RHAN 3TREFNIADAU LLYWODRAETHU SYDD AR GAEL

Trefniadau amgen

I135Awdurdodau i roi trefniadau gweithrediaeth yn lle trefniadau amgen

1

Rhaid i awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau amgen—

a

rhoi'r gorau i weithredu trefniadau amgen, a

b

dechrau gweithredu trefniadau gweithrediaeth.

2

Mae Atodlen 1 yn cynnwys darpariaeth sy'n ychwanegu at yr adran hon.

3

Wrth gydymffurfio â'r adran hon ac ag Atodlen 1, rhaid i awdurdod lleol gydymffurfio â chyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru.

Annotations:
Commencement Information
I1

A. 35 mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 178(2)(a)

I236Darpariaeth ganlyniadol etc

1

Yn Neddf Llywodraeth Leol 2000—

a

yn adran 29 (gweithredu trefniadau gweithrediaeth a rhoi cyhoeddusrwydd iddynt), hepgorer is-adran (3);

F1b

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F1c

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

d

hepgorer adran 33 (gweithredu trefniadau amgen);

e

yn adran 34 (refferendwm yn dilyn deiseb), yn is-adran (3), yn lle “29 or 33” rhodder “or 29”;

f

yn adran 35 (refferendwm yn dilyn cyfarwyddyd), yn is-adran (3), yn lle “29 or 33” rhodder “or 29”;

g

yn adran 36 (refferendwm yn dilyn gorchymyn), yn is-adran (3), yn lle “29 or 33” rhodder “or 29”.

2

Yn y Mesur hwn, hepgorer adran 87(3).

3

Yn Neddf Llywodraeth Leol 1972—

a

yn adran 70 (cyfyngu ar hybu Mesurau seneddol i newid ardaloedd llywodraeth leol, etc), yn is-adran (3), hepgorer “or alternative arrangements”;

b

yn adran 270 (darpariaethau cyffredinol ynglŷn â dehongli), yn is-adran (1) hepgorer y diffiniad o “alternative arrangements”.

4

Dirymir y rheoliadau a ganlyn—

a

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cynigion ar gyfer Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001 (O.S 2001/2293);

b

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Newid Trefniadau Gweithrediaeth a Threfniadau Amgen) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/3158);

c

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/397).

5

Nid yw is-adrannau (1) i (4) yn atal awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau amgen ar y dyddiad cychwyn rhag parhau i weithredu'r trefniadau hynny ar y diwrnod hwnnw ac wedi hynny.

6

Nid yw is-adrannau (1) i (4) yn cael effaith mewn perthynas ag awdurdod lleol os yw'r awdurdod lleol yn parhau i weithredu trefniadau amgen ar y dyddiad cychwyn ac wedi hynny, ac am gyhyd ag y pery i wneud hynny.

7

Nid yw is-adrannau (5) ac (6) yn effeithio ar ddyletswydd awdurdod lleol o dan adran 35.

8

Yn yr adran hon, ystyr “dyddiad cychwyn” mewn perthynas â diwygiad a wneir gan yr adran hon, yw'r dyddiad y daw'r diwygiad hwnnw i rym.