xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 7LL+CTRIBIWNLYS Y GYMRAEG

Ymarferiad a threfniadaeth etcLL+C

125Canllawiau, cyngor a gwybodaethLL+C

(1)Caiff y Llywydd roi canllawiau i aelodau eraill o'r Tribiwnlys mewn perthynas ag arfer eu swyddogaethau fel aelodau o'r Tribiwnlys.

(2)Rhaid i aelod o'r Tribiwnlys roi sylw i'r canllawiau hynny wrth arfer y swyddogaethau hynny.

(3)Caiff y Llywydd roi cyngor a gwybodaeth mewn cysylltiad â'r Tribiwnlys a'i swyddogaethau (gan gynnwys ymarferiad a threfniadaeth y Tribiwnlys, ond heb ei gyfyngu iddynt).

(4)Caiff y Llywydd roi'r cyngor hwnnw—

(a)i bersonau penodol, neu

(b)yn fwy cyffredinol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 125 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I2A. 125 mewn grym ar 7.1.2014 gan O.S. 2013/3140, ergl. 2(f)