1Dyletswydd i ddarparu systemau llethu tân awtomatig
1
Rhaid i waith adeiladu y mae'r Mesur hwn yn gymwys iddo, mewn perthynas â phob preswylfa y mae'n gymwys iddi, gydymffurfio â gofynion is-adran (4) unwaith—
a
y bydd y gwaith wedi'i gwblhau, neu
b
y bydd y breswylfa wedi'i meddiannu at ddibenion preswyl,
pa un bynnag sydd gynharaf.
2
Yn ddarostyngedig i is-adran (3), mae'r Mesur hwn yn gymwys i waith adeiladu yng Nghymru sy'n cynnwys—
a
adeiladu adeilad i fod yn un breswylfa neu fwy,
b
trosi adeilad, neu ran o adeilad, i fod yn un breswylfa neu fwy,
c
isrannu un breswylfa bresennol neu fwy er mwyn creu un breswylfa newydd neu fwy, neu
d
cyfuno preswylfeydd presennol er mwyn creu preswylfa newydd neu breswylfeydd newydd.
3
Nid yw'r Mesur hwn yn gymwys i waith adeiladu—
a
sy'n cael ei gyflawni at ddibenion unrhyw un o swyddogaethau Gweinidogion y Goron, neu
b
os yw rheoliadau adeiladu sy'n gosod gofynion o ran darparu systemau llethu tân awtomatig yn gymwys i'r gwaith hwnnw neu os y byddai'n gymwys oni bai am gyfarwyddyd o dan adran 8 o Ddeddf 1984 sy'n hepgor gofynion o'r fath.
4
Gofynion yr is-adran hon yw—
a
bod rhaid darparu system llethu tân awtomatig ym mhob preswylfa,
b
bod y system yn gweithio'n effeithiol, ac
c
bod y system yn cydymffurfio â'r cyfryw ofynion ag a ragnodir.
5
Mae'r cyfeiriadau yn is-adran (4) at system llethu tân awtomatig hefyd yn cynnwys unrhyw gyflenwad ynni, dŵr, neu sylwedd arall, sy'n angenrheidiol er mwyn sicrhau bod y system yn gweithio'n effeithiol.
2Gorfodi
1
Ac eithrio fel y darperir gan is-adran (3), dyletswydd awdurdod lleol yw gorfodi darpariaethau'r Mesur hwn mewn perthynas â'i ardal.
2
Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth ynghylch gorfodi gan awdurdodau lleol
3
Caiff is-adran (1) rym yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Atodlen 2 (Gwaith adeiladu a oruchwylir gan rywun ac eithrio awdurdodau lleol).
3Darparu gwybodaeth
1
Lle y bydd, yn unol â rheoliadau adeiladu—
a
hysbysiad yn cael ei roi i awdurdod lleol o gynnig i wneud gwaith adeiladu y mae'r Mesur hwn yn gymwys iddo, neu
b
cynlluniau llawn o waith o'r fath yn cael eu hadneuo gydag awdurdod lleol,
rhaid i hysbysiad neu gynlluniau o'r fath gynnwys y cyfryw wybodaeth ag sy'n ofynnol o dan is-adran (2) neu rhaid i wybodaeth o'r fath fynd gydag ef, a rhaid cynnwys y cyfryw ffi a ragnodir.
2
Yr wybodaeth sy'n ofynnol gan yr is-adran hon yw'r cyfryw wybodaeth, at ddibenion dangos bod modd i'r gwaith, unwaith y caiff ei gwblhau, gydymffurfio â gofynion adran 1(4), ac sydd, boed mewn perthynas â ffurf neu â chynnwys, wedi'i rhagnodi.
3
Os, ar ôl rhoi hysbysiad o'r fath neu adneuo cynlluniau o'r fath, nad yw'r wybodaeth sy'n ofynnol gan is-adran (2)—
a
yn gyflawn ym marn yr awdurdod lleol, neu
b
yn dangos bod modd i'r gwaith, unwaith y caiff ei gwblhau, gydymffurfio â gofynion is-adran 1(4) ym marn yr awdurdod lleol,
rhaid i'r awdurdod, o fewn y cyfnod perthnasol, roi hysbysiad yn ysgrifenedig o'r farn honno i'r person a roddodd yr hysbysiad hwnnw neu, yn ôl y digwydd, y person a adneuodd y cynlluniau hynny, gan nodi'r rhesymau dros y farn honno.
4
Caiff person sydd wedi cael hysbysiad o dan is-adran (3) ddiwygio'r wybodaeth y mae'r hysbysiad yn perthyn iddi a'i chyflwyno i'r awdurdod lleol, ac, yn yr achos hwnnw, ni fydd grym i'r hysbysiad a roddir o dan is-adran (3), ac, yn ddarostyngedig i is-adran (5), bydd is-adrannau (2) a (3) yn gymwys mewn perthynas â'r wybodaeth honno fel pe bai wedi'i chynnwys yn yr hysbysiad neu'r cynlluniau y cyfeirir atynt yn is-adran (1) neu fel pe bai wedi mynd gyda hwy.
5
Os caiff gwybodaeth ddiwygiedig ei chyflwyno o dan is-adran (4), bydd y cyfnod perthnasol y cyfeirir ato yn is-adran (3) yn mynd o'r dyddiad y cafodd yr awdurdod lleol yr wybodaeth.
6
At ddibenion y Mesur hwn, ystyr “y cyfnod perthnasol” (“the relevant period”) yw pum wythnos neu'r cyfryw gyfnod estynedig sy'n dod i derfyn heb fod yn hwyrach na deufis ar ôl—
a
rhoi'r hysbysiad neu adneuo'r cynlluniau, neu
b
pan fydd is-adran (4) yn gymwys, y dyddiad y cafodd yr awdurdod lleol yr wybodaeth,
ag a gytunir yn ysgrifenedig cyn diwedd y pum wythnos ar y cyd â'r awdurdod lleol a'r person sy'n rhoi'r cyfryw hysbysiad neu'n adneuo'r cyfryw gynlluniau.
7
Mewn unrhyw achos pan fydd cwestiwn yn codi ynghylch cywirdeb barn awdurdod lleol y seiliwyd hysbysiad a roddwyd o dan is-adran (3) arni, caiff y person y cafodd y cyfryw hysbysiad ei roi iddo gyfeirio'r mater at Weinidogion Cymru i'w benderfynu a chaiff Gweinidogion Cymru ddiddymu, addasu neu gadarnhau'r hysbysiad.
8
Rhaid i'r ffi a ragnodir fynd gydag unrhyw gyfeiriad at Weinidogion Cymru o dan is-adran (7).
4Dilysu a chyflwyno dogfennau
Mae darpariaethau'r adrannau canlynol o Ddeddf 1984 yn gymwys mewn perthynas â dogfennau yr awdurdodir neu y gorfodir eu rhoi, eu gwneud, eu dyroddi neu'u cyflwyno o dan y Mesur hwn, fel y maent yn gymwys mewn perthynas â'r rhai a roddir, a wneir, a ddyroddir neu a gyflwynir o dan y Ddeddf honno—
a
adran 93 (dilysu dogfennau),
b
adran 94 (cyflwyno dogfennau), ac
c
adran 94A (cyflwyno dogfennau'n electronig).
5Erlyn am dramgwyddau
Dim ond y canlynol sy'n cael cychwyn achos llys mewn perthynas â thramgwydd a grëwyd gan y Mesur hwn neu oddi tano—
a
yr awdurdod lleol, neu
b
Gweinidogion Cymru.
6Dehongli
1
Yn y Mesur hwn—
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru,
ystyr “y Cynulliad” (“the Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru,
“Deddf 1984 ” (“the 1984 Act”) yw Deddf Adeiladu 1984 (p.55),
ystyr “gwaith adeiladu” (“building work”) yw gwaith i godi, estyn neu addasu adeilad,
“hysbysiad corff cyhoeddus” (“public body’s notice”) yw'r ystyr a roddir iddo yn Rhan 2 o Ddeddf 1984,
“hysbysiad cychwynnol” (“initial notice”) yw'r ystyr a roddir iddo yn Rhan 2 o Ddeddf 1984,
ystyr “perchennog” (“owner”) yw'r ystyr a roddir iddo yn Neddf 1984,
ystyr “preswylfa” (“residence”) yw—
- a
tŷ annedd,
- b
fflat,
- c
cartref gofal (pan fydd i “cartref gofal” (“care home”) yr un ystyr ag sydd iddo yn Neddf Safonau Gofal 2000 (p.14))
- d
llety preswyl ar gyfer disgyblion neu fyfyrwyr ysgol, coleg, prifysgol neu sefydliad addysgol arall, neu
- e
ystafell neu grŵp o ystafelloedd o fewn adeilad, os bwriedir i berson neu bersonau ddefnyddio'r ystafell honno neu'r ystafelloedd hynny ar gyfer byw neu gysgu ac eithrio fel rhan o aelwyd unigol sy'n meddiannu'r adeilad cyfan, a
lle y mae adeilad yn cynnwys un breswylfa neu fwy, yn cynnwys unrhyw ran o'r adeilad hwnnw y bwriedir iddo gael ei ddefnyddio gan y rheini sy'n byw yn y breswylfa honno neu'r preswylfeydd hynny at ddibenion atodol i'r feddiannaeth honno sy'n gyffredin â'i gilydd neu â defnyddwyr eraill yr adeilad,
- a
ystyr “rhagnodwyd” (“prescribed”) yw wedi'i ragnodi gan reoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru,
ystyr “rheoliadau adeiladu” (“building regulations”) yw rheoliadau a wneir o dan adran 1 o Ddeddf 1984,
ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw swyddog awdurdod lleol sydd wedi'i awdurdodi yn ysgrifenedig gan yr awdurdod hwnnw, boed yn gyffredinol neu'n benodol, i weithredu mewn materion o fath arbennig neu mewn mater penodol, ac
ystyr “swyddog priodol” (“proper officer”), mewn perthynas â phwrpas ac ag awdurdod lleol, yw swyddog a benodwyd at y diben hwnnw gan yr awdurdod hwnnw.
2
Yn ddarostyngedig i is-adran (3), caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ddiwygio diffiniad “preswylfa” yn is-adran (1) drwy—
a
ychwanegu dosbarth o fangreoedd preswyl, neu
b
diwygio'r disgrifiad o ddosbarth o fangreoedd preswyl sydd eisoes yn bodoli.
3
Yn is-adran (2), ystyr “mangreoedd preswyl” (“residential premises”) yw'r ystyr a roddir iddo yn—
a
paragraff 7 o Ran 1 Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), unwaith y bydd mewn grym, neu,
b
tan hynny, Mater 11.1 yn Rhan 1 Atodlen 5 i'r Ddeddf honno.
7Darpariaeth drosiannol a darpariaeth ganlyniadol etc
1
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, wneud y cyfryw ddarpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth arbed, darpariaeth gysylltiedig, darpariaeth atodol a darpariaeth arall ag y mae Gweinidogion Cymru o'r farn ei bod yn angenrheidiol neu'n briodol mewn cysylltiad â'r Mesur hwn neu i roi llwyr effaith iddo.
2
Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud o dan yr adran hon yn cynnwys darpariaeth sy'n diwygio, diddymu neu fel arall yn addasu deddfiad, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny.
3
Yn yr adran hon, mae “deddfiad” yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, Mesur Cynulliad, Deddf Cynulliad neu Ddeddf Seneddol, ac is-ddeddfwriaeth, pa un a ddaethant i rym cyn neu ar ôl i'r adran hon ddod i rym.
8Rheoliadau a gorchmynion
1
Mewn perthynas â rheoliadau neu orchmynion a wneir gan Weinidogion Cymru o dan y Mesur hwn—
a
rhaid eu gwneud drwy offeryn statudol,
b
caniateir gwneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol, dosbarthiadau gwahanol o achosion a dibenion gwahanol,
c
caniateir gwneud unrhyw ddarpariaethau trosiannol, darfodol, canlyniadol, arbed, cysylltiedig neu atodol fel y gwêl Gweinidogion Cymru yn dda,
d
caniateir eu gwneud, yn achos rheoliadau sy'n rhagnodi materion at ddibenion adrannau 1(4)(c), 3(1) neu 3(2), dim ond ar ôl i Weinidogion Cymru gynnal y cyfryw ymgynghoriad ag y maent o'r farn ei fod yn briodol,
e
caniateir eu gwneud, yn achos—
i
gorchmynion a wneir o dan adran 6(2), a
ii
gorchmynion a wneir o dan adran 7(1) sy'n diwygio, yn diddymu neu'n addasu unrhyw Fesur Cynulliad, Deddf y Cynulliad neu Ddeddf Seneddol,
dim ond os oes drafft o'r gorchymyn wedi'i osod gerbron y Cynulliad a'i gymeradwyo drwy benderfyniad y Cynulliad, ac
f
ac eithrio—
i
y rheini y cyfeirir atynt ym mharagraff (e), a
ii
y rheini a wneir o dan adran 9(3),
maent yn agored i gael eu diddymu yn unol â phenderfyniad gan y Cynulliad.
9Teitl byr a chychwyn
1
Enw'r Mesur hwn yw Mesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2011.
2
Daw darpariaethau canlynol y Mesur hwn i rym ar y diwrnod ar ôl cael Cymeradwyaeth Frenhinol—
a
adrannau 1(4), 3(1) a 3(2), ond dim ond at ddiben galluogi materion i gael eu rhagnodi o dan adrannau 1(4)(c), 3(1) a 3(2), yn ôl y drefn honno,
b
adrannau 6, 7 a 8, ac
c
yr adran hon.
3
Daw gweddill darpariaethau'r Mesur hwn i rym ar y cyfryw ddydd neu ddyddiau a benodir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.