Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

20Gweithio ar y cyd gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw'n ymddangos i'r Comisiynydd y gallai pwnc ymchwiliad penodol i orfodi safonau (“ymchwiliad y Comisiynydd”) hefyd fod yn destun ymchwiliad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

(2)Os yw'r Comisiynydd o'r farn fod hynny'n briodol, rhaid iddo—

(a)hysbysu'r Ombwdsmon ynglŷn ag ymchwiliad y Comisiynydd (gan gynnwys cynigion y Comisiynydd ar gyfer ymgymryd â'r ymchwiliad), a

(b)ymgynghori â'r Ombwdsmon mewn perthynas ag ymchwiliad y Comisiynydd.

(3)Os yw'r Comisiynydd yn ymgynghori â'r Ombwdsmon mewn perthynas ag ymchwiliad y Comisiynydd, caiff y Comisiynydd a'r Ombwdsmon wneud unrhyw un neu ragor neu'r oll o'r canlynol—

(a)cydweithredu â'i gilydd mewn perthynas â'r ymchwiliad;

(b)cynnal ymchwiliad ar y cyd;

(c)paratoi a chyhoeddi adroddiad ar y cyd mewn perthynas â'r ymchwiliad.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn—

(a)darparu i'r adran hon fod yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw berson arall fel y mae'n gymwys mewn perthynas ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, a

(b)gwneud darpariaeth arall sy'n briodol yn nhyb Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad â, at ddibenion, neu o ganlyniad i ddarpariaeth a wneir o dan baragraff (a).

(5)Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud o dan is-adran (4) yn cynnwys y canlynol, ond nid yw wedi ei chyfyngu i hynny—

(a)darpariaeth yn galluogi'r person arall i weithio, neu'n ei gwneud yn ofynnol i'r person arall weithio, ar y cyd â'r Comisiynydd; a

(b)diwygiadau i unrhyw ddeddfiad.

(6)Cyn gwneud gorchymyn o dan is-adran (4), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Comisiynydd ac ag unrhyw bersonau eraill y mae'n briodol ymgynghori â hwy yn nhyb Gweinidogion Cymru.

(7)Yn yr adran hon—

  • mae “ymchwiliad” (“investigation”), mewn perthynas ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, yn cynnwys archwiliad ac ymholiad, ac mae ymadroddion cytras i'w dehongli'n unol â hynny;

  • ystyr “ymchwiliad i orfodi safonau” (“standards enforcement investigation”) yw ymchwiliad y mae gan y Comisiynydd yr hawl i ymgymryd ag ef, neu ymchwiliad y mae'n ymgymryd ag ef, o dan adran 71.