xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 1STATWS SWYDDOGOL Y GYMRAEG

1Statws swyddogol y Gymraeg

(1)Mae statws swyddogol i'r Gymraeg yng Nghymru.

(2)Heb ragfarnu egwyddor gyffredinol is-adran (1), rhoddir effaith gyfreithiol i statws swyddogol y Gymraeg drwy gyfrwng deddfiadau ynghylch y canlynol—

(a)dyletswyddau ar gyrff i ddefnyddio'r Gymraeg, a'r hawliau sy'n deillio o allu gorfodi'r dyletswyddau hynny, sy'n galluogi siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio'r iaith yn ymwneud y cyrff hynny â hwy (megis darparu gwasanaethau gan y cyrff hynny);

(b)peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg;

(c)dilysrwydd defnyddio'r Gymraeg;

(d)hybu a hwyluso defnyddio'r Gymraeg;

(e)rhyddid personau sy'n dymuno defnyddio'r Gymraeg i wneud hynny gyda'i gilydd;

(f)creu swydd Comisiynydd y Gymraeg; ac

(g)materion eraill sy'n ymwneud â'r Gymraeg.

(3)Mae'r deddfiadau hynny'n cynnwys deddfiadau sy'n gwneud y canlynol (ond nid ydynt wedi eu cyfyngu iddynt)—

(a)ei gwneud yn ofynnol i'r Gymraeg a'r Saesneg gael eu trin ar y sail eu bod yn gyfartal yn nhrafodion Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

(b)rhoi hawl i siarad Cymraeg mewn achosion cyfreithiol yng Nghymru;

(c)rhoi statws cyfartal i destunau Cymraeg a Saesneg—

(i)Mesurau a Deddfau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a

(ii)is-ddeddfwriaeth;

(d)gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i fabwysiadu strategaeth sy'n nodi sut y maent yn bwriadu hybu a hwyluso defnyddio'r Gymraeg;

(e)creu safonau ymddygiad sy'n ymwneud â defnyddio'r Gymraeg, neu â pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg, mewn cysylltiad—

(i)â chyflenwi gwasanaethau,

(ii)â llunio polisi, a

(iii)ag arfer swyddogaethau neu gynnal busnesau neu ymgymeriadau eraill;

(f)creu safonau ymddygiad o ran hybu a hwyluso defnyddio'r Gymraeg;

(g)creu safonau ymddygiad ar gyfer cadw cofnodion mewn cysylltiad â'r Gymraeg;

(h)gosod dyletswydd i gydymffurfio â'r safonau ymddygiad hynny sy'n cael eu creu, a chreu rhwymedïau am fethiannau i gydymffurfio â hwy; ac

(i)creu swydd Comisiynydd y Gymraeg a chanddi swyddogaethau sy'n cynnwys—

(i)hybu defnyddio'r Gymraeg,

(ii)hwyluso defnyddio'r Gymraeg,

(iii)gweithio tuag at sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg,

(iv)cynnal ymholiadau i faterion sy'n ymwneud â swyddogaethau'r Comisiynydd, a

(v)ymchwilio i ymyrraeth â'r rhyddid i ddefnyddio'r Gymraeg.

(4)Nid yw'r Mesur hwn yn effeithio ar statws y Saesneg yng Nghymru.