7Ymholiadau
(1)Caiff y Comisiynydd gynnal ymholiad i unrhyw fater sy'n ymwneud ag unrhyw un neu ragor o swyddogaethau'r Comisiynydd.
(2)Ond mae hynny'n ddarostyngedig i is-adrannau (3) i (5).
(3)Nid yw is-adran (1) yn awdurdodi'r Comisiynydd i gynnal ymholiad mewn achos—
(a)lle y caiff y Comisiynydd, neu lle y mae'n rhaid iddo, gynnal ymchwiliad safonau o dan Bennod 8 o Ran 4, neu
(b)lle y mae'r Comisiynydd yn ymgymryd ag ymchwiliad o dan Ran 5 (nad yw'n ei derfynu).
(4)Nid yw is-adran (1) yn awdurdodi'r Comisiynydd i gynnal ymholiad i'r methiant, gan un neu ragor o bersonau penodol, i gydymffurfio ag un gofyniad perthnasol neu ragor.
(5)Nid yw is-adran (1) yn awdurdodi'r Comisiynydd i gynnal ymholiad i'r ymyrraeth, gan un neu ragor o bersonau penodol, â'r rhyddid i gyfathrebu yn Gymraeg (ond gweler Rhan 6 am bŵer i ymchwilio i ymyrraeth benodol â'r rhyddid hwnnw).
(6)Nid yw is-adran (4) neu (5) yn atal y Comisiynydd rhag ystyried ymddygiad un neu ragor o bersonau penodol pan fydd yn cynnal ymchwiliad—
(a)i fethiant i gydymffurfio â gofynion perthnasol, neu
(b)i ymyrraeth â'r rhyddid i gyfathrebu yn Gymraeg.
(7)Caiff y Comisiynydd—
(a)terfynu, neu
(b)atal,
ymholiad, neu unrhyw agwedd ar ymholiad.
(8)Os bydd y Comisiynydd yn ystod ymholiad yn dechrau amau y gall person fod wedi methu â chydymffurfio ag un gofyniad perthnasol neu ragor—
(a)wrth iddo barhau â'r ymholiad, rhaid i'r Comisiynydd, i'r graddau y bo'n bosibl, osgoi ystyried ymhellach a yw'r person wedi methu â chydymffurfio â'r gofynion ai peidio,
(b)caiff y Comisiynydd gychwyn ymchwiliad i'r cwestiwn hwnnw o dan Ran 5, ac
(c)caiff y Comisiynydd ddefnyddio gwybodaeth neu dystiolaeth a gafwyd yn ystod yr ymholiad at ddibenion yr ymchwiliad.
(9)Mae Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth atodol ynglŷn ag ymholiadau.
(10)Yn yr adran hon mae i gyfeiriad at fethiant i gydymffurfio ag un gofyniad perthnasol neu ragor yr un ystyr ag yn Rhan 5.