ATODLEN 1GORFODI

(fel y'i cyflwynwyd gan adran 2)

1Y gosb am fynd yn groes i adran 1(1)

Mae unrhyw berson sy'n gwneud gwaith adeiladu nad yw, ar yr adeg a ragnodir gan adran 1(1), yn cydymffurfio â gofynion adran 1(4), yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

2Terfyn amser ar erlyn

1

Er gwaethaf unrhyw beth a geir yn adran 127(1) o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p.43), caiff llys ynadon roi ar brawf hysbysiaeth sy'n ymwneud â thramgwydd o dan baragraff 1 os caiff ei gosod ar unrhyw adeg—

a

o fewn cyfnod o ddwy flynedd gan ddechrau ar y diwrnod y cyflawnwyd y tramgwydd, a

b

o fewn cyfnod o chwe mis gan ddechrau ar y dyddiad perthnasol.

2

Yn is-baragraff (1)(b), ystyr “y dyddiad perthnasol” (“the relevant date”) yw'r dyddiad y daw tystiolaeth ddigonol i gyfiawnhau achos llys i sylw'r person sy'n cychwyn yr achos.

3

Mewn perthynas ag achos a gychwynnwyd gan awdurdod lleol—

a

at ddibenion is-baragraff (2) uchod, ystyrir tystiolaeth yn ddigonol i gyfiawnhau achos os yw'n ddigonol ym marn y swyddog priodol neu'r swyddog awdurdodedig i gyfiawnhau achos, a

b

bydd tystysgrif gan y swyddog priodol neu, yn ôl fel y digwydd, y swyddog awdurdodedig yn tystio i'r dyddiad y daeth y dystiolaeth sydd, ym marn y swyddog hwnnw, yn ddigonol i gyfiawnhau achos i sylw'r person sy'n cychwyn yr achos yn dystiolaeth derfynol o'r ffaith hwnnw.

3Addasu gwaith tramgwyddus

1

Os na fydd gwaith adeiladu y mae'r Mesur hwn yn gymwys iddo yn cydymffurfio, ar yr adeg a ragnodir yn adran 1(1), â gofynion adran 1(4), ac os yw'r diffyg cydymffurfio â'r gofynion hynny yn parhau, caiff awdurdod lleol drwy hysbysiad ofyn i'r perchennog wneud y cyfryw addasiadau a all fod eu hangen er mwyn i'r gwaith gydymffurfio â'r gofynion hynny, a hynny heb ragfarnu hawl yr awdurdod i ddwyn achos am ddirwy mewn perthynas â'r tramgwyddo.

2

Os gwneir gwaith adeiladu y mae'r Mesur hwn yn gymwys iddo—

a

heb roi'r wybodaeth sydd ei hangen yn ôl adran 3(1), neu

b

er gwaethaf y ffaith bod yr awdurdod lleol wedi rhoi hysbysiad o dan adran 3(3), a'r hysbysiad hwnnw'n parhau i fod mewn grym,

caiff yr awdurdod drwy hysbysiad ei gwneud yn ofynnol i'r perchennog gydymffurfio ag unrhyw ofynion a ragnodir yn yr hysbysiad, a'r rheini'n ofynion sy'n angenrheidiol i sicrhau bod y gwaith yn cydymffurfio â gofynion adran 1(4).

3

Os na fydd person sydd wedi cael hysbysiad o dan is-baragraff (1) neu (2) uchod yn cydymffurfio â'r hysbysiad cyn pen 28 o ddiwrnodau neu unrhyw gyfnod hwy y mae llys ynadon yn ei ganiatáu ar apêl gan y person hwnnw o dan baragraff 5, caiff yr awdurdod lleol wneud unrhyw addasiadau i'r gwaith y mae'n barnu eu bod yn angenrheidiol i sicrhau bod y gwaith yn cydymffurfio â gofynion adran 1(4), a chaiff adennill gan y person hwnnw y costau y mae'r awdurdod wedi mynd iddynt yn rhesymol wrth wneud.

4

Mewn perthynas â hysbysiad o dan is-baragraff (1) neu (2) uchod (a elwir yn “hysbysiad paragraff 3”)—

a

rhaid iddo fod ar y cyfryw ffurf a rhaid iddo gynnwys y cyfryw wybodaeth a all fod wedi'u rhagnodi,

b

rhaid iddo ddatgan y caiff y person y rhoddir yr hysbysiad iddo, o fewn yr amser a bennir gan baragraff 9, apelio yn erbyn yr hysbysiad i lys ynadon o dan baragraff 5, a

c

ni chaniateir ei roi ar ôl i 12 mis fynd heibio oddi ar ddyddiad cwblhau'r gwaith dan sylw.

5

Ni chaniateir rhoi hysbysiad paragraff 3 os rhoddwyd yr wybodaeth sy'n ofynnol gan adran 3(1) i'r awdurdod ac os gwnaed y gwaith yn unol â'r wybodaeth honno, a hynny ar y sail nad oedd y gwaith yn cydymffurfio â gofynion adran 1(4), oni bai bod yr awdurdod wedi rhoi hysbysiad o dan adran 3(3) o fewn y cyfnod perthnasol.

6

Nid yw'r paragraff hwn yn amharu ar hawl awdurdod lleol, Gweinidogion Cymru neu unrhyw berson arall i wneud cais am waharddeb i gael addasu unrhyw waith ar y sail nad yw'n cydymffurfio â gofynion adran 1(4), ond os—

a

rhoddwyd gwybodaeth mewn perthynas â'r gwaith i'r awdurdod lleol yn unol ag adran 3(1),

b

na roddodd yr awdurdod yr hysbysiad o dan adran 3(3) o fewn y cyfnod perthnasol, ac

c

gwnaed y gwaith yn unol â'r wybodaeth honno,

bydd gan y llys, adeg caniatáu'r waharddeb, y pŵer i orchymyn bod yr awdurdod lleol yn talu perchennog y gwaith yr iawndal y mae'r llys yn barnu sy'n gyfiawn, ond, cyn gwneud y cyfryw orchymyn, rhaid i'r llys yn unol â rheolau'r llys drefnu bod yr awdurdod lleol yn un o bartïon yr achos, os nad ydyw eisoes.

4Cael adroddiad lle rhoddir hysbysiad paragraff 3

1

Pan fydd—

a

person sydd wedi cael hysbysiad paragraff 3 yn hysbysu'r awdurdod lleol a roddodd yr hysbysiad iddo o'i fwriad i gael adroddiad ysgrifenedig gan berson sydd wedi cymhwyso'n briodol ynghylch y gwaith y mae'r hysbysiad paragraff 3 yn perthyn iddo, a

b

adroddiad o'r fath wedi'i gael ac wedi'i gyflwyno i'r awdurdod lleol ac os bydd yr awdurdod lleol, o ganlyniad i'w ystyriaeth ohono, yn tynnu yn ôl ei hysbysiad paragraff 3, caiff yr awdurdod lleol dalu'r person y rhoddwyd yr hysbysiad paragraff 3 iddo y swm y mae'r awdurdod yn barnu sy'n cynrychioli'r costau yr aed iddynt yn rhesymol gan y person o ganlyniad i'r hysbysiad a roddwyd gan yr awdurdod, gan gynnwys, ym mhlith pethau eraill, y gost o gael yr adroddiad.

2

Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3) isod, os bydd person sydd wedi cael hysbysiad paragraff 3 yn rhoi hysbysiad ei hun o dan is-baragraff (1)(a) uchod o ran y materion y mae'r hysbysiad paragraff 3 yn perthyn iddynt, dehonglir y cyfeiriad at 28 o ddiwrnodau ym mharagraff 3(3) uchod fel cyfeiriad at 70 o ddiwrnodau.

3

Rhaid rhoi'r hysbysiad o dan is-baragraff (1)(a) uchod cyn pen y cyfnod o 28 o ddiwrnodau y cyfeirir ato ym mharagraff 3(3) uchod, neu, yn ôl fel y digwydd, o fewn cyfnod hwy y mae'r llys yn ei ganiatáu o dan baragraff 3(3); ac ni fydd is-baragraff (2) uchod yn gymwys pan fydd cyfnod hwy wedi'i ganiatáu cyn rhoi hysbysiad o dan is-baragraff (1)(a) uchod.

5Apelio yn erbyn hysbysiad paragraff 3

1

Caiff person sy'n cael hysbysiad paragraff 3 apelio i lys ynadon ar sail unrhyw un o'r canlynol os yw'n briodol o dan amgylchiadau'r achos penodol—

a

nid oes modd cyfiawnhau'r hysbysiad neu unrhyw ofyniad y mae'n ei orfodi gan delerau paragraff 3,

b

ceir rhyw afreoleidd-dra, nam neu wall yn yr hysbysiad, neu mewn perthynas ag ef,

c

mae'r awdurdod yn afresymol wedi gwrthod cymeradwyo gwneud gwaith amgen, neu mae'r gwaith sy'n ofynnol gan yr hysbysiad fel arall yn afresymol o ran ei nodweddion neu ei faint, neu nid yw'r gwaith yn angenrheidiol;

d

nid yw'r amser a ganiatawyd ar gyfer cyflawni'r gwaith yn rhesymol ddigon i'r pwrpas hwnnw.

2

Os bydd apêl o dan yr adran hon wedi'i seilio ar ryw afreoleidd-dra, nam neu wall yn yr hysbysiad neu mewn perthynas ag ef, i'r graddau hynny, rhaid i'r llys wrthod yr apêl os yw wedi'i fodloni nad oedd yr afreoleidd-dra, nam neu wall yn sylweddol.

6Y pŵer i fynd i mewn i fangreoedd

1

Yn ddarostyngedig i'r paragraff hwn, bydd gan swyddog awdurdod lleol yr hawl i fynd i mewn i unrhyw fangre ar bob adeg resymol, ar yr amod ei fod yn gallu dangos, ar gais, ryw ddogfen a awdurdodwyd yn briodol sy'n profi ei awdurdod, a hynny—

a

at ddibenion canfod achos o fethu â chydymffurfio â gofynion y Mesur hwn, y mae'n ddyletswydd ar awdurdod lleol eu gorfodi, yn y fangre neu mewn perthynas â hi,

b

at ddibenion canfod a oes amgylchiadau yn bod a fyddai'n awdurdodi neu'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gymryd unrhyw gamau, neu wneud unrhyw waith, o dan y Mesur hwn,

c

er mwyn i'r awdurdod lleol gymryd unrhyw gamau, neu wneud unrhyw waith, a awdurdodir neu sy'n ofynnol gan y Mesur hwn, neu gan orchymyn a wnaed o dan y Mesur hwn, neu

d

yn gyffredinol er mwyn i'r awdurdod lleol gyflawni ei swyddogaethau o dan y Mesur hwn.

2

Ni cheir mynnu'r hawl i fynd i mewn i fangre oni roddwyd 24 awr o rybudd i'r meddiannwr o'r bwriad i fynd i mewn.

3

Os gellir bodloni ynad heddwch gyda hysbysiaeth ysgrifenedig ar lw—

a

y gwrthodwyd mynediad i unrhyw fangre, neu y dirnadwyd gwrthodiad o'r fath, neu os nad yw'r fangre wedi'i meddiannu, neu os yw'r meddiannwr yn absennol dros dro, neu os yw'r achos yn un brys, neu pe bai cais i gael mynediad yn trechu'r bwriad, a

b

bod sail resymol dros gael mynd i mewn i'r fangre am unrhyw un o'r rhesymau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) uchod,

caiff yr ynad, gan warant drwy law'r ynad, awdurdodi'r awdurdod lleol drwy unrhyw swyddog awdurdodedig i gael mynediad i'r fangre, a hynny gan ddefnyddio grym, os bydd angen.

4

Ni cheir cyhoeddi gwarant o dan is-baragraff (3) uchod oni bai y bodlonwyd yr ustus—

a

y rhoddwyd hysbysiad o'r bwriad i wneud cais am warant i'r meddiannwr, neu

b

nad yw'r fangre wedi'i meddiannu, neu fod y meddiannwr yn absennol dros dro, neu fod yr achos yn un brys, neu y byddai rhoi'r hysbysiad yn trechu'r bwriad o gael mynd i mewn.

5

Caiff swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i fangre yn rhinwedd y paragraff hwn neu warant a gyhoeddwyd o dan y paragraff hwn fynd gydag ef unrhyw bersonau eraill y gall fod eu hangen, ac os aeth y swyddog i mewn i fangre nad oedd wedi'i meddiannu yn rhinwedd y cyfryw warant, rhaid iddo ei gadael wedi'i diogelu yn erbyn tresmaswyr yr un mor effeithiol ag ydoedd pan aeth i mewn iddi.

6

Bydd gwarant a gyhoeddwyd o dan y paragraff hwn yn parhau i fod mewn grym nes y diwallwyd y rheswm yr oedd angen cael mynediad iddi.

7Profion cydymffurfio â gofynion y Mesur hwn

1

Mae gan y paragraff hwn rym at ddiben galluogi awdurdod lleol i ganfod a yw unrhyw waith adeiladu, neu waith adeiladu sydd yn yr arfaeth, y mae'r Mesur hwn yn gymwys iddo, wedi cydymffurfio, neu yn mynd i gydymffurfio, ag unrhyw ofyniad yn y Mesur hwn y mae'n ddyletswydd i'r awdurdod ei orfodi.

2

Mae gan yr awdurdod lleol bŵer at y diben hwnnw—

a

i'w gwneud yn ofynnol i'r person a wnaeth y gwaith, neu y gwnaed, gwneir, neu y bwriedir gwneud y gwaith ar ei ran, i gynnal y cyfryw brofion rhesymol ar y gwaith neu mewn perthynas ag ef a ragnodir yn y gofyniad, neu

b

i gynnal profion rhesymol ei hun ar y gwaith neu mewn perthynas ag ef.

3

Heb ragfarnu cyffredinolrwydd is-baragraff (2) uchod, mae'r materion y caniateir gofyn am gynnal profion yn eu cylch, neu y ceir cynnal profion yn eu cylch, o dan yr is-baragraff hwnnw yn cynnwys profi unrhyw ddeunydd, elfen neu gyfuniad o elfennau a ddefnyddir, neu y mae'n fwriad eu defnyddio, wrth wneud y gwaith, ynghyd â phrofi unrhyw wasanaeth, ffitiad neu offer sydd wedi'i ddarparu, neu sy'n cael ei ddarparu neu a fwriedir ei ddarparu mewn perthynas â'r gwaith hwnnw.

4

Rhaid i'r person y mae'n ofynnol o dan y paragraff hwn iddo gynnal y profion dalu costau cynnal y profion, ac eithrio os bydd yr awdurdod lleol, pan wneir cais i'r awdurdod, yn penderfynu ei fod yn rhesymol cyfarwyddo'r awdurdod lleol i dalu costau cynnal y profion, neu unrhyw ran o'r costau ag a ragnodir yn y cyfarwyddyd hwnnw.

5

Caiff unrhyw gwestiwn sy'n codi o dan y paragraff hwn rhwng awdurdod lleol a pherson ynghylch rhesymoldeb—

a

prawf a ragnodir yn y gofyniad a orfodwyd ar y person hwnnw gan yr awdurdod o dan y paragraff hwn,

b

yr awdurdod wrth wrthod rhoi cyfarwyddyd o dan is-baragraff (4) ar gais y person hwnnw, neu

c

cyfarwyddyd o dan yr is-baragraff hwnnw a roddir ar gais o'r fath,

gael ei benderfynu gan lys ynadon ar gais y person hwnnw, ac, o ran achos sy'n codi o dan is-baragraff (b) neu (c), caiff y llys orchymyn bod yn rhaid i'r awdurdod lleol dalu'r gost y mae'r cais yn ymwneud â hi, i'r graddau y mae'r llys yn barnu sy'n gyfiawn.

8Iawndal am ddifrod

1

Rhaid i awdurdod lleol dalu iawndal llawn i berson am unrhyw ddifrod a achoswyd wrth i'r awdurdod lleol arfer ei bwerau o dan y Mesur hwn, a hynny mewn perthynas â mater pan nad oedd diffyg ar ran y person hwnnw.

2

Rhaid datrys unrhyw anghydfod sy'n codi o dan y paragraff hwn, boed ynghylch pa un a achoswyd unrhyw ddifrod neu ynghylch swm yr iawndal, drwy gyfrwng cymrodeddu, a hynny gan un cymrodeddwr sydd i'w benodi gyda chytundeb y partïon, neu, os nad oes cytundeb, sydd i'w benodi gan Weinidogion Cymru.

9Gweithdrefn ar apêl neu gais

1

Mae'r paragraff hwn yn gymwys ar gyfer—

a

apêl at lys ynadon o dan baragraff 5, neu

b

gais i lys ynadon o dan baragraff 7(5).

2

Pan fydd y paragraff hwn yn gymwys, y weithdrefn bydd trwy gwŷn am orchymyn.

3

Rhaid dwyn yr apêl o dan baragraff 5 o fewn 21 diwrnod i'r dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad paragraff 3 arno.

4

Rhaid gwneud cais o dan baragraff 7(5) o fewn 21 diwrnod i'r dyddiad pryd —

a

yn achos cais sy'n ymwneud â rhesymoldeb prawf a ragnodwyd yn y gofyniad a orfodwyd gan awdurdod lleol, y rhoddwyd i'r ceisydd hysbysiad o'r gofyniad hwnnw gan yr awdurdod,

b

yn achos cais sy'n ymwneud â gwrthodiad yr awdurdod i roi cyfarwyddyd o dan baragraff 7(4), y rhoddwyd hysbysiad o'r gwrthodiad hwnnw i'r ceisydd, ac

c

yn achos cais sy'n ymwneud â chyfarwyddyd a roddwyd gan awdurdod lleol o dan baragraff 7(4), y rhoddwyd hysbysiad o'r cyfarwyddyd hwnnw i'r ceisydd.

10Rhwystro

Bydd person sy'n fwriadol yn rhwystro person arall a hwnnw'n gweithio er mwyn gweithredu'r Mesur hwn neu warant a gyhoeddwyd oddi tano yn euog o dramgwydd, a bydd yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 1 ar y raddfa safonol.