Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

(a gyflwynwyd gan adran 42)

ATODLEN 9GWEITHGAREDDAU Y MAE'N RHAID PENNU SAFONAU CYFLENWI GWASANAETHAU MEWN PERTHYNAS Å HWY

This schedule has no associated Explanatory Notes

Dyma'r gweithgareddau y cyfeirir atynt yn adran 42(2)—

  • gohebiaeth;

  • galwadau ffôn;

  • llinellau cymorth a chanolfannau galwadau;

  • cyfarfodydd personol;

  • cyfarfodydd cyhoeddus;

  • cyhoeddusrwydd a hysbysebu;

  • arddangosfeydd cyhoeddus;

  • cyhoeddiadau;

  • ffurflenni;

  • gwefannau a gwasanaethau ar-lein;

  • arwyddion;

  • derbyn ymwelwyr;

  • hysbysiadau swyddogol;

  • dyfarnu grantiau;

  • dyfarnu contractau;

  • codi ymwybyddiaeth o'r gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael.