwyd y ffi (os oes ffi) sy'n ofynnol i Weinidogion Cymru (gweler adran 137).

2

Cyfeirir at achrediad o dan is-adran (1) yn y Bennod hon fel achrediad ansawdd mewn llywodraeth gymunedol.

135Achredu ansawdd mewn llywodraeth gymunedol: meini prawf

1

Os bydd Gweinidogion Cymru'n gwneud rheoliadau o dan adran 134(1), rhaid i'r rheoliadau osod meini prawf sydd i'w bodloni pan wneir cais am achrediad ansawdd mewn llywodraeth gymunedol.

2

Mae'r meini prawf y caniateir eu gosod yn cynnwys meini prawf ynghylch y materion a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt)—

a

canran aelodau'r cyngor sy'n ddeiliaid swydd yn rhinwedd cael eu hethol fel a nodir yn adran 35(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (ethol cynghorwyr cymunedol);

b

cymwysterau swyddogion y cyngor a hyfforddiant ar eu cyfer;

c

hyfforddiant i aelodau'r cyngor a chynrychiolwyr ieuenctid cymunedol;

d

pa mor aml y cynhelir cyfarfodydd y cyngor a'r cyhoeddusrwydd a roddir i gyfarfodydd (cyn ac ar ôl iddynt gael eu cynnal);

e

rhoi rhan i bersonau yng ngwaith y cyngor cymuned;

f

annog personau i wella llesiant y gymuned neu'r cymunedau y sefydlwyd y cyngor ar ei chyfer neu ar eu cyfer;

g

adroddiadau blynyddol;

h

cyfrifon.

136Achredu ansawdd mewn llywodraeth gymunedol: ceisiadau

Os bydd Gweinidogion Cymru'n gwneud rheoliadau o dan adran 134(1), rhaid i'r rheoliadau osod gofynion sydd i'w bodloni er mwyn gwneud cais dilys ar gyfer achrediad ansawdd mewn llywodraeth gymunedol.

137Achredu ansawdd mewn llywodraeth gymunedol: ffioedd

Os bydd Gweinidogion Cymru'n gwneud rheoliadau o dan adran 134(1), caiff y rheoliadau ragnodi ffi y mae ceisydd am achrediad ansawdd mewn llywodraeth gymunedol i'w thalu.

138Achredu ansawdd mewn llywodraeth gymunedol: tynnu achrediad yn ôl

Os bydd Gweinidogion Cymru'n gwneud rheoliadau o dan adran 134(1), rhaid i'r rheoliadau ddarparu ar gyfer—

a

adolygu achrediadau ansawdd mewn llywodraeth gymunedol, a

b

y sail dros dynnu achrediad ansawdd mewn llywodraeth gymunedol yn ôl a'r broses o dynnu achrediad yn ôl.

139Ceisiadau am achredu ansawdd mewn llywodraeth gymunedol: dirprwyo swyddogaethau

1

Caiff Gweinidogion Cymru wneud trefniadau gydag unrhyw berson y mae'r person hwnnw, yn unol â thelerau'r trefniadau, i arfer oddi tanynt swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan reoliadau a wneir o dan adran 134(1).

2

Os gwneir trefniadau o'r fath, mae adran 134(1)(c) i gael effaith fel y bo unrhyw ffi sy'n ofynnol, i'w thalu i'r person y gwneir y trefniadau gydag ef.

140Achredu ansawdd mewn llywodraeth gymunedol: canlyniadau

1

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud addasiadau i unrhyw ddeddfiad sy'n gosod unrhyw rwymedigaeth ar gyngor cymuned neu mewn cysylltiad ag ef fel y bo'r rhwymedigaeth, yn achos cyngor y mae achrediad ansawdd mewn llywodraeth gymunedol mewn grym mewn cysylltiad ag ef—

a

yn cael ei datgymhwyso, neu

b

yn cael ei haddasu fel ei bod yn haws cydymffurfio â hi .

2

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud addasiadau i unrhyw ddeddfiad sy'n rhoi pŵer i gyngor cymuned neu mewn cysylltiad ag ef fel, yn achos cyngor nad oes achrediad ansawdd mewn llywodraeth gymunedol mewn grym mewn cysylltiad ag ef—

a

na chaniateir i'r pŵer gael ei arfer, neu

b

mai dim ond os bodlonir amodau rhagnodedig y caniateir arfer y pŵer.