RHAN 5GORFODI SAFONAU

PENNOD 2CYTUNDEBAU SETLO

91Cytundebau setlo

1

Mae cyfeiriad at gytundeb setlo rhwng y Comisiynydd a pherson (D) ynghylch methiant D i gydymffurfio â safon (y “methiant perthnasol”) yn gyfeiriad at gytundeb sy'n cynnwys—

a

ymgymeriad gan D i wneud un neu ragor o'r pethau canlynol—

i

peidio â methu â chydymffurfio ag un neu ragor o safonau;

ii

gweithredu mewn ffordd benodol (a gaiff gynnwys paratoi cynllun o gamau sydd i'w cymryd, ond heb fod wedi ei gyfyngu i hynny);

iii

peidio â gweithredu mewn ffordd benodol; a

b

ymgymeriad gan y Comisiynydd i beidio â chymryd camau gorfodi mewn cysylltiad â'r methiant perthnasol.

2

O ran cytundeb setlo —

a

caiff gynnwys darpariaeth gysylltiedig neu atodol (a gaiff gynnwys darpariaeth ar gyfer terfynu'r cytundeb mewn amgylchiadau penodedig, ond heb fod wedi ei gyfyngu i hynny), a

b

caniateir ei amrywio neu ei derfynu drwy gytundeb rhwng y Comisiynydd a D.

3

Ni fernir bod D wedi cyfaddef y methiant perthnasol dim ond oherwydd ei fod wedi ymrwymo mewn cytundeb setlo.

4

Mae is-adran (1) yn gymwys at ddibenion y Mesur hwn.