RHAN 6RHYDDID I DDEFNYDDIO'R GYMRAEG

118Adroddiadau

(1)Mae'r adran hon yn gymwys mewn unrhyw achos lle y gwneir cais o dan adran 111.

(2)Caiff y Comisiynydd lunio, a rhoi i Weinidogion Cymru, adroddiad ar—

(a)y cais, a

(b)y camau a gymerwyd gan y Comisiynydd mewn ymateb i'r cais.

(3)Rhaid i'r Comisiynydd roi copïau o unrhyw adroddiad o'r fath i P a D.

(4)Caiff y Comisiynydd gyhoeddi—

(a)adroddiad a roddir i Weinidogion Cymru o dan is-adran (2),

(b)fersiwn o'r adroddiad hwnnw, neu

(c)dogfen arall sy'n ymwneud (boed yn gyfan gwbl neu'n rhannol) â phwnc yr adroddiad hwnnw,

(“dogfen gyhoeddus”), ond dim ond os bodlonir yr amodau canlynol.

(5)Yr amod cyntaf yw bod y Comisiynydd—

(a)yn hysbysu P a D o'r bwriad i gyhoeddi dogfen gyhoeddus, a

(b)cyn belled ag y bo'n ymarferol, yn rhoi i P, D, neu i unrhyw berson arall y mae'r Comisiynydd o'r farn ei fod yn briodol, gyfle i roi i'r Comisiynydd farn am gyhoeddi dogfen gyhoeddus.

(6)Yr ail amod yw—

(a)bod P a D yn cytuno bod y ddogfen gyhoeddus yn cael ei chyhoeddi, neu

(b)bod y Comisiynydd o'r farn ei bod er budd y cyhoedd i'r ddogfen gyhoeddus gael ei chyhoeddi.

(7)Wrth bwyso a mesur a yw er budd y cyhoedd i'r ddogfen gyhoeddus gael ei chyhoeddi, rhaid i'r Comisiynydd gymryd i ystyriaeth, ymhlith pethau eraill—

(a)buddiannau P a D, a

(b)buddiannau unrhyw bersonau eraill y mae'n briodol eu cymryd i ystyriaeth yn nhyb y Comisiynydd.

(8)Yn achos unrhyw gais lle dyfarna'r Comisiynydd nad yw D wedi ymyrryd â rhyddid P i ymgymryd â chyfathrebiad Cymraeg, rhaid i ddogfen gyhoeddus beidio â'i gwneud yn hysbys pwy yw D.