Mesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2011

6DehongliLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Yn y Mesur hwn—

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru,

  • ystyr “y Cynulliad(“the Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru,

  • Deddf 1984(“the 1984 Act”) yw Deddf Adeiladu 1984 (p.55),

  • ystyr “gwaith adeiladu” (“building work”) yw gwaith i godi, estyn neu addasu adeilad,

  • [F1“mae i “fflat” (“flat”) yr ystyr a roddir i “flat” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Adeiladu 2010(1)”]

  • [F1“mae i “tŷ annedd” (“dwelling-house”) yr ystyr a roddir i “dwelling-house” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Adeiladu 2010”]

  • “hysbysiad corff cyhoeddus” (“public body’s notice”) yw'r ystyr a roddir iddo yn Rhan 2 o Ddeddf 1984,

  • “hysbysiad cychwynnol” (“initial notice”) yw'r ystyr a roddir iddo yn Rhan 2 o Ddeddf 1984,

  • ystyr “perchennog” (“owner”) yw'r ystyr a roddir iddo yn Neddf 1984,

  • ystyr “preswylfa” (“residence”) yw—

    (a)

    tŷ annedd,

    (b)

    fflat,

    (c)

    [F2man yng Nghymru lle y mae gwasanaeth cartref gofal o fewn ystyr Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn cael ei ddarparu’n gyfan gwbl neu’n bennaf i bersonau sy’n 18 oed neu’n hŷn,]

    (d)

    [F3neuadd breswyl;

    (e)

    ystafell neu gyfres o ystafelloedd, nad yw’n dŷ annedd nac yn fflat ac sy’n cael ei defnyddio gan un neu fwy o bersonau i fyw a chysgu ynddi ac sy’n cynnwys ystafell mewn hostel neu dŷ preswyl, ond nid yw’n cynnwys—

    (i)

    ystafell mewn gwesty;

    (ii)

    ystafell mewn hostel sy’n cael ei darparu fel llety dros dro i’r rhai hynny sy’n preswylio fel arfer yn rhywle arall;

    (iii)

    ystafell mewn ysbyty neu sefydliad tebyg arall sy’n cael ei defnyddio fel llety i gleifion;

    (iv)

    ystafelloedd mewn carchar neu sefydliad troseddwyr ifanc;

    (v)

    mangre ar gyfer lletya personau sydd wedi eu remandio ar fechnïaeth;

    (vi)

    mangre ar gyfer lletya personau y gall fod yn ofynnol iddynt, drwy orchymyn prawf breswylio yno, F4...]

    (ea)

    [F5mangre lle y mae gwasanaeth llety diogel o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (dccc 2) yn cael ei ddarparu, neu;]

    (f)

    [F6man lle y mae gwasanaeth cartref gofal o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn cael ei ddarparu’n gyfan gwbl neu’n bennaf i blant, ond nid—

    (i)

    sefydliad yn y sector addysg bellach fel y’i diffinnir gan adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992;

    (ii)

    man lle y mae llety yn cael ei ddarparu at ddibenion—

    (aa)

    gwyliau;

    (bb)

    gweithgaredd hamdden, adloniant, chwaraeon, diwylliannol neu addysgol;

    oni bai bod plentyn yn cael ei letya yno am fwy nag 28 o ddiwrnodau mewn unrhyw gyfnod o 12 mis; a]

    lle y mae adeilad yn cynnwys un breswylfa neu fwy, yn cynnwys unrhyw ran o'r adeilad hwnnw y bwriedir iddo gael ei ddefnyddio gan y rheini sy'n byw yn y breswylfa honno neu'r preswylfeydd hynny at ddibenion atodol i'r feddiannaeth honno sy'n gyffredin â'i gilydd neu â defnyddwyr eraill yr adeilad,

  • ystyr “rhagnodwyd” (“prescribed”) yw wedi'i ragnodi gan reoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru,

  • ystyr “rheoliadau adeiladu” (“building regulations”) yw rheoliadau a wneir o dan adran 1 o Ddeddf 1984,

  • ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw swyddog awdurdod lleol sydd wedi'i awdurdodi yn ysgrifenedig gan yr awdurdod hwnnw, boed yn gyffredinol neu'n benodol, i weithredu mewn materion o fath arbennig neu mewn mater penodol, ac

  • ystyr “swyddog priodol” (“proper officer”), mewn perthynas â phwrpas ac ag awdurdod lleol, yw swyddog a benodwyd at y diben hwnnw gan yr awdurdod hwnnw.

[F7(1A)Yn is-adran (1), ystyr “plentyn” yw person sydd o dan 18 oed.]

(2)Yn ddarostyngedig i is-adran (3), caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ddiwygio diffiniad “preswylfa” yn is-adran (1) drwy—

(a)ychwanegu dosbarth o fangreoedd preswyl, neu

(b)diwygio'r disgrifiad o ddosbarth o fangreoedd preswyl sydd eisoes yn bodoli.

(3)Yn is-adran (2), ystyr “mangreoedd preswyl” (“residential premises”) yw'r ystyr a roddir iddo yn—

(a)paragraff 7 o Ran 1 Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), unwaith y bydd mewn grym, neu,

(b)tan hynny, Mater 11.1 yn Rhan 1 Atodlen 5 i'r Ddeddf honno.