117Cwblhau ymchwiliadau
(1)Mae'r adran hon yn gymwys—
(a)os yw'r Comisiynydd yn penderfynu ymchwilio i'r ymyrraeth honedig, a
(b)os nad yw'r Comisiynydd yn terfynu'r ymchwiliad.
(2)Rhaid i'r Comisiynydd ddyfarnu a yw D wedi ymyrryd â rhyddid P i ymgymryd â'r cyfathrebiad Cymraeg ai peidio.
(3)Os yw'r Comisiynydd yn dyfarnu bod D wedi ymyrryd â rhyddid P i ymgymryd â'r cyfathrebiad Cymraeg, rhaid i'r Comisiynydd hefyd roi ei farn ar yr ymyrraeth (gan gynnwys ei farn ynghylch a ellid cyfiawnhau'r ymyrraeth, ond heb fod yn gyfyngedig i'w farn ar hynny).
(4)Cyn bod y Comisiynydd yn gwneud dyfarniad o dan is-adran (2) neu'n rhoi ei farn o dan is-adran (3), rhaid iddo—
(a)hysbysu D o'r dyfarniad y mae'r Comisiynydd yn bwriadu ei wneud ac o'r farn y mae'r Comisiynydd yn bwriadu ei rhoi, a
(b)cyn belled ag y bo'n ymarferol, rhoi cyfle i D ymateb i'r dyfarniad ac i'r farn sydd yn yr arfaeth.
(5)Rhaid i'r Comisiynydd hysbysu P a D—
(a)o'r dyfarniad ar y cais a wnaed gan P, a
(b)o'i farn ar yr ymyrraeth, os dyfarniad bod D wedi ymyrryd â rhyddid P i ymgymryd â'r cyfathrebiad Cymraeg yw'r dyfarniad.
(6)Rhaid i'r Comisiynydd gydymffurfio ag is-adran (5) cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl gwneud y dyfarniad.
(7)Caiff y Comisiynydd roi i P, D, neu i unrhyw berson arall gyngor ynghylch—
(a)yr ymyrraeth honedig, neu
(b)unrhyw fater sy'n ymwneud â'r ymyrraeth honedig.