xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4NEWIDIADAU MEWN TREFNIADAU GWEITHREDIAETH

PENNOD 1MABWYSIADU FFURF WAHANOL AR WEITHREDIAETH

Darpariaethau cyffredinol

37Y pŵer i fabwysiadu ffurf wahanol ar weithrediaeth

(1)Caiff awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau gweithrediaeth—

(a)amrywio trefniadau neu osod trefniadau yn lle'r rhai presennol fel bod ei drefniadau gweithrediaeth yn darparu ar gyfer ffurf wahanol ar weithrediaeth, a

(b)os yw'n gwneud amrywiad o'r fath i'r trefniadau, caiff amrywio'r trefniadau mewn ffyrdd eraill (os bydd rhai) sy'n briodol yn ei dyb ef.

(2)Mae'r pwerau a roddir gan is-adran (1) yn arferadwy'n unol â darpariaethau canlynol y Bennod hon.

(3)Ni chaiff awdurdod lleol ddefnyddio'r pŵer a roddir gan is-adran (1)(a) i amrywio ei drefniadau gweithrediaeth neu i roi trefniadau yn eu lle fwy nag unwaith mewn unrhyw gylch etholiadol.

(4)At y diben hwnnw, bernir bod awdurdod lleol yn defnyddio'r pŵer a roddir gan is-adran (1)(a) ar yr adeg pan fo'r awdurdod yn pasio penderfyniad o dan adran 38.

(5)Yn yr adran hon, ystyr “cylch etholiadol”, mewn perthynas ag awdurdod lleol, yw pob cyfnod—

(a)sy'n dechrau gydag etholiadau cyffredin i'r awdurdod, a

(b)sy'n dod i ben gyda'r etholiadau cyffredin nesaf i'r awdurdod.

(6)I gael y diffiniad o “ffurf ar weithrediaeth”, gweler adran 53.

38Y cynigion ar gyfer mabwysiadu ffurf wahanol ar weithrediaeth

(1)Rhaid i'r awdurdod lleol lunio cynigion i amrywio ei drefniadau gweithrediaeth neu i roi trefniadau yn eu lle, a'u cymeradwyo drwy benderfyniad (os bwriedir defnyddio'r pwerau a roddir gan adran 37).

(2)Wrth lunio'r cynigion, rhaid i'r awdurdod lleol ystyried i ba raddau y bydd y cynigion yn debygol, os rhoddir hwy ar waith, o gynorthwyo i sicrhau gwelliant parhaus yn y ffordd y mae swyddogaethau'r awdurdod yn cael eu harfer, gan roi sylw i gyfuniad o ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd.

(3)Rhaid i'r awdurdod lleol anfon at Weinidogion Cymru—

(a)copi o'r cynigion a gymeradwywyd ganddo, a

(b)(gyda'r copi o'r cynigion) ddatganiad sy'n disgrifio'r rhesymau pam bod yr awdurdod o'r farn y byddai ei gynigion yn debygol, pe byddent yn cael eu rhoi ar waith, o sicrhau bod penderfyniadau'r awdurdod yn cael eu gwneud mewn ffordd effeithlon, dryloyw ac atebol.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu ai i gymeradwyo'r cynigion ai peidio.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r awdurdod lleol yn ysgrifenedig am eu penderfyniad.

(6)Os yw Gweinidogion Cymru'n rhoi hysbysiad am benderfyniad i beidio â chymeradwyo'r cynigion, rhaid i'r awdurdod lleol beidio â chymryd unrhyw gamau pellach i roi'r cynigion ar waith ar ôl i'r hysbysiad gael ei roi.

39Cynnwys y cynigion

Rhaid i gynigion awdurdod lleol gynnwys pob un o'r canlynol—

(a)datganiad ynghylch i ba raddau y mae'r weithrediaeth i fod yn gyfrifol am swyddogaethau a bennir mewn rheoliadau o dan adran 13(3)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 o dan y trefniadau gweithrediaeth arfaethedig,

(b)amserlen mewn cysylltiad â rhoi'r cynigion ar waith, ac

(c)manylion am unrhyw drefniadau trosiannol sy'n angenrheidiol ar gyfer rhoi'r cynigion ar waith.

40Refferenda

(1)Rhaid i'r cynigion ddarparu bod newid mewn trefniadau gweithrediaeth yn ddarostyngedig i'w gymeradwyo mewn refferendwm os yw'r newid mewn trefniadau gweithrediaeth yn un y mae'n ofynnol ei gymeradwyo mewn refferendwm.

(2)Ond, mewn unrhyw achos arall, ni chaiff y cynigion ddarparu bod newid mewn trefniadau gweithrediaeth yn ddarostyngedig i'w gymeradwyo mewn refferendwm.

(3)Am ddarpariaeth ynghylch refferenda o dan yr adran hon, gweler adran 45 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.

41Yr amserlen ar gyfer rhoi'r cynigion ar waith: dim refferendwm

(1)Mae'r adran hon yn gymwys i gynigion awdurdod lleol os nad yw newid mewn trefniadau gweithrediaeth yn ddarostyngedig i'w gymeradwyo mewn refferendwm.

(2)Rhaid i'r amserlen mewn cysylltiad â rhoi'r cynigion ar waith fod yn un sy'n sicrhau bod yr awdurdod lleol yn gwneud y newid mewn trefniadau gweithrediaeth heb fod yn hwyrach na diwedd y cyfnod o chwe mis sy'n dechrau ar y diwrnod y bydd yr awdurdod lleol yn anfon y copi o'r cynigion at Weinidogion Cymru.

42Yr amserlen ar gyfer rhoi'r cynigion ar waith: refferendwm

(1)Mae'r adran hon yn gymwys i gynigion awdurdod lleol os yw'r ffurf arfaethedig ar weithrediaeth yn ddarostyngedig i'w chymeradwyo mewn refferendwm.

(2)Rhaid i'r amserlen mewn cysylltiad â rhoi'r cynigion ar waith gydymffurfio ag is-adrannau (3) a (4).

(3)Rhaid i'r amserlen fod yn un sy'n sicrhau y bydd yr awdurdod lleol yn cynnal y refferendwm o fewn y cyfnod—

(a)sy'n dechrau ddeufis, a

(b)sy'n dod i ben chwe mis

ar ôl y diwrnod y bydd yr awdurdod lleol yn anfon y copi o'r cynigion at Weinidogion Cymru.

(4)Rhaid i'r amserlen fod yn un sy'n sicrhau y bydd yr awdurdod lleol, os canlyniad y refferendwm yw cymeradwyo newid mewn trefniadau gweithrediaeth, yn gwneud y newid hwnnw cyn pen cyfnod o chwe mis sy'n dechrau ar y diwrnod y cynhelir y refferendwm.

43Cyhoeddusrwydd i'r cynigion

(1)Mae'r adran hon yn gymwys i awdurdod lleol sydd wedi cymeradwyo cynigion drwy benderfyniad.

(2)Rhaid i'r awdurdod lleol sicrhau bod copïau o ddogfen sy'n nodi darpariaethau'r trefniadau gweithrediaeth arfaethedig ar gael yn ei brif swyddfa i'w harchwilio gan y cyhoedd ar bob adeg resymol.

(3)Rhaid i'r awdurdod lleol gyhoeddi hysbysiad—

(a)sy'n datgan bod yr awdurdod lleol wedi penderfynu gweithredu'r trefniadau gweithrediaeth arfaethedig,

(b)os yw'r ffurf arfaethedig ar weithrediaeth yn ddarostyngedig i'w chymeradwyo mewn refferendwm, sy'n datgan—

(i)ei bod yn ddarostyngedig i'r gymeradwyaeth honno, a

(ii)dyddiad y refferendwm,

(c)sy'n datgan y dyddiad y mae'r awdurdod lleol yn bwriadu dechrau gweithredu'r trefniadau hynny,

(d)sy'n disgrifio prif nodweddion y trefniadau hynny,

(e)sy'n datgan bod copïau o ddogfen sy'n nodi darpariaethau'r trefniadau hynny ar gael ym mhrif swyddfa'r awdurdod lleol i'w harchwilio gan y cyhoedd ar yr adegau a bennir yn yr hysbysiad, ac

(f)sy'n rhoi cyfeiriad prif swyddfa'r awdurdod lleol.

(4)Rhaid i'r awdurdod lleol gydymffurfio ag is-adrannau (2) a (3) cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl iddo basio'r penderfyniad yn cymeradwyo'r cynigion.

44Rhoi'r cynigion ar waith

(1)Rhaid i awdurdod lleol roi ei gynigion ar waith yn unol â'r amserlen sydd wedi ei chynnwys yn y cynigion.

(2)Ond o ran newid mewn trefniadau gweithrediaeth—

(a)os yw'n ddarostyngedig i'w gymeradwyo mewn refferendwm, a

(b)os nad yw'n cael ei gymeradwyo yn y refferendwm,

ni chaniateir i'r awdurdod lleol roi'r newid ar waith.

45Camau gweithredu os yw'r newid yn cael ei wrthod mewn refferendwm

(1)Mae'r adran hon yn gymwys i awdurdod lleol—

(a)os yw'r newid mewn trefniadau gweithrediaeth yn ddarostyngedig i'w gymeradwyo mewn refferendwm, a

(b)os nad yw'r newid mewn trefniadau gweithrediaeth yn cael ei gymeradwyo yn y refferendwm.

(2)Rhaid i'r awdurdod lleol gyhoeddi hysbysiad—

(a)sy'n crynhoi cynigion yr awdurdod lleol a oedd yn destun y refferendwm,

(b)sy'n datgan bod refferendwm ar gynigion yr awdurdod lleol wedi gwrthod y cynigion hynny, ac

(c)sy'n datgan y bydd yr awdurdod lleol yn parhau i weithredu'r ffurf ar weithrediaeth y darperir ar ei chyfer gan ei drefniadau gweithrediaeth presennol.

(3)Rhaid i'r awdurdod lleol gydymffurfio ag is-adran (2) cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl y refferendwm.