RHAN 2COMISIYNYDD Y GYMRAEG
Gweithio gydag ombwdsmyn eraill, comisiynwyr eraill etc
21Gweithio'n gyfochrog ag ombwdsmyn, comisiynwyr etc
1
Mae'r adran hon yn gymwys os yw'n ymddangos i'r Comisiynydd fod pwnc ymchwiliad i orfodi safonau (“ymchwiliad y Comisiynydd”) yn bwnc sy'n ymwneud â mater a allai fod yn destun ymchwiliad gan ombwdsmon penodol, neu sy'n codi mater felly (“y mater cysylltiedig”).
2
Os yw'r Comisiynydd o'r farn bod hynny'n briodol, rhaid iddo hysbysu'r ombwdsmon ynglŷn â'r mater cysylltiedig.
3
Os yw'r Comisiynydd yn ymgymryd ag ymchwiliad y Comisiynydd, rhaid i'r Comisiynydd, os yw o'r farn bod hynny'n briodol—
a
hysbysu'r ombwdsmon ynglŷn â'r ymchwiliad (gan gynnwys ynglŷn â chynigion y Comisiynydd ar gyfer ymgymryd â'r ymchwiliad), a
b
ymgynghori â'r ombwdsmon mewn perthynas â'r ymchwiliad.
4
Os yw'r Comisiynydd yn ymgymryd ag ymchwiliad y Comisiynydd, a'r ombwdsmon yn ymchwilio i'r mater cysylltiedig, cânt wneud unrhyw un neu ragor o'r canlynol—
a
cydweithredu â'i gilydd mewn perthynas â'u gwahanol ymchwiliadau;
b
cynnal ymchwiliad ar y cyd;
c
paratoi a chyhoeddi adroddiad ar y cyd mewn perthynas â'u gwahanol ymchwiliadau neu â'u hymchwiliad ar y cyd.
5
Os na fydd y Comisiynydd yn ymgymryd ag ymchwiliad y Comisiynydd, rhaid i'r Comisiynydd, os yw o'r farn bod hynny'n briodol—
a
rhoi i'r person sydd am ddwyn yr achos wybodaeth ynglŷn â sut i gyfeirio'r mater cysylltiedig at yr ombwdsmon, a
b
rhoi'r wybodaeth honno i unrhyw berson arall a chanddo fuddiant yn yr achos.
6
Yn yr adran hon—
ystyr “ombwdsmon” (“ombudsman”) yw—
- a
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru,
- b
Comisiynydd Plant Cymru,
- c
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, a
- d
y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol;
- a
mae “ymchwiliad” (“investigation”), mewn perthynas ag ombwdsmon, yn cynnwys archwiliad ac ymholiad, ac mae ymadroddion cytras i'w dehongli'n unol â hynny;
ystyr “ymchwiliad i orfodi safonau” (“standards enforcement investigation”) yw ymchwiliad y mae gan y Comisiynydd yr hawl i'w gynnal, neu ymchwiliad y mae'n ei gynnal, o dan adran 71.
7
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ddiwygio'r diffiniad o “ombwdsmon” yn is-adran (6)—
a
drwy ychwanegu person;
b
drwy hepgor person;
c
drwy newid disgrifiad o berson.
8
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, wneud unrhyw ddarpariaeth arall sy'n briodol yn nhyb Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad â, at ddibenion, neu o ganlyniad i ddarpariaeth a wneir o dan is-adran (7), gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig—
a
i ddarpariaeth sy'n galluogi'r person arall i weithio gyda'r Comisiynydd, neu'n ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny, a
b
i ddiwygiadau i unrhyw ddeddfiad.
9
Cyn gwneud gorchymyn o dan is-adran (7), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r person dan sylw ac ag unrhyw bersonau eraill y mae'n briodol ymgynghori â hwy yn nhyb Gweinidogion Cymru.
10
Mae Atodlen 3 yn cynnwys diwygiadau ynghylch Comisiynwyr ac Ombwdsmyn eraill yn gweithio ar y cyd ac yn gweithio'n gyfochrog â Chomisiynydd y Gymraeg.