Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

150Gorchmynion a rheoliadau

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(2)Ni chaniateir i offeryn statudol sy'n cynnwys unrhyw un neu ragor o'r canlynol gael ei wneud onid oes drafft o'r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a'i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad—

(a)gorchymyn o dan adran 20(4)(a) neu (b) (cymhwyso adran 20 i bersonau ac eithrio Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru etc) sy'n diwygio darpariaeth mewn deddfwriaeth sylfaenol;

(b)gorchymyn o dan adran 21(7) (diwygio'r diffiniad o “ombwdsmon”);

(c)gorchymyn o dan adran 21(8) (darpariaeth mewn cysylltiad â gorchymyn o dan adran 21(7)) sy'n diwygio deddfwriaeth sylfaenol;

(d)gorchymyn o dan adran 22(10) (diwygio'r diffiniad o “person a ganiatawyd”);

(e)rheoliadau o dan adran 26(1) neu (2) (pennu safonau etc);

(f)gorchymyn o dan adran 35 neu 38 (diwygio Atodlen 6 neu 8), ac eithrio gorchymyn sy'n cynnwys darpariaeth o dan yr adran honno y mae'r cyfan ohono'n ddarpariaeth o'r math a nodir yn is-adran (4);

(g)rheoliadau o dan adran 39 (safonau sy'n benodol gymwys);

(h)gorchymyn o dan adran 42 (diwygio Atodlen 9);

(i)rheoliadau o dan adran 68 (rhoi gwybodaeth i'r Comisiynydd);

(j)gorchymyn o dan adran 83(7) (newid uchafswm cosb sifil);

(k)gorchymyn o dan adran 154 (darpariaeth drosiannol a darpariaeth ganlyniadol etc) sy'n cynnwys darpariaeth sy'n diwygio, diddymu neu fel arall yn addasu deddfiad (ac eithrio deddfiad a geir mewn is-ddeddfwriaeth);

(l)rheoliadau o dan baragraff 7(1) o Atodlen 1 (darpariaeth ynghylch penodi'r Comisiynydd);

(m)gorchymyn o dan baragraff 8(1) o Atodlen 1 (arfer swyddogaethau'r Comisiynydd gan Weinidogion Cymru) sy'n diwygio'r Mesur hwn;

(n)gorchymyn o dan baragraff 1 o Atodlen 5 (newid swm arian cyhoeddus a bennir yn y tabl yn Atodlen 5).

(3)Mae unrhyw offeryn statudol arall sy'n cynnwys gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn, ac eithrio offeryn nad yw ond yn cynnwys gorchymyn o dan adran 156 (cychwyn), yn ddarostyngedig i'w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(4)Darpariaeth sy'n diwygio cyfeiriad at berson yng nghofnod person yn y tabl yn Atodlen 6 neu'r tabl yn Atodlen 8 o ganlyniad i newid enw'r person hwnnw yw'r ddarpariaeth y cyfeirir ati yn is-adran (2)(f).

(5)Mae unrhyw bŵer gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn cynnwys pŵer—

(a)i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol, dibenion gwahanol neu ardaloedd daearyddol gwahanol;

(b)i wneud darpariaeth yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achosion penodol;

(c)i wneud darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth arbed, darpariaeth gysylltiedig a darpariaeth arall sy'n angenrheidiol neu'n briodol yn nhyb Gweinidogion Cymru.

(6)Mae pŵer Gweinidogion Cymru o dan adran 155(3) hefyd yn cynnwys, yn achos cychwyn diddymiad darpariaeth yn Neddf yr Iaith Gymraeg 1993, pŵer i ddarparu ar gyfer cychwyn gwahanol ar gyfer awdurdodaethau gwahanol.

(7)Yn yr adran hon, ystyr “deddfwriaeth sylfaenol” yw Deddf Senedd y DU neu un o Fesurau neu Ddeddfau'r Cynulliad.