xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 5SWYDDOGAETHAU AWDURDOD LLEOL: CYFLAWNI GAN BWYLLGORAU A CHYNGHORWYR

Pwyllgorau ardal

55Yr ardal a gwmpesir ac aelodaeth

(1)Diwygir adran 18 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (cyflawni swyddogaethau gan bwyllgorau ardal) fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (3), yn lle'r diffiniad o “area committee” rhodder—

(3)Yn is-adran (4), ar ôl “a local authority” mewnosoder “in England”.

(4)Ar ôl is-adran (5) mewnosoder—

(6)A committee or sub-committee of a local authority in Wales satisfies the conditions in this subsection if—

(a)the committee or sub-committee is established to discharge functions in respect of part of the area of the authority,

(b)that part consists of the whole of one or more electoral divisions of the authority,

(c)all the members of the authority who are elected for that electoral division, or those electoral divisions, are entitled to be members of the committee or sub-committee,

(d)no members of the authority, other than those mentioned in paragraph (c), may be members of the committee or sub-committee, and

(e)either or both of the conditions in subsection (7) are satisfied in relation to that part.

(7)Those conditions are—

(a)that the area of that part does not exceed one-half of the total area of the authority;

(b)that the population of that part, as estimated by the authority, does not exceed one-half of the total population of the area of the authority as so estimated..

Arfer swyddogaethau gan gynghorwyr

56Arfer swyddogaethau gan gynghorwyr

(1)Caiff aelod gweithrediaeth hŷn awdurdod lleol wneud trefniadau i aelod o'r awdurdod nad yw'n aelod gweithrediaeth arfer un o swyddogaethau'r awdurdod lleol y mae'r weithrediaeth yn gyfrifol amdani.

(2)Caiff awdurdod lleol wneud trefniadau i aelod o'r awdurdod nad yw'n aelod gweithrediaeth arfer unrhyw un neu ragor o swyddogaethau eraill yr awdurdod.

(3)O ran aelod nad yw'n aelod gweithrediaeth (N), dim ond swyddogaethau—

(a)mewn perthynas â'r adran etholiadol y mae N wedi ei ethol drosti, neu

(b)mewn perthynas â bod N yn aelod swyddogol o gorff ac eithrio'r awdurdod lleol

y caiff trefniadau o dan yr adran hon ddarparu i N eu harfer.

(4)Ni cheir gwneud trefniadau o dan yr adran hon ar gyfer arfer swyddogaeth—

(a)os yw wedi ei phennu, neu i'r graddau y mae wedi ei phennu, mewn gorchymyn a wnaed gan Weinidogion Cymru, neu

(b)mewn dull, neu mewn amgylchiadau, a bennwyd mewn gorchymyn a wnaed gan Weinidogion Cymru.

(5)Nid yw trefniadau a wneir o dan yr adran hon ar gyfer arfer swyddogaeth yn atal arfer y swyddogaeth honno mewn modd arferol.

(6)Wrth wneud trefniadau o dan yr adran hon, rhaid i'r aelod gweithrediaeth hŷn, neu'r awdurdod lleol, roi sylw i ganllawiau a roddwyd gan Weinidogion Cymru.

(7)Yn yr adran hon—

(a)mae cyfeiriad at arfer swyddogaeth yn cynnwys cyfeiriad at wneud unrhyw beth y bwriedir iddo hwyluso arfer swyddogaeth, neu sy'n gydnaws neu'n gysylltiedig ag arfer y swyddogaeth;

(b)mae cyfeiriad at swyddogaeth y mae gweithrediaeth awdurdod lleol yn gyfrifol amdani i'w ddehongli'n unol ag adran 13(8) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000;

(c)mae cyfeiriad at fod N yn aelod swyddogol o gorff yn gyfeiriad at fod N yn aelod o'r corff yn rhinwedd—

(i)penodiad gan awdurdod lleol,

(ii)penodiad, ac eithrio penodiad gan awdurdod lleol, a wnaed ar sail enwebiad neu argymhelliad gan awdurdod lleol neu gyda chymeradwyaeth awdurdod lleol, neu

(iii)penodiad, ac eithrio penodiad gan awdurdod lleol, a wnaed i gydymffurfio â gofyniad i benodi aelod o awdurdod lleol;

(d)mae cyfeiriad (mewn perthynas ag N) at benodiad, enwebiad neu argymhelliad gan awdurdod lleol, neu gymeradwyaeth awdurdod lleol, yn gyfeiriad at benodiad, enwebiad neu argymhelliad a wnaed gan y canlynol, neu gymeradwyaeth a roddir gan y canlynol—

(i)yr awdurdod lleol y mae N yn aelod ohono, neu

(ii)gweithrediaeth yr awdurdod lleol hwnnw;

(e)mae cyfeiriad at arfer arferol swyddogaeth yn gyfeiriad at arfer y swyddogaeth gan y person neu'r personau sy'n ei harfer pan nad oes trefniadau wedi eu gwneud o dan yr adran hon.

(8)Mae cyfeiriadau yn yr adran hon at awdurdod lleol yn gyfeiriadau at awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau gweithrediaeth.

(9)Yn yr adran hon—

57Darpariaeth ganlyniadol

(1)Yn adran 100EA o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (archwilio cofnodion sy'n ymwneud â swyddogaethau sy'n arferadwy gan aelodau)—

(a)yn is-adran (1)—

(i)yn lle “Secretary of State” rhodder “appropriate authority”;

(ii)ar ôl “2007” mewnosoder “or under section 56 of the Local Government (Wales) Measure 2011”;

(b)ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

(2A)In this section “appropriate authority” means—

(a)in relation to local authorities in England, the Secretary of State;

(b)in relation to local authorities in Wales, the Welsh Ministers.

(c)yn is-adran (3), ar ôl “Parliament” mewnosoder “(in the case of regulations made by the Secretary of State) or a resolution of the National Assembly for Wales (in the case of regulations made by the Welsh Ministers)”.;

(2)Yn Neddf Llywodraeth Leol 2000—

(a)yn adran 13 (swyddogaethau y mae gweithrediaeth yn gyfrifol amdanynt), yn is-adran (9)(b), ar ôl “in England)” mewnosoder “or under section 56 of the Local Government (Wales) Measure 2011”;

(b)yn adran 21 (pwyllgorau trosolwg a chraffu), yn is-adran (13)(aa), ar ôl “in England)” mewnosoder “or under section 56 of the Local Government (Wales) Measure 2011”.