Arolwg o gynghorwyr ac ymgeiswyr na fu iddynt lwyddo i gael eu hethol yn gynghorwyr
1Dyletswydd i gynnal arolwg
(1)Rhaid i awdurdod lleol, yn unol â rheoliadau o dan yr adran hon, gynnal arolwg—
(a)o gynghorwyr yn ei ardal, a
(b)o ymgeiswyr na fu iddynt lwyddo i gael eu hethol i swydd cynghorydd yn ei ardal.
(2)Rhaid i awdurdod lleol gynnal arolwg ar ôl pob etholiad cyffredin—
(a)ar gyfer cyngor y sir neu'r fwrdeistref sirol, a
(b)ar gyfer cyngor cymuned yn ardal yr awdurdod lleol.
(3)Rhaid i'r arolwg gael ei gynnal—
(a)drwy ofyn cwestiynau rhagnodedig ar unrhyw ffurf ragnodedig neu mewn unrhyw ddull rhagnodedig, a
(b)drwy grynhoi'r wybodaeth ar unrhyw ffurf ragnodedig neu mewn unrhyw ddull rhagnodedig.
(4)Mae'r cwestiynau y caniateir eu rhagnodi o dan is-adran (3) yn cynnwys cwestiynau (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt) ynglŷn â'r unigolyn y maent wedi eu cyfeirio ato ynghylch—
(a)rhywedd;
(b)cyfeiriadedd rhywiol;
(c)iaith;
(d)hil;
(e)oedran;
(f)anabledd;
(g)crefydd neu gred;
(h)iechyd;
(i)addysg a chymwysterau;
(j)cyflogaeth;
(k)gwaith fel cynghorydd.
(5)Nid oes dim yn yr adran hon sy'n gosod dyletswydd ar gynghorydd neu ymgeisydd na lwyddodd i gael ei ethol i swydd cynghorydd i ddarparu unrhyw wybodaeth.
(6)Rhaid i awdurdod lleol wneud trefniadau i gynghorwyr ac ymgeiswyr na fu iddynt lwyddo i gael eu hethol i swydd cynghorydd ddarparu gwybodaeth yn ddienw o dan yr adran hon.
(7)Yn yr adran hon—
ystyr “anabledd” (“disability”) yw amhariad corfforol neu feddyliol a chanddo effaith andwyol sylweddol a hirdymor ar allu person i gyflawni gweithgareddau beunyddiol normal;
ystyr “cred” (“belief”) yw unrhyw gred grefyddol neu athronyddol ac mae cyfeiriad at gred yn cynnwys cyfeiriad at ddiffyg cred;
ystyr “crefydd” (“religion”) yw unrhyw grefydd ac mae cyfeiriad at grefydd yn cynnwys cyfeiriad at ddiffyg crefydd;
ystyr “cyfeiriadedd rhywiol” (“sexual orientation”) yw cyfeiriadedd rhywiol person—
(a)tuag at bersonau o'r un rhyw,
(b)tuag at bersonau o'r rhyw arall, neu
(c)tuag at bersonau o'r naill ryw neu'r llall;
mae “cynghorydd” (“councillor”) yn cynnwys cynghorydd cymuned;
ystyr “hil” (“race”) yw lliw, cenedligrwydd neu darddiad ethnig neu genedlaethol.
2Cwblhau arolwg a chyhoeddi gwybodaeth
(1)Rhaid i awdurdod lleol gwblhau ei arolwg a darparu'r wybodaeth sy'n cael ei chrynhoi ganddo i Weinidogion Cymru cyn pen chwe mis ar ôl dyddiad yr etholiad cyffredin y mae'n ymwneud ag ef.
(2)Rhaid i awdurdod lleol ddarparu'r wybodaeth ar unrhyw ffurf ragnodedig neu mewn unrhyw ddull rhagnodedig.
(3)Caiff awdurdod lleol gyhoeddi'r wybodaeth sy'n cael ei chrynhoi gan arolwg yn y dull y mae o'r farn ei bod yn briodol ei chyhoeddi, yn ddarostyngedig i is-adran (6).
(4)Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)crynhoi'r wybodaeth a gânt oddi wrth awdurdodau lleol o dan yr adran hon, a
(b)ei chyhoeddi cyn pen deuddeng mis ar ôl dyddiad yr etholiad cyffredin y mae'n ymwneud ag ef.
(5)Caiff Gweinidogion Cymru—
(a)cyhoeddi gwybodaeth o dan is-adran (4)(b) yn y dull y maent o'r farn ei bod yn briodol ei chyhoeddi, yn ddarostyngedig i is-adran (6);
(b)rhannu unrhyw wybodaeth a ddarperir iddynt o dan is-adran (1) ag unrhyw gorff sy'n cynrychioli buddiannau cynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol neu gynghorau cymuned yng Nghymru.
(6)Nid yw unrhyw wybodaeth a geir o dan adran 1 neu'r adran hon i'w chyhoeddi na'i rhannu ar unrhyw ffurf sydd, naill ai ar ei phen ei hun neu ar y cyd ag unrhyw wybodaeth arall, yn datgelu pwy yw unrhyw unigolyn y mae'n ymwneud ag ef neu'n ei gwneud yn bosibl i'r unigolyn hwnnw gael ei adnabod.
3Canllawiau ynghylch arolygon
Wrth arfer ei swyddogaethau o dan adrannau 1 a 2, rhaid i awdurdod lleol roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.