RHAN 5GORFODI SAFONAU

PENNOD 5APELAU GAN YR ACHWYNYDD

Apelau yn erbyn dyfarniad nad yw D wedi methu â chydymffurfio â safon

101Apelau o'r Tribiwnlys

1

Mae'r adran hon yn gymwys os yw'r Tribiwnlys wedi penderfynu apêl o dan adran 99.

2

Caiff y Comisiynydd neu P, gyda chaniatâd y Tribiwnlys neu'r Uchel Lys, apelio i'r Uchel Lys ar bwynt cyfreithiol sy'n deillio o'r penderfyniad.

3

Os yw'r Uchel Lys yn dyfarnu bod y Tribiwnlys wedi gwneud camgymeriad ar bwynt cyfreithiol—

a

caiff yr Uchel Lys osod penderfyniad y Tribiwnlys o'r naill du, a

b

os bydd yr Uchel Lys yn gosod y penderfyniad o'r naill du, rhaid iddo naill ai—

i

anfon yr achos yn ôl i'r Tribiwnlys gyda chyfarwyddyd ar gyfer ei ailystyried, neu

ii

ail-wneud y penderfyniad.

4

Mae'r cyfarwyddiadau y caniateir i'r Uchel Lys eu rhoi o dan is-adran (3)(b)(i) yn cynnwys y naill neu'r llall neu'r naill a'r llall o'r canlynol, ond nid ydynt wedi eu cyfyngu iddynt—

a

cyfarwyddyd na all y personau sydd i ailystyried yr achos fod yr un rhai â'r personau a wnaeth y penderfyniad sydd wedi ei roi o'r naill du,

b

cyfarwyddiadau gweithredu mewn cysylltiad ag ailystyried yr achos.

5

Wrth ail-wneud y penderfyniad yn unol ag is-adran (3)(b)(ii), caniateir i'r Uchel Lys—

a

gwneud unrhyw benderfyniad y gallai'r Tribiwnlys ei wneud pe bai'r Tribiwnlys yn gwneud y penderfyniad, a

b

gwneud y canfyddiadau ffeithiol sy'n briodol yn nhyb yr Uchel Lys.

6

Rhaid i gais am ganiatâd i apelio gael ei wneud i'r Tribiwnlys neu i'r Uchel Lys o fewn y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy'n dechrau ar y diwrnod yr hysbysodd y Tribiwnlys y person sy'n gwneud y cais o'i benderfyniad ar yr apêl o dan adran 99.

7

Ond caiff y Tribiwnlys neu'r Uchel Lys, ar gais ysgrifenedig gan y Comisiynydd neu P, ganiatáu i apêl gael ei gwneud ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw os yw'r Tribiwnlys neu'r Uchel Lys wedi ei fodloni bod rheswm da—

a

dros y methiant i wneud cais am ganiatâd i apelio cyn diwedd y cyfnod hwnnw, a

b

os oes unrhyw oedi wedi bod cyn gwneud cais am ganiatâd i apelio ar ôl yr amser priodol, dros yr oedi hwnnw.

8

Mae'r adran hon yn ddarostyngedig i Reolau'r Tribiwnlys.